Agenda item

Derbyn cofnodion cyfarfod blaenorol y cyngor a'u cadarnhau os ystyrir bod hyn yn addas:

Cofnodion:

Trafododd Aelodau fater cau Ysgol Gynradd Godre’r Graig fel a nodwyd yng Nghofnod Rhif 7 gofnodion blaenorol y cyngor. Pwysleisiodd Aelodau fod adeilad yr ysgol wedi'i gau, ond nid yr ysgol - byddai disgyblion yn dechrau'r tymor yr wythnos nesaf yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe. Ychydig iawn o darfu a fu ar eu haddysg, a chadwyd disgyblion yn ddiogel. 

 

PENDERFYNWYD: Cadarnhau cofnodion cyfarfod y cyngor isod fel cofnod cywir

 

                                  17 Gorffennaf 2019.

Dogfennau ategol: