Cofnodion:
Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Craffu gyflwyniad gan
Gadeirydd y Cyd-bwyllgor, y Cynghorydd Rob Stewart, ar gynnydd y cynllun
gweithredu a ddatblygwyd mewn ymateb i'r adolygiadau amrywiol.
Dywedodd fod y newidiadau i'r Cytundeb Gweithio ar
y Cyd, fel y trafodwyd yn yr adroddiad blaenorol, wedi'u cymeradwyo gan y
Cyd-bwyllgor ac y byddent yn cael eu hanfon cyn hir at Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru. Dywedodd nad oedd yn
disgwyl rownd bellach o drafodaethau yn hyn o beth.
Mewn perthynas â Chyfarwyddwr y Rhaglen - roedd yr
hysbyseb bellach ar waith yn fyw a'r disgwyl oedd y byddai ymgeisydd addas yn
cael ei benodi.
Mewn perthynas â Phrosiect Digidol Abertawe a'r
Egin, disgwyliwyd yr amodau a'r telerau terfynol cyn bo hir a byddai hyn yn
caniatáu i'r Cyd-bwyllgor fanteisio ar gyllid gwerth £18 miliwn.
Roedd £18 miliwn arall ar gael cyn y Nadolig ar yr
amod y bodlonir amrywiol amodau
Nodwyd bod Castell-nedd Port Talbot wedi newid ei
brosiectau ac y byddai'r rhain yn cael eu hystyried gan y Cyd-bwyllgor ym mis
Medi. Yn ychwanegol, nodwyd bod y Ganolfan Iechyd Da yn cael ei adolygu gan
Gyngor Sir Gâr.
Roedd cam cyntaf y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd
Pŵer yn Abertawe bellach wedi'i feddiannu ac mae'r rhaglen yn gweithio
tuag at gartrefi ynni-gadarnhaol.
Gobeithiwyd y byddai hyn yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a bod
adeiladau newydd yn mabwysiadu'r dull hwn yn y dyfodol.
Roedd aelodau'n falch bod mwy o arian i ddod, fodd
bynnag, gofynnwyd pam bod y swm hwn yn fwy na'r swm disgwyliedig
gwreiddiol? Dywedodd y Cynghorydd Stewart
fod Abertawe a Chaerfyrddin eisoes wedi gwario arian ar y ddau brosiect ac y
byddai hwn felly yn cael ei ddyrannu i'r awdurdodau hynny. Yn ychwanegol, roedd Llywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru’n dymuno rhoi mwy o hyblygrwydd i'r Fargen Ddinesig yn lleol.
Golyga hyn y bydd y Cyd-bwyllgor yn cytuno at bwy y dylai'r arian gael ei
ddyrannu. Byddai gan y £18 miliwn cychwynnol amodau a thelerau safonol yn
atodedig iddo. Mae'n debygol y byddai gan yr ail gyfres o £18 miliwn amodau a
thelerau yn atodedig mewn perthynas â'r cynllun gweithredu a ddatblygwyd, o
ganlyniad i'r adolygiadau a gynhaliwyd, gan gynnwys penodi Rheolwr-Gyfarwyddwr.
Gofynnodd y Cyd-bwyllgor Craffu am ddiweddariad ar
y cynllun rhoi ar waith a dywedwyd ei fod yn y broses o gael ei ddatblygu ac y
byddai'n datblygu trwy gydol y rhaglen.
Roedd pryder ynglŷn â safon yr achosion busnes
a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU ac i Lywodraeth Cymru, yn enwedig yr achosion
economaidd, a gofynnodd aelodau beth oedd yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn? Mewn ymateb, dywedwyd wrth yr aelodau fod
newidiadau wedi bod i Lywodraeth y DU ac i Lywodraeth Cymru oedd wedi arwain at
newid yn eu disgwyliadau ac ailadrodd mewn ymholiadau. Roedd y fethodoleg model busnes pum achos yn
broblem, a fyddai bellach yn seiliedig ar ymagwedd bortffolio, ynghyd â'r
dadansoddiad risg. Byddai hyfforddiant
gwell ar gyfer y staff cysylltiedig, fel bod ganddynt y sgiliau cywir i
gwblhau'r achosion busnes yn llwyddiannus. Byddai'r swyddfa ranbarthol yn cael
ei adolygu gan y Rheolwr-Gyfarwyddwr wedi iddo gael ei benodi. Ymddengys bod y broses newydd yn gweithio'n
well.
Yna, diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Steward
am fod yn bresennol yng nghyfarfod heddiw.