Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhagarweiniad i bolisi Gofalwr PDF 196 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am gyflwyno Polisi
Gofalwyr fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nod y Polisi oedd cefnogi gweithwyr â
chyfrifoldebau gofalu. Cafwyd cadarnhad mai dim ond 1 cais am addasiad
gwaith fyddai'n cael ei ystyried bob blwyddyn, ond mewn amgylchiadau
eithriadol, gellid apelio yn erbyn penderfyniadau. Roedd y broses apelio yn hyblyg a byddai
amgylchiadau lliniarol yn cael eu hystyried ar sail unigol.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhaglenni Prentisiaid a Phrofiad Gwaith yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot PDF 82 KB Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau wybodaeth am y rhaglenni prentisiaid
a phrofiad gwaith yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot fel a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofrestru Gweithwyr Gofal Cartref PDF 204 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd gwybodaeth am Gofrestru Gweithwyr Gofal Cartref
fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Yn flaenorol, dywedwyd na fyddai'r awdurdod yn
ad-dalu unrhyw ffïoedd cofrestru pellach, ond, ar ôl i gynrychiolwyr undebau
llafur dynnu sylw at y ffaith bod y gweithlu Gofal Cartref yn cynnwys gweithwyr
benywaidd rhan-amser yn bennaf, cytunwyd ag undebau llafur y byddai'r awdurdod
yn talu 50% o'r ffi gofrestru. Ailadroddwyd mai taliad 'untro' oedd hwn ac ni
fyddai'n berthnasol i unrhyw gofrestriadau pellach sy'n digwydd ar ôl 1 Ebrill
2020.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno Cynllun Cyfweliadau Gwarantedig ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog PDF 196 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth am y Cynllun
Cyfweliadau Gwarantedig ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, fel a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Cafwyd cadarnhad y byddai'r cynnig yn berthnasol i
swyddi gwag sy'n cael eu hysbysebu'n allanol yn unig.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trefniadau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2020/21 PDF 80 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau'r trefniadau agor/cau ar
gyfer y prif Swyddfeydd Dinesig ar gyfer cyfnod gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn
Newydd 2020/2021, fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu PDF 53 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau wybodaeth am Adroddiad
Gwybodaeth am y Gweithlu Chwarter 3 2019/20 fel a nodir yn atodiad 1 i'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd yr Aelodau'n falch ein bod yn y 7fed safle o
hyd yng Nghymhariaeth Perfformiad Absenoldeb oherwydd Salwch 2018-2019 – data
Cymru Gyfan. Cafwyd trafodaeth am yr
amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddiwyd gan gynghorau ledled Cymru sy'n effeithio
ar y data, ac o ganlyniad a oedd y data yn offeryn dibynadwy i'w ddefnyddio fel
cymhariaeth. Gofynnodd yr Aelodau i
waith gael ei wneud i edrych ar wahanol ymagweddau'r ddau awdurdod gorau, ac i
ganlyniadau'r gwaith hwnnw gael eu cyflwyno mewn cyfarfod o'r pwyllgor hwn yn y
dyfodol. Cafwyd trafodaeth bellach ar y broses atgyfeirio i
Iechyd Galwedigaethol ac a oedd rhinwedd mewn edrych ar ddewis arall yn lle
absenoldeb salwch, er enghraifft absenoldeb arbennig, absenoldeb anabledd. Canlyniadau i'w cyflwyno mewn cyfarfod o'r
pwyllgor hwn yn y dyfodol. Esboniwyd bod Adnoddau Dynol yn sicrhau bod
cysondeb yn y dull a gymerir o ran salwch, ond bod arddulliau rheoli yn wahanol
wrth weithredu'r polisi.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Polisi Tâl 2020/2021 PDF 57 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniwyd gwybodaeth am y Datganiad Polisi Cyflog
ar gyfer 2020/2021 fel a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cam Gweithredu Brys: Cynnydd yn y Cyfradd Wrth Gefn PDF 37 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y pwyllgor fanylion am gam gweithredu brys y
swyddog - rhif 0319 ynghylch y Cynnydd yn y Gyfradd Wrth Gefn fel a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau
posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4
Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol Cofnodion: Cafodd y pwyllgor
wybodaeth mewn perthynas â'r trafodaethau cyflog cenedlaethol fel a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tâl Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cofnodion: Tynnwyd yr adroddiad yn ôl o'i ystyried yn y
cyfarfod heddiw. |