Agenda a Chofnodion

Bwrdd Adfywio a Datblygu Cynaliadwy’r Cabinet - Dydd Gwener, 25ain Mehefin, 2021 10.05 am

Lleoliad: via Teams

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 14 Mai, 2021.

 

4.

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013: Ystyried gofynion ar gyfer Map Rhwydwaith Teithio Llesol yr Ymgynghoriad Drafft ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a rhoi'r cyhoeddiad/gweithdrefnau ymgynghori ar waith pdf eicon PDF 22 MB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir y canlynol:

 

1.           Cytunir bod dogfen ddrafft yr Ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn sail i'r ymgynghoriad.

 

2.           Bydd trefniadau ymgysylltu ac ymgynghori, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael eu rhoi ar waith.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

I sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

5.

Blaenraglen Waith 2021/2022 pdf eicon PDF 43 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodi'r Blaenraglen Waith

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

7.

Hen Glwb y Rhyddfrydwyr, Stryd y Berllan, Castell-nedd (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, penderfynwyd y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Daw ailddatblygiad yr hen Glwb Rhyddfrydol yn brosiect sy’n ariannol dichonadwy, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

8.

Hen Ysgol Isaf Dyffryn, Port Talbot (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio, ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Caniatáu gwerthu eiddo dros ben ac ennill derbynneb cyfalaf.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

9.

Port Tennant Company Ltd yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, rhoddir cymeradwyaeth i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

a Democrataidd a'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio drefnu’r gweithredoedd, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

I alluogi’r swyddogion i drefnu’r gweithredoedd yn y ffordd fwyaf cost effeithiol ac amserol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

I'w rhoi ar waith ar unwaith.

 

10.

Adnewyddu prydles - Gweithdai Pentref Lôn-las, Sgiwen, Castell-nedd (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, rhoddir awdurdod dirprwyedig hwnnw i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Bydd adnewyddu'r brydles yn caniatáu i'r Gweithdai barhau i

ddarparu ffynhonnell adfywio werthfawr o unedau a swyddfeydd bach ar gyfer busnesau lleol newydd a mwy sefydledig yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.