Noda'r cyngor hwn:
· Er bod caethwasiaeth wedi'i diddymu ym
1833, mae mwy o gaethweision heddiw nag erioed o'r blaen yn hanes dynol ryw.
Mae ffigurau'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn awgrymu bod dros 40 miliwn
o bobl mewn caethwasiaeth fodern ar draws y byd, gyda bron 25 miliwn yn cael eu
cadw mewn llafur gorfodol.
· Yn 2016, nodwyd bod 3,805 o ddioddefwyr
caethwasiaeth fodern yn y DU. Mae hwn yn ffigur sy'n codi ond mae’n llawer is o
hyd na’r 10-13,000 o ddioddefwyr posib a amcangyfrifir gan y Swyddfa Gartref.
· Mae caethwasiaeth fodern yn digwydd ar
draws y genedl. Mae masnachwyr pobl a meistri caethweision yn defnyddio pa fodd
bynnag y gallant i orfodi a thwyllo unigolion i fywyd o gam-drin,
caethwasanaeth a thriniaeth greulon. Gall hyn gynnwys camfanteisio rhywiol a
throseddol.
· Mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar flaen y gad
o ran sicrhau nad yw'r £6 biliwn sy'n cael ei wario yn y sector cyhoeddus yng
Nghymru’n cefnogi gweithdrefnau cyflogaeth anghyfreithiol ac annheg gan gynnwys
caethwasiaeth fodern, drwy ei Chôd Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni
Cyflenwi.
Cred y
cyngor hwn:
fod angen cymryd camau gweithredu i gynyddu ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth
fodern a'r ffaith ei bod yn digwydd ar draws y DU gan gynnwys yng Nghymru.
bod gan y cynghorau hynny rôl bwysig i'w chwarae wrth sicrhau nad yw eu
contractau a'u cyflenwadau’n cyfrannu at gaethwasiaeth fodern a chamfanteisio.
Mae'r
cyngor hwn wedi penderfynu:
Cefnogi Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni
Cyflenwi a bydd yn gosod darpariaethau, lle bo'n briodol, mewn contractau er
mwyn sicrhau bod ein cyflenwyr posib yn cyflawni'r ymrwymiadau sydd wedi'u
cynnwys yn y côd.
Llunio Datganiad Caethwasiaeth Fodern sy'n nodi sut bydd y cyngor yn mynd
i'r afael â Chaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl. Caiff adroddiad ei gyflwyno
i'r Cabinet ac i Bwyllgor Craffu'r Cabinet a fydd yn amlinellu cynnwys y
datganiad hwn a'r cynigion ar gyfer ei roi ar waith er mwyn i aelodau ei
ystyried a'i gymeradwyo.
Derbyn adroddiad cyhoeddus blynyddol ar y gwaith a wneir gan y cyngor i
fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern ac ar weithredu Côd Ymarfer Llywodraeth
Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.