Mr Maer,
Fy ngwaith heddiw yw ceisio ymrwymiad llawn y
cyngor i sicrhau cyfle cyfartal i bawb sy'n byw ac yn gweithio yn ein
bwrdeistref sirol neu sy'n ymweld â hi, wrth i ni ddechrau gwaith i
ddiweddaru'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Mae'n bwysig i mi ddechrau drwy ddweud bod gan y
fwrdeistref sirol lawer i fod yn falch ohoni, a llawer i'w ddathlu.
Nododd ymchwil ddiweddar a gyflawnwyd i
gyfeirio'n brand lle ar gyfer y fwrdeistref sirol gyfeillgarwch pobl leol fel
un o'n cryfderau unigryw. Ac mae ymrwymiad y cyngor i gydraddoldeb yn cael ei gydnabod mewn sawl
ffordd:
Rydym newydd dderbyn gwobr arian gan Chwarae Teg
am y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud, ynghyd â'r partneriaid yn yr undebau
llafur, i hyrwyddo cydraddoldeb tâl rhwng y rhywiau.
Yn ddiweddarach y mis hwn yng nghyfarfod y
Cyngor Staff byddwn yn lansio'n swyddogol ein hymrwymiad i gryfhau'r ffordd
rydym yn cefnogi gweithwyr y mae eu hiechyd meddwl yn wael drwy ymrwymo i'r
rhaglen Time2Change.
I gydnabod yr anawsterau y mae pobl sy'n profi
iechyd meddwl gwael yn eu hwynebu yn eu gwaith beunyddiol, rydym yn gweithio
gyda MIND ac UNSAIN i ddarparu hyfforddiant i'n gweithlu er mwyn sicrhau bod
pawb yn hyderus i ymdrin â phobl sy'n profi iechyd meddwl gwael a gwneud
addasiadau rhesymol fel bod gan bawb fynediad cyfartal at wasanaethau'r cyngor.
Rydym hefyd yn cryfhau'r gefnogaeth rydym yn ei
darparu i'n cymuned BME leol i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth ac, ar 23 Medi,
byddwn yn cynnal symposiwm tlodi yma yn Theatr y Dywysoges Frenhinol er mwyn
mesur a phwyso'r caledi ariannol sy'n cael ei brofi ledled y fwrdeistref sirol
a chytuno ar ba beth yn rhagor y gellir ei wneud i liniaru'r caledi ariannol
hwnnw.
Dyma rai enghreifftiau'n unig o'r pethau
ymarferol y byddwn yn eu gwneud i gyflawni'n dyletswyddau cydraddoldeb. Rwy'n siŵr y bydd
gennych eich enghreifftiau eich hunain o feysydd lle mae gwaith y cyngor yn
gwneud camau breision i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o bob math.
Ond Mr Maer, er fyd
mod wedi dechrau drwy ganolbwyntio ar y cadarnhaol, rwy'n siŵr hefyd y
bydd y cyngor yn ymuno â mi i gondemnio'r digwyddiadau hiliol diweddar rydym
wedi'u gweld yn ein bwrdeistref sirol. Roedd y cyntaf yn ymwneud â gwahaniaethu yn erbyn gyrwyr tacsi o
dreftadaeth Bacistanaidd; yn
fwyaf diweddar, cafwyd adroddiadau am swastica'n cael ei arddangos ar gyfeiriad
yng Nghastell-nedd; ac rydym hefyd wedi
gweld graffiti'r asgell dde eithafol mewn cymunedau. Nid oes unrhyw le am y fath ymddygiad na'r syniadau sydd y tu ôl iddo.
Rwy'n galw ar yr holl gynghorwyr a'n cymunedau
ehangach i weithio gyda'i gilydd i wneud Castell-nedd Port Talbot yn fan lle
gall pawb gyd-dynnu a lle ni oddefir unrhyw ffurf ar wahaniaethau.
Mr Maer, mae adolygiad o Gynllun Cydraddoldeb
Strategol y cyngor yn gyfle gwych i ni ymrwymo o'r newydd i ddileu gwahaniaethu,
aflonyddu a fictimeiddio; hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rheini a chanddynt nodwedd warchodedig
a'r rheini hebddynt; meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r
bobl nad ydynt yn ei rhannu.
Y cynnig gerbron y cyngor yw i bob aelod ymwneud yn llawn â'r broses o adnewyddu a chryfhau ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac annog pobl o bob cefndir i gymryd rhan yn y broses fel y gallwn gyda'n gilydd adeiladu Castell-nedd Port Talbot lle mae gan bawb gyfle cyfartal i fwynhau bywyd da.
Cofnodion:
Derbyniodd Aelodau'r cyngor Rybudd o Gynnig dan Adran 10 o Ran 4 (Rheolau Gweithdrefnau) Cyfansoddiad y Cyngor, ynghylch cyfle cyfartal. Cynigiwyd y Cynnig gan y Cynghorydd
D Jones, ei eilio gan y Cynghorydd Alun Llywelyn, a'i gymeradwyo
gan Arweinydd Grŵp y Democratiaid Annibynnol.
Nododd aelodau y byddai symposiwm tlodi'n cael ei gynnal
ar 20 medi 2019 ac nid 23 Medi, fel
y nodwyd yn y Rhybudd o Gynnig.
PENDERFYNWYD: Yr ymrwymir yn llawn i gyfle cyfartal i bawb sy'n byw ac yn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot neu sy'n ymweld â hi.