Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd S.Reynolds - Adroddiad y Pennaeth Cyfranogiad – Eitem 4 Rhaglen Gefnogaeth yr Haf Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot – gan ei bod yn Ymddiriedolwr Canolfan Maerdy

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 67 KB

• 24 Hydref 2019

• 18 Rhagfyr 2019

• 16 Ionawr 2020

• 23 Ionawr 2020

• 23 Ionawr 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfodydd canlynol y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant:

 

·        24 Hydref 2019

·        18 Rhagfyr 2019

·        16 Ionawr 2020

·        23 Ionawr 2020

·        23 Gorffennaf 2020

 

3.

Dysgu cyfunol yng nghyfnod allweddol 4 ac arholiadau ar gyfer 2021 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau ddiweddariad mewn perthynas â Dysgu Cyfunol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac arholiadau ar gyfer 2021.

 

Rhoddodd swyddogion ac Aelodau ganmoliaeth i ysgolion, rhieni, gwarcheidwaid a disgyblion Castell-nedd Port Talbot am eu hymdrechion i addasu i'r dull dysgu cyfunol newydd hwn.

 

Nodwyd bod ysgolion wedi bod yn addasu i ddull dysgu cyfunol sy'n cynnwys dysgu o bell, ffrydio byw, gwersi wedi'u recordio a chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Roedd yr Aelodau'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed i hwyluso hyn a gofynnwyd bod y Pwyllgor yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y pwnc hwn yn barhaus.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch arholiadau mewn perthynas ag ysgolion yn darparu asesiadau i ragfynegi gradd disgybl yn hytrach nag arholiad ac a gafwyd unrhyw adborth gan athrawon ar y broses hon. Nodwyd y cafwyd adborth gan athrawon ac roedd trafodaethau'n cael eu cynnal yn barhaus ar sut y byddai'r broses hon yn gweithio.

 

Rhoddodd y Pennaeth Trawsnewid ddiweddariad llafar mewn perthynas â'r Grant TGCh ar gyfer Dysgu Cyfunol. Nodwyd bod y Grant Hwb yn bartneriaeth o fewn yr Awdurdod Lleol. Mae'n sicrhau nad oes unrhyw blentyn o dan anfantais oherwydd ei ardal ddaearyddol o ran ei gysylltedd a'i ddyfeisiau. Oherwydd COVID-19 roedd yn bwysig bod gan ddisgyblion fynediad at ddyfais TGCh i weithio gartref. Oherwydd y cynnydd a fu o ran prynu dyfeisiau ar draws yr holl Awdurdodau Lleol, bu prinder dyfeisiau, gan arwain at oedi mewn archebion. Mae'r Tîm Gwasanaethau Digidol wedi sicrhau bod y disgyblion hynny heb ddyfais neu gysylltedd wedi cael gliniaduron wedi'u hadnewyddu a 'MiFi'.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at ddyfyniad a nodwyd yn yr adroddiad: 'Ansawdd yr addysgu, yn hytrach na sut y caiff y gwersi eu cyflwyno'. Canmolodd yr Aelodau'r dull hwn.

 

Gofynnodd yr Aelodau am adborth ar sut roedd dysgu cyfunol yn gweithio mewn colegau. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn codi hyn gyda'r colegau.

 

Ar ôl craffu arno, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

 

4.

Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot - Rhaglen Gefnogaeth yr Haf pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Gefnogaeth yr Haf yr oedd y Gwasanaeth Ieuenctid wedi'i darparu. Nodwyd bod cyllid yn cael ei ddarparu 3 wythnos cyn gwyliau'r haf a oedd yn rhoi amser cyfyngedig i'r Gwasanaeth Ieuenctid gynllunio ffordd ymlaen. Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y gefnogaeth ddarperir gan y Gwasanaeth Ieuenctid i ddisgyblion diamddiffyn a lleoliadau gofal plant ynghyd â phartneriaid a oedd hefyd yn cynnig cefnogaeth.

 

Canmolodd yr Aelodau'r tîm am eu hymdrechion ar ddarparu Rhaglen Gefnogaeth yr Haf gan ystyried bod ganddynt amserlen dynn. Tynnodd yr Aelodau sylw hefyd at y ffaith bod yr adborth gan ddisgyblion a rhieni yn rhagorol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

5.

Adroddiad y Gwasanaeth Cynhwysiad am Drosolwg o Gefnogaeth i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad y Gwasanaeth Cynhwysiad, a oedd yn darparu trosolwg o'r gefnogaeth a roddwyd i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Nodwyd y byddai angen cynnal unrhyw drafodaethau sy'n ymwneud â'r astudiaethau achos mewn sesiwn breifat.

 

Rhannodd yr Aelodau eu pryderon mewn perthynas â'r risgiau yr oedd COVID-19 wedi'u hachosi o ran presenoldeb disgyblion. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod y Swyddogion Lles Addysg yn parhau i ymgysylltu â disgyblion yn ystod y pandemig gan sicrhau eu bod yn cadw eu lefelau presenoldeb mor uchel â phosib yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

 

Nododd yr Aelodau fod rhieni/gwarcheidwaid a chanddynt hawl i Brydau Ysgol am Ddim yn cael eu talu'n uniongyrchol oherwydd COVID-19. Cafwyd trafodaethau ynghylch monitro'r defnydd o'r taliad uniongyrchol er mwyn sicrhau bod y bwydydd cywir yn cael eu prynu.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

6.

Diweddariad llafar ar Effaith COVID-19 ar ddiweithdra ac ymddieithrio ymysg pobl ifanc - Gwaith y Ganolfan Ieuenctid

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau ddiweddariad byr ar waith y Ganolfan Ieuenctid. Nodwyd y cynhaliwyd trafodaethau â'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ystyried datblygu Canolfan Ieuenctid ffisegol ym Mhort Talbot a Chastell-nedd. Fodd bynnag, oherwydd amgylchiadau diweddar yn deillio o Covid-19, penderfynwyd y byddai darpariaeth rithwir yn opsiwn mwy diogel gyda'r gobaith o ddatblygu fersiwn ffisegol maes o law.

 

Nododd yr Aelodau fod gennym 2,500 o bobl ifanc ar hyn o bryd sy'n hawlio Credyd Cynhwysol a 1,100 o bobl ifanc sy'n chwilio am waith o fewn yr Awdurdod Lleol. Mae'r DWP wrthi'n datblygu taith 13 wythnos i bobl ifanc, gyda'r diben o roi profiad gwaith, ffug gyfweliadau, cymorth i lunio CV ac ysgrifennu ceisiadau am swydd i bobl ifanc, ymysg llawer o sgiliau eraill. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael cefnogaeth i chwilio am gyfleoedd gwaith yn unol â'u dyheadau.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai ymarfer mapio'n cael ei gwblhau erbyn diwedd 2020 gan ganolbwyntio ar ddau faes allweddol, gan ddarparu cefnogaeth cyflogaeth a chymorth ar gyfer iechyd a lles emosiynol pobl ifanc. Byddai'r ymarfer mapio hwn yn rhoi golwg glir ar ffordd ymlaen yn y flwyddyn newydd.

 

Byddai'r Awdurdod lleol hefyd yn ymgysylltu â'r Rhaglen Kick-start, a fyddai'n caniatáu i'r cyngor gyflogi prentisiaid, gan ddarparu profiadau pellach.

 

Holodd yr Aelodau a oedd yr Awdurdod Lleol yn ystyried darparu porth i fusnesau bach a oedd yn bwriadu cyflogi prentisiaid. Cadarnhaodd swyddogion fod trothwy penodol y mae'n rhaid i fusnesau ei gyrraedd i sicrhau hyn a byddai'r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda nhw i hwyluso hyn.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch pa mor agored i niwed y mae’r bobl ifanc ac i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt. Holodd yr Aelodau a yw’r ffigurau am nifer y bobl ifanc sy'n ceisio cefnogaeth yn gywir, gan y tybiwyd y gallai'r ffigurau hyn fod wedi cynyddu. Esboniodd swyddogion fod y ffigurau hyn yn gywir, ond y byddent yn gwirio i sicrhau nad oeddent wedi newid.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd y diweddariad llafar.

 

7.

Blaenraglen Waith 2019/2 pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant.

 

8.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn

ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 8 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhesymau dros y mater brys:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

9.

Blaenraglen Waith y Cabinet pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Darparwyd Blaenraglen Waith y Cabinet at ddibenion gwybodaeth yr Aelodau; nodwyd y Blaenraglen Waith

 

10.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 13 Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

11.

Adroddiad y Gwasanaeth Cynhwysiad am Drosolwg o Gefnogaeth i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol - Atodiad 1 (Wedi'i eithrio o dan Baragraff 13)

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas ag atodiad preifat Adroddiad y Gwasanaeth Cynhwysiad, a oedd yn rhoi trosolwg o'r gefnogaeth a ddarperir i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Cynhaliwyd y brif drafodaeth yn eitem 5 uchod mewn sesiwn gyhoeddus. Fodd bynnag, diweddarwyd yr aelodau mewn sesiwn breifat mewn perthynas â'r astudiaethau achos a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.