Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 21ain Hydref, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd M Harvey            Parthed Prosiect Isadeiledd Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan ei fod yn aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Y Cynghorydd S Freeguard        Parthed Prosiect Isadeiledd Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan ei bod yn aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Y Cynghorydd A Llewelyn           Parthed Prosiect Isadeiledd Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan ei fod yn aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 74 KB

·        2 Medi 2020

·        17 Medi 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd canlynol:

·        2 Medi 2020

·        17 Medi 2020

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Is-adran y Cabinet (Cyllid) Agenda'r pwyllgor ar gyfer craffu cyn penderfynu (Cyllid y Cabinet Adroddiadau is-bwyllgor wedi'u hamgáu ar gyfer Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad byr i'r pwyllgor a oedd yn rhoi trosolwg strategol o brosiect isadeiledd digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe; roedd y rhaglen waith benodol hon a'r buddsoddiad arfaethedig yn ymwneud â chysylltedd y rhanbarth, gan gynnwys Castell-nedd Port Talbot. Eglurwyd y byddai'r buddsoddiad yn cynnwys cysylltedd sefydlog ffibr llawn, yr isadeiledd cysylltiedig i'w gefnogi a chysylltedd ffonau symudol, 4G a 5G yn bennaf, a rhwydweithiau di-wifr datblygedig y ‘Rhyngrwyd Pethau'.

Esboniodd swyddogion ei fod yn rhaglen gwerth £55 miliwn dros 5 mlynedd; Ariannwyd £25 miliwn o'r cyfanswm gan y Fargen Ddinesig a byddai'r £30 miliwn arall yn cael ei ariannu gan y sectorau preifat a chyhoeddus. Tynnwyd sylw at y ffaith nad cyfraniadau lleol oedd cyfraniadau'r sector cyhoeddus, yn hytrach amcangyfrifwyd eu bod yn dod o gystadlaethau cenedlaethol a ffrydiau ariannu. Mewn perthynas â chyfraniadau'r sector preifat, nodwyd y byddai'n cael ei ysgogi fel rhan o'r ymarferion caffael amrywiol a gynhaliwyd; roedd y sector preifat yn geidwadol o ran y targedau ariannol a dywedodd Swyddogion nad oeddent yn rhagweld unrhyw broblemau o ran cyrraedd y targedau hynny.

Roedd y cyflwyniad yn nodi'r modd y caiff y prosiect arfaethedig ei gyflawni ar draws tair ffrwd waith a oedd yn cynnwys lleoedd gwledig, di-wifr a lleoedd cysylltiedig y genhedlaeth nesaf; byddai'r prosiect yn darparu cysylltedd mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau ar draws y tair ffrwd waith hynny:

·        Gwledig - buddsoddi mewn cysylltedd gwledig, ac yn y pen draw mewn nifer o ymyriadau i gefnogi'r cymunedau mwyaf gwledig a chymunedau sydd wedi'u gwasanaethu'n wael e.e. ysgogi galw, hyrwyddo ffrydiau ariannu presennol i bobl fanteisio arnynt a chefnogi preswylwyr, cymunedau a busnesau

·        Di-wifr y genhedlaeth nesaf – cyllid sbarduno i ddenu signalau 5G a 4G+ yn y dyfodol ar gyfer rhai ardaloedd lle bo hynny’n gall, a pheth rhwydweithiau di-wifr datblygedig i hwyluso pob math o achosion defnydd y byddai'r rhanbarth yn ceisio’u hariannu e.e. ceir di-yrrwr a gweithgynhyrchu clyfar. Mae amrywiaeth y rhanbarth yn cynnig cyfleoedd niferus i brofi a darparu'r defnydd o 5G ar gyfer y dyfodol

·        Lleoedd cysylltiedig – buddsoddi mewn band eang ffibr llawn a rhwydweithiau ffibr llawn ar draws rhannau trefol y rhanbarth, yn enwedig Port Talbot, Castell-nedd, Abertawe a Llanelli

 

Nododd yr Aelodau’r prif resymau pam yr oedd y prosiect yn cael ei gynnal a oedd wedi'i rannu'n broblemau i'w datrys a chyfleoedd i fanteisio arnynt, a sut byddai cydweithio â Llywodraethau Cymru a'r DU, diwydiannau telathrebu a phartneriaid a rhanddeiliaid rhanbarthol yn helpu i wneud gwahaniaeth.

Roedd rhai o'r problemau i'w datrys yn cynnwys:

·        Signalau ffibr llawn cyfyngedig iawn (dim ond 2.6% o fangreoedd, busnesau a chartrefi Castell-nedd Port Talbot oedd â band eang ffibr llawn); bwriedir defnyddio cyllid y prosiectau i gael cymaint o gysylltedd â phosib

·        22,000 o gartrefi ar draws y rhanbarth a oedd yn cael trafferth cael hyd yn oed ansawdd 30MB yr eiliad o ddarpariaeth rhyngrwyd; bwriedir lleihau'r nifer hwn yn sylweddol

·        Diffyg cystadleuaeth cyflenwyr, sy'n un o'r rhesymau pam nad oedd y rhanbarth wedi'i wasanaethu'n dda o ran cysylltedd; bwriedir newid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.