Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - diweddariad ar gynnydd o ran gweithredu ac adolygu 'Map Rhwydwaith Teithio Llesol' y cyngor pdf eicon PDF 386 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad diweddaru i'r aelodau ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran rhoi Map Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor ar waith a'i adolygu.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r llwybrau teithio llesol. Dywedwyd bod ymgynghoriad wedi'i gynnal ym mis Ionawr 2021 a gafodd ymateb gwych gan y cyhoedd, gyda thros 1,040 o bobl yn cyfrannu. Fodd bynnag, roedd rhai ardaloedd nad oeddent yn cymryd rhan, yn enwedig yr ardaloedd gwledig, Croeserw a Chwm Afan Uchaf; Roedd swyddogion wedi siarad â'r Cynghorwyr lleol yn yr ardaloedd hynny i geisio hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad gan ei bod yn bwysig cael adborth gan y cymunedau i sicrhau y gellid nodi materion penodol. Ychwanegwyd y bydd yr ymateb i'r ymgynghoriad cam cyntaf yn bwydo i mewn i'r ail gam, sef ymgynghoriad ffurfiol a fydd yn cael ei gynnal am 12 wythnos rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Hydref 2021. Soniodd swyddogion pe bai angen am newid yn cael ei nodi o'r ymgynghoriadau, y byddent bob amser yn ymchwilio iddo.

Hysbyswyd yr aelodau fod swyddogion wedi bod yn defnyddio offeryn ymgysylltu Llywodraeth Cymru sef 'Commonplace' i fapio lleoliadau materion a beth oedd y materion hynny. Nodwyd bod yr offeryn yn galluogi swyddogion i adolygu'r materion a nodi a oeddent yn hawdd eu datrys; byddai'r rhain wedyn yn cael eu trosglwyddo i'r adrannau perthnasol yn y gwasanaeth a byddai'r ymateb yn cael ei gydlynu â theithio llesol.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod swyddogion wrthi'n edrych ar ganlyniadau'r ymgynghoriad cyntaf ac yn gweithio gyda Sustrans i fapio llwybrau newydd; nodwyd y llwybrau newydd o'r ymgynghoriad gan fod rhai o'r cyhoedd wedi nodi bylchau yn y system, ac roedd swyddogion wedi ystyried hynny ac wedi dechrau mapio lle'r oedd y bylchau hynny. Hysbyswyd y pwyllgor fod y canllawiau newydd hefyd yn cael eu hystyried ac y byddent yn hanfodol yn y gwaith yn y dyfodol.

Ychwanegodd swyddogion eu bod wedi defnyddio radio, cyfryngau cymdeithasol a’r South Wales Evening Post i hyrwyddo'r ymgynghoriadau, ond roedd angen gwneud rhagor o waith ynghylch hyn i'w hyrwyddo ymhellach; roedd ffeithluniau'n cael eu defnyddio i ddangos yr ardaloedd nad oeddent yn darparu ymateb er mwyn ceisio cael y cymunedau hynny i gymryd rhan.

Mewn rhai rhannau o'r Fwrdeistref Sirol, nodwyd bod problemau gyda rhwystrau ac roedd yn flaenoriaeth i swyddogion geisio dileu'r rhwystrau hynny sy'n atal pobl, yn enwedig y rheini ag anableddau, rhag cael mynediad i'r llwybrau; yn y flwyddyn ariannol hon roedd y tîm yn mynd i edrych ar elfennau fel symud, amnewid mynediad, mesurau rheoli a seddi.

Pwysleisiodd yr aelodau’r angen i ystyried gweledigaeth tymor hwy teithio llesol, y gallai fod angen iddynt gynnwys llwybrau hirach a mwy a'r rheini a ddefnyddir at ddibenion hamdden.

Gofynnwyd a oedd gan y cyngor y gallu i gyflawni'r holl waith a gynhwyswyd yn y canllawiau a’r mapiau newydd a gyhoeddwyd, ac a oedd cynlluniau i adeiladu'r tîm gan ragweld hyn. Hysbyswyd yr aelodau fod y swyddogaeth teithio llesol o fewn yr awdurdod wedi'i rhannu rhwng y swyddogion sy'n gyfrifol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.

2.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Archwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru i Wasanaeth Adfywio'r cyngor fel rhan o'i Amcanion Llesiant

Hysbyswyd yr aelodau o ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i gyhoeddi ym mis Awst 2020; Gofynnodd yr aelodau pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i’w gyflwyno i'r pwyllgor. Esboniodd swyddogion, er i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar ddyddiad penodol, ei bod yn cymryd amser i gwblhau'r adroddiadau.

O ran ymgysylltu ag ymgynghori, nodwyd bod hyn wedi bod yn broblem erioed; yn anffodus, roedd yr amseroedd a roddwyd i swyddogion rhwng yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi a phan oedd angen i'r cyflwyniadau gael eu cyflwyno, yn eithriadol o fyr. Ychwanegwyd, hyd yn oed pe bai digon o adnoddau o fewn y tîm, na fyddai'n bosibl ymgynghori oherwydd yr amserlenni tynn.

Hysbyswyd yr aelodau fod Bwrdd Strategaeth Lleol ar gyfer Adfywio Economaidd a Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus lle mae swyddogion yn gweithio i geisio derbyn cynifer o ymgynghoriadau ag y gallant; roedd cynrychiolaeth aelodau lleol yn bwysig iawn i greu cysylltiadau rhwng y cyngor a'r cymunedau.

Gofynnwyd i swyddogion a oedd yr argymhellion yn atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd wedi'u cwblhau. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr holl argymhellion ar wahanol gamau; roedd adnoddau staff wedi effeithio ar gwblhau rhywfaint o'r gwaith hwn oherwydd ail-leoli staff dros dro a staff a oedd wedi gadael nad oedd eraill wedi’u penodi yn eu lle.

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â rhanddeiliaid a phwysigrwydd cael cyswllt â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Soniodd swyddogion y gallai'r cyngor wneud mwy gyda'r rhanddeiliaid, ond yn aml mae amserlenni a nifer y staff sydd ar gael yn effeithio ar y gallu i wneud hyn. Ychwanegwyd y bydd swyddogion yn nodi bylchau yn dilyn ymgynghoriadau anffurfiol a ffurfiol.

Gofynnodd yr aelodau a oedd gwybodaeth gymharol ar gael am adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar draws yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yr wybodaeth hon ar gael; fodd bynnag, roedd cyngor Castell-nedd Port Talbot yn uchel ei barch ac roedd ganddo nifer o gynlluniau a ystyriwyd yn rhai arloesol ac a fydd yn cael effaith sylweddol o fewn y gymuned.

Gofynnwyd a oedd unrhyw gosbau ar gyfer amserlenni wrth gwblhau'r argymhellion ac os oedd yn rhaid i'r cyngor gydymffurfio â'r holl argymhellion a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw gosbau, fodd bynnag pe bai Swyddfa Archwilio Cymru yn teimlo nad oedd y cyngor yn perfformio'n ddigon da yna gallai effeithio ar y gallu i gael gafael ar arian grant. Ystyriodd swyddogion yr holl bwyntiau a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac roeddent yn fwy na pharod i gydymffurfio a mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn; Roedd yn rhaid i swyddogion weithio gyda'r adnoddau dan sylw, felly gellid gwneud llawer mwy pe bai'r adnoddau ar gael.

Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy yn derbyn adroddiad diweddaru mewn perthynas  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith 2021-22 pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Nododd y pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/22 a nododd swyddogion y pwyntiau a godwyd gan yr aelodau yn ystod y broses graffu cyn penderfynu ar eitem Bwrdd y Cabinet 'Archwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru i Wasanaeth Adfywio'r cyngor fel rhan o'i Amcanion Llesiant'.