Newid defnydd o dŷ preswyl (C3) i Dŷ Amlfeddiannaeth (C4) gydag uchafswm o 5 preswylydd yn rhif 2 Cilgant Baldwin, Twyni Crymlyn, Castell-nedd Port Talbot SA1 8QE.
Cofnodion:
Rhoddodd y swyddogion gyflwyniad
i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Newid
defnydd o dŷ preswyl (C3) i Dŷ Amlfeddiannaeth (C4) gydag uchafswm o 5 preswylydd yn rhif
2 Cilgant Baldwin, Twyni
Crymlyn, Castell-nedd Port Talbot SA1 8QE) fel y manylwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
Roedd aelod ward lleol yn bresennol i
gyflwyno'i sylwadau yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo
Cais Rhif P2019/5485, yn unol ag
argymhellion swyddogion, yn amodol ar
yr amodau a nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd ac
yn dilyn diwygio'r geiriad ar gyfer amod
3 a ddarparwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
3. Er y manylion a gyflwynwyd, cyn y defnydd llesiannol cyntaf o’r eiddo
fel Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO), rhaid bod cynllun eisoes wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio
Lleol sy'n manylu ar ddarparu
tri lle parcio oddi ar y stryd
o fewn cwrtil yr eiddo a fydd
yn cynnwys manylion arwyneb caled y dramwyfa/ardal barcio a darparu cwrbyn isel. Rhaid rhoi'r
cynllun a gymeradwyir ar waith cyn
y defnydd llesiannol cyntaf o’r eiddo
fel Tŷ Amlfeddiannaeth am y tro cyntaf.
Rheswm:
I sicrhau bod lleoedd parcio digonol ar gyfer
y datblygiad er diogelwch y briffordd ac i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio
â Pholisi BE1 Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot.
Dogfennau ategol: