Adroddiad y Dirprwy Prif
Weithredwr a’r Prif Swyddog Digidol.
Cofnodion:
Yn unol â Chofnod Rhif 3 y cyfarfod a gynhaliwyd ar
11 Gorffennaf, derbyniodd yr Aelodau gynllun prosiect drafft mewn perthynas â
chynyddu cyfranogaeth y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd gan gynnwys
gwe-ddarlledu.
Trafododd Aelodau'r cynllun prosiect drafft gan
gytuno yn ogystal â'r hyn a gynigiwyd yn y cynllun, fod angen i'r cyfarfod
cyntaf hefyd ystyried
·
yr hyn yr oedd yr awdurdod
eisoes yn ei wneud o ran cyfranogiad cyhoeddus
·
faint o awdurdodau lleol sy'n
gwe-ddarlledu ar hyn o bryd, a faint o'r cyhoedd sy'n manteisio ar y gwasanaeth
hwn?
Nododd Aelodau fod Cyd-bwyllgor Craffu'r Fargen
Ddinesig wedi cytuno i we-ddarlledu ac y byddai hyn yn rhoi profiad i swyddogion ac aelodau perthnasol o ffyrdd
gwahanol o ddarparu'r gwasanaeth.
Gofynnodd Aelodau am esboniad o Effeithiau
Cymunedau'r Cymoedd, fel y'u cynhwysir yn yr adroddiad a gylchredwyd, a
dywedwyd wrthynt y rhagwelir y bydd angen i'r gwaith hwn ystyried effaith
cynigion ar gymunedau'r cymoedd. Er enghraifft,
gallai cynhwysiad digidol fod yn broblem mewn rhai ardaloedd.
PENDERFYNWYD: 1. Sefydlu
Grŵp Tasg a Gorffen i ymgymryd â'r gwaith a amlinellwyd yn yr adroddiad er
mwyn paratoi cyngor i’w roi i’r Cyngor erbyn 31
Mawrth 2020;
2. Y byddai holl aelodau Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd yn cael eu cadarnhau'n aelodau o'r Grŵp Tasg a
Gorffen, oni bai fod aelodau'n dweud wrth swyddogion nad oeddent am fod yn rhan
ohono; ac
3. Y
byddai'r cynllun prosiect arfaethedig a gynigir yn yr adroddiad a gylchredwyd
yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar ychwanegu'r canlynol:
·
yr hyn yr oedd yr awdurdod
eisoes yn ei wneud o ran cyfranogiad cyhoeddus
·
faint o awdurdodau lleol sy'n
gwe-ddarlledu ar hyn o bryd a nifer yr aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r
gwasanaeth hwn?
Dogfennau ategol: