Agenda item

Cais Rhif. P2019/5389 - Canolfan Croeso, Heol Pontneddfechan, Glyn-nedd

 

Cadw'r tŷ allan presennol yn ogystal â'r estyniad ochr unllawr i'w gysylltu â'r prif adeilad er mwyn adleoli'r gegin i'r tŷ allan; adeiladu gât a ffens 2 fedr o uchder er mwyn amgáu'r ardal storio allanol; gosod drws yn lle ffenestr i estyniad ochr y prif adeilad yn y Ganolfan Groeso, Heol Pontneddfechan, Glyn-nedd SA11 5NR.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (cadw'r adeilad allanol ar wahân sydd eisoes yn bodoli yn ogystal ag estyniad unllawr ar yr ochr i’w gysylltu â'r prif adeilad er mwyn hwyluso symud y gegin i'r adeilad allanol; adeiladu ffens a gât 2 medr o uchder er mwyn amgáu'r ardal storio allanol; gosod drws yn lle ffenestr i estyniad ochr y prif adeilad yn y Ganolfan Croeso, Heol Pontneddfechan, Glyn-nedd SA11 5NR) fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:    Cymeradwyo Cais Rhif P2019/5389, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar yr amodau a fanylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Dogfennau ategol: