Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad
gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog
Digidol i'w drafod yn y cyfarfod.
Gofynnwyd i Aelodau ohirio'r enwebiad blaenorol am rôl y Dirprwy Faer
ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020-21 ac o ganlyniad, rôl y Maer ar gyfer
blwyddyn ddinesig 2021-22,
a chadarnhau'r enwebiad newydd ar gyfer
yr un cyfnod.
PENDERFYNWYD: 1. Y byddai cais y Cynghorydd L M Purcell i ohirio derbyn rôl
y Dirprwy Faer ar gyfer blwyddyn
ddinesig 2020-21 ac o ganlyniad,
rôl y Maer ar gyfer blwyddyn
ddinesig 2021-22, yn cael ei gymeradwyo.
2. Enwebu'r Cynghorydd J D Morgan ar gyfer rôl
y Dirprwy Faer ar gyfer blwyddyn
ddinesig 2020-21, ac o ganlyniad,
rôl y Maer ar gyfer blwyddyn
ddinesig 2021-22.