Agenda item

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:-

 

Y Cynghorydd D Jones - Parthed:     Adroddiad y Pennaeth Trawsnewid - Cronfa Gymunedol yr Aelodau - Aberdulais, gan ei fod yn cyfeirio at ei Chronfa Gymunedol. Gan fod ei budd yn rhagfarnol, gadawodd hithau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.

 

Y Cynghorydd L C Jones - Parthed: Adroddiad y Pennaeth Trawsnewid - Cronfa Gymunedol yr Aelodau - Tonna, gan ei fod yn cyfeirio at ei Chronfa Gymunedol. Gan fod ei budd yn rhagfarnol, gadawodd hithau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.

 

Y Cynghorydd R G Jones - Parthed: Adroddiadau'r Pennaeth Trawsnewid - Cronfa Gymunedol yr Aelodau - Margam (Canolfan Ieuenctid Margam a'r diffibriliwr ym Mharc Margam) gan fod yr adroddiadau'n cyfeirio at ei Gronfa Gymunedol.  Gan fod ei fudd yn rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.

 

Y Cynghorydd E V Latham - Parthed Adroddiad y Pennaeth Trawsnewid - Cronfa Gymunedol yr Aelodau -  Dwyrain Sandfields, gan ei fod yn cyfeirio at ei Gronfa Gymunedol. Gan fod ei fudd yn rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.

 

Y Cynghorydd P A Rees - Parthed: Adroddiad y Pennaeth Trawsnewid - Cronfa Gymunedol yr Aelodau - Cimla a Chastell-nedd, gan ei fod yn cyfeirio at ei Gronfa Gymunedol. Gan fod ei fudd yn rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.

 

Y Cynghorydd P D Richards - Parthed: Adroddiad y Pennaeth Trawsnewid - Cronfa Gymunedol yr Aelodau - Baglan, gan ei fod yn cyfeirio at ei Gronfa Gymunedol. Gan fod ei fudd yn rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.