Cofnodion:
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.
Nododd Aelodau, mewn perthynas â Chofnod Rhif 1,
fod ymateb wedi'i dderbyn gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
ynghylch y ffaith bod lwfansau gofalu Aelodau'n destun treth, a nodwyd bod sawl
awdurdod lleol wedi codi'r un mater.
Byddai Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn codi'r mater
hwn â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi.
Dogfennau ategol: