Agenda a Chofnodion

Bwrdd Adfywio a Datblygu Cynaliadwy’r Cabinet - Dydd Gwener, 14eg Mai, 2021 10.05 am

Lleoliad: via Teams

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Cymeradwyir cofnodion cyfarfod 16 Ebrill, 2021.

 

4.

Cynllun Peilot Arfaethedig Parcio a Theithio Gwlad y Sgydau pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd caiff y gwaith o gyflwyno prosiect Peilot Parcio a Theithio Gwledig Gwlad y Sgydau, i'w gynnal ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc yn ystod gwyliau haf yr ysgol 2021, ei gymeradwyo.

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

 

Drwy gyflwyno'r prosiect peilot hwn byddem yn gallu cadarnhau a yw'r mesurau hyn yn cynnig cyfleoedd sylweddol i liniaru pwysau parcio

ym mhentref Pontneddfechan.  Mae posibilrwydd y gallai lliniaru'r pwysau hyn wella ansawdd bywyd preswylwyr lleol

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

5.

Archwiliad gan Archwilio Cymru i Wasanaeth Adfywio'r cyngor fel rhan o'i Amcanion Lles pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, nodi’r adroddiad.

 

 

 

6.

Blaenraglen Waith 2021-2022 pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodi'r Blaenraglen Waith

 

7.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â

Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau

eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth

Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

8.

Cynllun Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Talu Iawndal o dan Ddarpariaethau Rhan 1 o Ddeddf Iawndal Tir 1971 (yn eithriedig o dan baragraffau 12 ac 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir talu'r swm iawndal i'r parti yr effeithir arno fel y'i nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Talu iawndal o ganlyniad i gynllun

Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.