Diweddariad i'r pwyllgor.
Cofnodion:
Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio
ar y cais diweddaredig hwn, fel a fanylwyd yn yr adroddiad. Nododd aelodau fod
angen penderfyniad diweddaredig ar y cais a gyflwynwyd i'r pwyllgor heddiw, sef
cais rhif P2018/0493 (Cyrchfan Antur Cwm Afan), a gytunwyd yn flaenorol gan y
pwyllgor ar 19 Mawrth 2019.
PENDERFYNWYD: |
1. RHOI caniatâd cynllunio i'r datblygiad yn
amodol ar yr amodau a fanylir isod, ac yn amodol ar arwyddo cytundeb
cyfreithiol o dan Adran 106 yn seiliedig ar y Penawdau Telerau cyffredinol
canlynol: • Cynnwys
Fframwaith Cyfreithiol i fynd i'r afael â darpariaeth safle fferm Solar a
safle/safleoedd cydadfer arall/eraill oddi ar y safle ynghyd â Chynlluniau
Rheoli Cynefinoedd cysylltiedig yn unol ag ymagwedd ddilyniannol •
Cyfrannu at/darparu mynediad a gwelliannau i Lwybr Rhwydwaith Beicio
Cenedlaethol 855 •
Gweithredu tirlunio strwythurol ymlaen llaw (i'r graddau y mae'n
ymarferol wrth ystyried gwaith ar y safle).
2. Os nad yw'r cytundeb adran 106 gofynnol wedi'i
gwblhau erbyn 31 Mawrth 2020, y bydd awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i
wrthod caniatâd cynllunio ar y sail, yn absenoldeb y cytundeb cyfreithiol
angenrheidiol, na fyddai effeithiau amgylcheddol a nodwyd y datblygiad, yn
arbennig ar fioamrywiaeth/cynefin, yn cael eu lliniaru, yr union resymau i'w
cytuno mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio. 3. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i
Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a'r Rheolwr Datblygu - Cynllunio, i
wneud newidiadau i'r amodau a/neu Benawdau Telerau'r cytundeb cyfreithiol angenrheidiol,
yn amodol ar ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, hyd at y pwynt
lle caiff y cytundeb cyfreithiol ei arwyddo ac y rhoddir cydsyniad
amlinellol. |
Dogfennau ategol: