Agenda item

Dewis eitemau priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeëdig ar gyfer yr aelodau craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot (CDLl) - ystyried y canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion o drydedd Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) y CDLl

 

Cafodd aelodau drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Esboniodd swyddogion fod gofyn i'r cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sail ar gyfer monitro effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Dywedodd swyddogion y byddai'r wybodaeth am yr adolygiad o'r CDLl ar gael mewn seminar i'r holl aelodau ar 28 Tachwedd. Anogwyd aelodau i ddod i'r digwyddiad.

 

Cynhaliwyd trafodaethau am gyflwyno tai yng Nghoed Darcy.  Esboniodd swyddogion y bu heriau gyda'r datblygiad, ond mae a bydd trafodaethau'n parhau fel rhan o adolygiad.

 

Amlygwyd bod y CDLl yn cynnwys strategaeth a arweinir gan yr economi, a bod rhai ardaloedd o weithgarwch economaidd wedi gwella ac y bu cynnydd tuag at gyflawni'r strategaeth a arweinir gan yr economi.

 

Mewn ymateb i ymholiadau aelodau, pwysleisiodd swyddogion ei bod hi'n bwysig i aelodau, busnesau lleol a datblygwyr gefnogi proses adolygu'r CDLl a bod yn rhan ohoni. Amlygwyd y bydd gan berchnogion tir a phob parti arall â diddordeb gyfle i gynnig safleoedd i'w hystyried yn y Cynllun Disodli.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad.

 

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru:  Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040 - Ymgynghoriad Drafft

 

Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth am Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) drafft.

 

Roedd aelodau'n falch bod trefi Castell-nedd a Phort Talbot wedi'u nodi'n rhan o ardal â thwf cenedlaethol.

 

Nodwyd bod fframwaith polisi'r FfDC yn gofyn am Gynllun Datblygu Strategol (CDS) gan bob rhanbarth; goblygiad hyn yw na fydd trefniadau rhanbarthol anffurfiol neu ymrwymiadau i weithio ar y cyd yn addas mwyach fel dull o gynllunio rhanbarthol sy'n ofynnol gan y FfDC.

 

Esboniodd swyddogion y bydd angen i waith ar y CDS gyflymu a bydd yn adeiladu ar y gwaith cydweithio a gwblhawyd ac sydd eisoes yn mynd rhagddo. Amlygodd swyddogion hefyd y ffaith y bydd y CDLl mabwysiedig canlynol yn dod i ben yn 2026, ac yr eir ati i adolygu'r CDLl ochr yn ochr â'r CDS sy'n dod i'r amlwg. Er na fydd gan y CDS unrhyw ddylanwad nes iddo gael ei fabwysiadu'n ffurfiol, bydd angen i'r adolygiad o'r CDLl sicrhau y bydd y ddogfen yn cyd-fynd â'r fframwaith rhanbarthol sy'n cael ei ddatblygu.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot - Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019

 

Derbyniodd aelodau drosolwg o Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019.

 

Cafwyd trafodaeth am leoliad yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn Nhai-bach/Margam, ac esboniodd swyddogion mai dyma'r lle mwyaf addas ac y byddai'n parhau mewn grym. 

 

Esboniodd swyddogion fod y cyngor yn gweithio gyda Tata, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn gweithgor ar y cyd i reoli ansawdd aer.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch nifer cyfyngedig yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA), esboniodd swyddogion y caiff  ARhAA eu datgan pan fo ansawdd yr aer yn agos i lefel dderbyniol o lygredd neu'n uwch na hynny, felly mae'n newyddion da mai dim ond un ARhAA sydd gennym.

 

Aeth swyddogion ymlaen i esbonio bod ansawdd yr aer yn y fwrdeistref sirol yn gwella ac nad oes gennym faterion sy'n peri pryder difrifol. Rydym yn parhau i fonitro PM10 ac maent yn parhau i ostwng. Mae mesuriadau wrth Orsaf Dân Port Talbot wedi gostwng ac yn dal i gydymffurfio'n hawdd ag amcanion ansawdd aer.

 

Amlygwyd bod amrywiol orsafoedd ar gyfer amrywiol lygryddion ledled y fwrdeistref sirol. Eglurwyd bod gorsafoedd nad oedd mwyach yn recordio problemau ansawdd aer wedi'u tynnu'n ôl o'r blaen gan nad oedd problem mwyach yn yr ardaloedd hyn.  Amlygwyd bod adroddiad wedi'i gyflwyno i bwyllgor blaenorol gyda'r argymhelliad i gau'r gorsafoedd, a bod aelodau wedi cytuno i hyn.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Adroddiad Archwiliad Cymru - Iechyd yr Amgylchedd

 

Gwnaeth y cynghorydd S Rahaman ddatganiad o fudd a gadwodd yr ystafell cyn i'r eitem hon ddechrau.

 

Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am gasgliadau Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) o'u gwaith dilynol yn seiliedig ar yr adroddiad cenedlaethol "Cyflwyno â llai - yr effaith ar Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd a Dinasyddion".

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.