Cofnodion:
Derbyniodd Aelodau'r cyngor ddiweddariad llafar gan Ddirprwy Arweinydd
y Cyngor am y datblygiadau sy'n parhau yn
San Steffan ynghylch Brexit.
Byddai'r cyngor yn parhau i
gyfrannu at gynllunio ar gyfer 'Brexit
heb gytundeb', a byddai unrhyw arweiniad
pellach a gyhoeddir gan San Steffan neu Fae Caerdydd yn
cael ei gylchredeg
i Aelodau er gwybodaeth.
PENDERFYNWYD: Nodi'r diweddariad llafar am Brexit.