Cofnodion:
Dywedodd Arweinydd y Cyngor wrth aelodau y byddai angen ymgynghori
ymhellach â'r holl bartïon â diddordeb mewn perthynas â'r uchod.
Ni fyddai llawer o'r cerbydau a ddefnyddir ar hyn
o bryd gan y cyngor i ddarparu
cludiant o'r cartref i'r ysgol
yn addas i'w defnyddio mwyach
o dan y ddogfen Teithio gan Ddysgwyr:
Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. Nid oedd swyddogion
yn gallu dweud yn union pryd byddai'r ymgynghoriad
newydd yn cael ei gynnal
na phryd
y cyhoeddir y polisi newydd.
PENDERFYNWYD: Nodi'r datganiad llafar gan yr Arweinydd ar Bolisi Cymorth Cludiant o'r Cartref i'r Ysogl Castell-nedd Port Talbot 2020.