Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cyng. P A Rees yn Gadeirydd ar
gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 67 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4
Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 73 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/20. |
|
Adroddiad gan Bennaeth Cyfranogiad Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad
gan y Pennaeth Trawsnewid Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiadau effaith a
risg integredig, ac yn unol ag Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013, roddi cymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad ar gynnig i
sefydlu darpariaeth arbenigol i ddisgyblion oed uwchradd ag Anhwylder y
Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd y penderfyniad hwn yn angenrheidiol er mwyn
cydymffurfio â gofynion yr ymgynghoriad ffurfiol a osodwyd ar y cyngor gan y
Côd Trefniadaeth Ysgolion. Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, bydd rhoi'r
cynnig ar waith yn galluogi'r cyngor i hybu safonau addysg uchel a chyflawni
potensial pob plentyn. Bydd hefyd yn galluogi'r cyngor i gyflawni ei ddyletswydd
i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Y diweddaraf am bresenoldeb disgyblion PDF 88 KB Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Diwygio Llywodraethu Ysgolion: Fframwaith Rheoleiddio; Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 73 KB Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Cynllun Busnes Pontardawe - Diweddariad PDF 60 KB Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Nofio am Ddim Llywodraeth Cymru PDF 67 KB Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Mynegwyd pryder gan Aelodau ynghylch y goblygiadau
ar y boblogaeth hŷn yn sgîl y gostyngiad mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru
i gefnogi nofio am ddim i bobl dros 60 oed. Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |