Cais cynllunio amlinellol (gan gynnwys mynediad) ar gyfer cyrchfan antur
arfaethedig sy'n cynnwys 600 o gabanau/fflatiau, gwesty â 100 o ystafelloedd
gwely a sba, sgwâr canolog sy'n cynnwys bwytai, gweithgareddau hamdden a
siopau, gweithgareddau antur ac adeiladau cysylltiedig (gan gynnwys chwaraeon
eithafol, gweithgareddau alpaidd/sgïo a choedwig a Trax & Trails), bwytai
ac adeiladau gweinyddol a chynnal a chadw cysylltiedig, a lle parcio i oddeutu
850 o geir, yn ogystal â gweithredoedd tirlunio, draenio a pheirianneg gan
gynnwys ailbroffilio tir, trin ffiniau, cadw adeileddau, goleuadau allanol a
chamerâu cylch cyfyng, a dargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus. Gwybodaeth
ychwanegol a diwygiedig a dderbyniwyd ar 25/01/2019 a 07/02/2019 o dan Reoliad
24 mewn perthynas â bioamrywiaeth, tirwedd ac effaith weledol, effaith
gymdeithasol economaidd a thrafnidiaeth ynghyd â newidiadau i'r uwchgynllun a'r
cynllun ffiniau ar dir ym Mhen y Bryn, Croeserw, Cymer, Port Talbot.
Dogfennau ategol: