Dymchwel rhan gefn yr adeilad rhestredig Gradd II yn rhannol, codi estyniad yn ei lle a newid defnydd yr adeilad cyfan i gyfleuster cymunedol defnydd cymysg sy'n cynnwys caffi (A3), neuadd (D2), ystafelloedd amlddefnydd (D2), campfa (D2) a chyfleusterau ategol, 2 uned A1/A2/A3, swyddfeydd (A2/B1) a lle parcio cysylltiedig, storfa feiciau, storfa finiau, ardal amwynderau gweithwyr, draeniad, gwaith priffyrdd a pheirianneg. (20/08/19 - Ymgynghoriad cynlluniau diwygiedig ar yr adroddiad Asesiad Risg Rhagarweiniol ac atodiadau cysylltiedig A-G) yn Sinema Plaza, Heol Talbot, Port Talbot.
Cofnodion:
Rhoddodd swyddogion
gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (dymchwel rhan gefn yr adeilad
rhestredig Gradd II, codi estyniad newydd a newid defnydd yr adeilad cyfan i
gyfleuster defnydd cymysg ar gyfer y gymuned, sy'n cynnwys caffi (A3), neuadd
(D2), ystafelloedd amlbwrpas (D2), campfa (D2), a chyfleusterau ategol, 2 uned
A1/A2/A3, swyddfeydd (A2/B1) a maes parcio cysylltiedig, storfa feiciau, storfa
finiau, ardal amwynderau i weithwyr, gwaith draenio, priffyrdd a pheirianneg.
(20/08/19 - Ymgynghoriad cynlluniau diwygiedig ar Adroddiad Asesiad Risg
Rhagarweiniol ac atodiadau A-G cysylltiedig) yn Sinema'r Plaza, Heol Talbot,
Port Talbot) fel y manylir arnynt yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Esboniodd y swyddogion
fod gwall teipio yn yr adroddiad a ddosbarthwyd - Dylai Amod 27 ddarllen 06:00
ac nid 07:00.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo Cais Rhif
P2014/0825, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar yr amodau a
fanylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, gan gynnwys aralleirio Amod 27, fel y
nodwyd uchod. |
Dogfennau ategol: