Cofnodion:
Trafododd yr aelodau y
Blaenraglen Waith a ddosbarthwyd ar gyfer y Pwyllgor Safonau, ac unrhyw feysydd
ychwanegol yr hoffai aelodau eu trafod. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a'r Swyddog Monitro y gallai aelodau ychwanegu meysydd diddordeb at
y Blaenraglen Waith ar unrhyw adeg.
PENDERFYNWYD: Nodi cylch gwaith y Pwyllgor Safonau a'r cefndir
deddfwriaethol y mae'r Pwyllgor Safonau yn gweithredu oddi tano, a
chymeradwyo'r eitemau i'w trafod a nodir ym mharagraff 4 yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: