Cofnodion:
Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2018-2022 a
gyflwynwyd i'r cyngor gan y Cabinet ar 2 Hydref 2019. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y
cynnydd a wnaed yn erbyn 3 amcan lles yr awdurdod a fanylwyd yng Nghynllun
Corfforaethol "Llunio CNPT".
Roedd yn bleser nodi bod mwyafrif y camau gweithredu ar y trywydd cywir a
bod staff wedi ymdrin â phethau megis tirlithriadau etc. Roedd y perfformiad wedi'i gynnal yn y rhan
fwyaf o ardaloedd, oedd yn gyflawniad sylweddol o ystyried y toriadau i
adnoddau dynol ac ariannol.
Yn ogystal, lle nodwyd bod perfformiad wedi disgyn, roedd mesurau ar waith
i fynd i'r afael â hyn a byddai'r rhain yn cael eu monitro dros weddill cyfnod
y flwyddyn ariannol.
Aeth yr Arweinydd ati i amlygu prif gyflawniadau'r awdurdod a oedd yn
cynnwys cwblhau cam cyntaf Rhaglen Gwella Ysgolion yr 21ain Ganrif a gwaith y
Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol mewn perthynas ag ymddygiad
gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau.
Roedd y rhain yn erbyn y mesurau cyni a osodwyd gan y cyngor, sef llai o
gyllideb a staff. Cefnogwyd hyn gan yr
aelodau a oedd wedi crybwyll y canlynol:
Mewn perthynas ag Amcan Lles 3, mynegwyd pryder ynghylch nad oedd
trafnidiaeth yn gwella, yn enwedig yn ardaloedd y cwm ac efallai y bydd Rhaglen
Bargen Ddinesig Bae Abertawe'n darparu cyfle i fynd i'r afael â hyn. Nodwyd eu bod yn aros am gyhoeddiad mewn
perthynas â dadreoli bysus.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynllun
Corfforaethol 2018-2022 fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.