Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 73 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 12 Medi 2019. Hyrwyddwr y Cymoedd Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau gan y pwyllgor
ar gyfer rôl newydd Hyrwyddwr y Cymoedd. Gwirfoddolodd y Cynghorydd D Whitelock
am y rôl. |
|
Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan aelodau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd S ap Dafydd Parthed: Eitem 4 papurau'r Cabinet ynghylch y weithdrefn
Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, ac eitem 4 papurau'r Pwyllgor Craffu
ynghylch Derbyn i Ysgolion, am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun a
Chanolfan Chweched Dosbarth Gatholig San Joseff ac Ysgol Bae Baglan. M Caddick Parthed:
Eitem 4 papurau'r Cabinet ynghylch y weithdrefn Apeliadau Cludiant o'r Cartref
i'r Ysgol, ac eitem 4 papurau'r Pwyllgor Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am
fod ganddi wyrion mewn ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot, ŵyr sy'n
defnyddio cludiant ysgol, ac mae hi hefyd yn Llywodraethwr mewn ysgol yng
Nghastell-nedd Port Talbot. Y Cynghorydd M Crowley Parthed: Eitem 4 papurau'r Cabinet ynghylch y
weithdrefn Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, ac eitem 4 papurau'r
Pwyllgor Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am ei fod yn llywodraethwr mewn
ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Y Cynghorydd S Harris Parthed: Eitem 4 papurau'r Pwyllgor Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am ei bod hi'n
llywodraethwr mewn ysgol yn Ysgol Gynradd Creunant. Y Cynghorydd J Jones Parthed: Eitem 4 papurau'r
Cabinet ynghylch y weithdrefn Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, ac
eitem 4 papurau'r Pwyllgor Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am fod ganddi
wyrion mewn ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot ac mae hi hefyd yn
llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Pen Afan. Y Cynghorydd D Keogh Parthed: Eitem 4 papurau'r Cabinet ynghylch y
weithdrefn Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, ac eitem 4 papurau'r
Pwyllgor Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am ei bod hi'n llywodraethwr yn
Ysgol Cwm Brombil. Y Cynghorydd S Miller Parthed: Eitem 4 papurau'r
Pwyllgor Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am fod ganddi wyrion yn Ysgol Gynradd Melin ac mae hi hefyd yn Gadeirydd y Llywodraethwr
yn Ysgol Gynradd Melin. Y Cynghorydd R Mizen Parthed: Eitem 4 papurau'r
Pwyllgor Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol
Cwm Brombil ac Ysgol Gynradd Cwmafan. Y Cynghorydd M Protheroe Parthed: Eitem 4 papurau'r Pwyllgor
Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun
Cefn Saeson ac Ysgol Gynradd Melin. Y Cynghorydd P A Rees Parthed: Eitem 4 papurau'r
Cabinet ynghylch y weithdrefn Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, ac
eitem 4 papurau'r Pwyllgor Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am ei fod yn
llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson ac Ysgol Gynradd Crynallt, ac mae
ganddo wyres sy'n defnyddio cludiant ysgol. Y Cynghorydd S Renkes Parthed: Eitem 4 papurau'r Cabinet ynghylch y
weithdrefn Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, ac eitem 4 papurau'r
Pwyllgor Craffu ynghylch Derbyn i Ysgolion, am ei bod hi'n llywodraethwr yn
ysgolion cynradd Baglan a Blaen Baglan. Y Cynghorydd S Renkes Parthed: Eitem 4 papurau'r Pwyllgor Craffu ynghylch
Derbyn i Ysgolion, am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gwaencaegurwen. Y Cynghorydd S Renkes Parthed: Eitem 4 papurau'r Pwyllgor Craffu ynghylch
Derbyn i Ysgolion, am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Eastern ac mae
ganddo blant yn Ysgol Cwm Brombil. Y Cynghorydd S Renkes Parthed: Eitem ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion Grwp Cynghorwyr Craffu Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) PDF 61 KB Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y pwyllgor yn falch o nodi bod yr aelodau a
enwebwyd o Gastell-nedd Port Talbot wedi dod i bob cyfarfod y gwahoddwyd hwy
iddynt, ac roeddent yn darparu her. Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 3 Mehefin, 2019. |
|
Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Cofnodion: Derbyniodd aelodau wybodaeth a data mewn perthynas
â derbyn disgyblion i ysgolion Castell-nedd Port Talbot, ac roeddent yn falch o
nodi bod pob plentyn a oedd wedi gwneud cais am le mewn ysgol yng
Nghastell-nedd Port Talbot wedi derbyn lle. Roedd cyfanswm o 925 o ddisgyblion wedi symud, yn
dilyn ceisiadau trosglwyddo yn ystod y flwyddyn yn 2018/19. Holodd aelodau a
oedd pob disgybl a drosglwyddwyd wedi'i ail-leoli'n llwyddiannus ac yn unol â'i
ddewis cyntaf. Esboniodd swyddogion nad oedd pawb wedi cael ei ddewis cyntaf;
roedd rhai wedi cael eu hail ddewis, a rhai wedi aros yn eu hysgol wreiddiol,
neu wedi dewis apelio yn erbyn y penderfyniad. Trafodwyd yr ysgol newydd yn ardal Coed D’Arcy, a
nodwyd nad oedd wedi'i ddynodi eto yn ysgol Gymraeg neu Saesneg. Disgwylid
grantiau cyfalaf ar gyfer ysgolion Cymraeg yn yr ychydig flynyddoedd nesaf a
fyddai'n lliniaru'r pwysau presennol ar yr ysgolion Cymraeg sy'n bod.
Gobeithiwyd y byddai'r ysgol newydd yng Nghoed D'Arcy yn cael ei hadeiladu yn
2021 - byddai'r ffigurau derbyn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad yn dilyn yr
agoriad. Holodd aelodau ynghylch pa gefnogaeth a oedd ar
gael ar gyfer y broses apeliadau, gan nodi bod y weithdrefn apeliadau wedi'i
nodi'n glir i rieni sy'n dewis apelio, a bod gwybodaeth hefyd ar gael gan
swyddogion addysg a chyfreithiol. Trafodwyd nifer uchel y disgyblion yn ysgol gyfun
Dŵr y Felin, a nododd aelodau bod ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar lle y
lleolir plant, gan gynnwys dewis rhieni, brodyr a chwiorydd yn yr un ysgol, y
broses apeliadau ac agosrwydd y cartrefi plant sy'n derbyn gofal. Trafodwyd cynlluniau wrth gefn rhag ofn y bydd
ysgolion lleol yn llawn - gellid newid dalgylchoedd, gellid ehangu ysgolion, a
byddai'r ysgol newydd yng Nghoed D’Arcy yn cael ei hystyried. Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Gweithdrefn Apeliadau Cymorth Cludiant o'r Cartref
i'r Ysgol. Tynnodd swyddogion sylw at wall teipio ar dudalen
14 papurau bwrdd y Cabinet ynghylch Grŵp Trafnidiaeth y cyngor. Roedd y
ffigurau sy'n ymwneud â chyfansoddiad y grŵp yn anghywir, a byddent yn
cael eu diwygio cyn eu rhoi ar waith. Eglurwyd ail gam newydd y broses apeliadau. Nododd
aelodau, er y byddai'n cynyddu llwyth gwaith swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth
Addysg, roedd swyddogion yno i helpu teuluoedd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Adroddiad Blynyddol am Bobl Ifanc nad ydynt mewn
Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant Nodwyd y swm mawr o waith a oedd ynghlwm wrth nodi
pobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET). Roedd y
ffigurau o flaen yr aelodau'n dryloyw iawn. Gofynnodd aelodau a fyddai modd labelu graffiau'n
gliriach ar adroddiadau dilynol. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. Cwricwlwm i Gymru 2022
- Cyflwyniad Derbyniodd aelodau
gyflwyniad ar y cwricwlwm newydd a fyddai'n cael ei gyflwyno yng Nghymru o
2022. Nodwyd y byddai pob ysgol yn dylunio'i gwricwlwm ei hun a fyddai'n addas
i'r gymuned lle'r oedd yr ysgol. Roedd Grŵp Cynghori ar y Cwricwlwm wedi'i
sefydlu yng Nghastell-nedd Port Talbot â'r diben o gynghori ysgolion ar ymdrin
â'r gofynion sy'n hynod wahanol. Nid oedd yn glir eto
beth fyddai'r man gorffen - ac a fyddai TGAU yn dal i fodoli ac yn y blaen.
Fodd bynnag, byddai angen newid y strwythur arholiadau, gan y byddai'r addysgu
yn newid. Roedd cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y cynigion na fyddai'r
posibilrwydd o newid Llywodraeth yn San Steffan yn effeithio arnynt. Byddai cydweithredu
rhwng athrawon ar draws ysgolion gwahanol yn cael ei annog i ehangu'r sylfaen
wybodaeth, yn lle'r dull traddodiadol o fynd ar gwrs. Roedd arian dysgu
proffesiynol ar gael o hyd fesul aelod o staff, os bydd ysgolion yn dal i
deimlo bod cyrsiau'n fuddiol. Nodwyd y byddai
cwricwlwm disgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY) hefyd yn newid - byddai'r
newid hwn yn cael ei gyflwyno yn y diweddariad ADY blynyddol, yn ogystal â mewn
seminar i aelodau ar ddiwygiadau ADY a drefnwyd ar gyfer mis Chwefror 2020. Yn dilyn craffu, nodwyd
y cyflwyniad. |
|
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 73 KB Cofnodion: Trafodwyd ymweliadau safle ar gyfer aelodau'r
pwyllgor i Ysgol Bae Baglan ac Ysgol Bro Dur. Byddai'r Swyddog Craffu yn
cysylltu ag aelodau i drefnu hyn. Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer
2019/20. |