Cofnodion:
Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:-
Y
Cynghorydd C Clement-Williams
Parthed: Cronfa Gymunedol yr Aelod - Baglan, gan ei fod yn cyfeirio at
ei Chronfa Gymunedol. Gan fod ei budd yn rhagfarnol, gadawodd hithau'r ystafell
yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.
Y
Cynghorydd L C Jones - Parthed: Cronfa
Gymunedol yr Aelod, Pelenna (Clwb Rygbi Tonmawr) - gan fod ei mab yn chwarae i
Glwb Rygbi Tonmawr ac mae ei gŵr yn hyfforddi un o'r timau. Gan fod ei
budd yn rhagfarnol, gadawodd hithau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r
pleidleisio am hynny.
Y
Cynghorydd E V Latham - Parthed Cronfa Gymunedol yr Aelod - Dwyrain Sandfields,
gan fod y ddau adroddiad yn cyfeirio at ei Gronfa Gymunedol. Gan fod ei fudd yn
rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am
hynny.
Y
Cynghorydd P D Richards - Parthed Cronfa Gymunedol yr Aelod - Baglan, gan ei
fod yn cyfeirio at Gronfa Gymunedol yr aelod yn ei ward. Gan fod ei fudd yn
rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am
hynny.
Y
Cynghorydd A Wingrave - Parthed Cronfa
Gymunedol yr Aelod - Llangatwg, gan ei fod yn cyfeirio at ei Chronfa Gymunedol.
Gan fod ei budd yn rhagfarnol, gadawodd hithau'r ystafell yn ystod y drafodaeth
a'r pleidleisio am hynny.