Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol
Drafft 2018-2019 Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019 yn amodol ar ddiwygio'r
paragraff sy'n ymwneud â'r Digwyddiad Coffáu Swffragetiaid i gynnwys cyfeiriad
ar gyfranogaeth y Cynghorydd L M Purcell a Jane Gebbie,
2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r
Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog digidol i wneud y fath newidiadau ag
y mae eu hangen i'r Adroddiad Blynyddol Crafft cyn ei gyhoeddi, ar yr amod nad
yw'r fath newidiadau'n newid cynnwys y ddogfen a ystyrir gan y Cabinet yn
sylweddol,
3.
Cymeradwyo'r estyniad ar gyfer
y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i fis Ebrill 2020.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Bodloni'r gofynion statudol a nodir yn Rheoliadau
Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: