Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 258 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 491 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y byddai'r Blaenraglen Waith yn cael ei llenwi â gwybodaeth yn barod ar gyfer y cyfarfod nesaf; byddai'n bwysig sicrhau bod y Cynllun Corfforaethol, yn amodol ar ei gymeradwyaeth, yn llunio sail y pwyllgor dros y 12 mis nesaf.

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

5.

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Blaenraglen Waith y Prif Weithredwr pdf eicon PDF 315 KB

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad i'r Pwyllgor ynghylch y trefniadau arfaethedig ar gyfer Prif Weithredwr nesaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru, yn unol â phenderfyniadau blaenorol a wnaed gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru.

Eglurwyd, pan sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru, cynigiwyd bod rôl Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru'n cael ei gylchdroi'n flynyddol rhwng Prif Weithredwyr y Cynghorau Cyfansoddol; y Prif Weithredwr cyntaf a benodwyd oedd Karen Jones o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith mai'r cynnig a geir yn yr adroddiad a gylchredwyd oedd bod William Bramble o Gyngor Bwrdeistref Sir Penfro, yn cael ei benodi'n Brif Weithredwr nesaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru; fodd bynnag, y bwriad oedd y byddai rôl newydd y Prif Weithredwr yn dechrau o 1 Tachwedd 2023. Nodwyd mai dyddiad Tachwedd 2023 fyddai'r dyddiad mwyaf priodol i'r trosglwyddiad hwn ddigwydd gan y bydd yn galluogi i ni ddod â threfniadau llywodraethu presennol i ben, a bydd Prif Weithredwr newydd ar waith cyn y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2024/2025 a chyn sefydlu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mynegodd aelodau eu diolch i Karen Jones am y gwaith a wnaed yn y rôl fel Prif Weithredwr cyntaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru.

PENDERFYNWYD:

·        Bydd aelodau'n nodi bod rôl Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru yn cael ei gylchdroi'n flynyddol rhwng Prif Weithredwyr y Cynghorau Cyfansoddol, gan newid yn flynyddol;

·        Bydd aelodau'n penodi Mr William Bramble, Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, fel Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru o 1 Tachwedd 2023 yn unol â'r trefniant hwn.

 

 

6.

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd swyddogion y fersiwn derfynol o'r Cynllun Corfforaethol i'r pwyllgor ar gyfer 2023-2028, ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Nodwyd bod y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys tri amcan lles, ynghyd ag amcan cydraddoldeb.

Nodwyd bod y Cynllun Corfforaethol wedi'i ddiwygio i gydnabod y sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn y broses ymgynghori gyhoeddus. Dywedwyd wrth aelodau bod y cynllun yn seiliedig ar y gyllideb a gymeradwywyd yn gynharach yn y flwyddyn; Roedd swyddogion wedi diwygio'r rhaglen waith ar gyfer y 12 mis nesaf er mwyn cyd-fynd â'r buddsoddiad hwn.

Cynhaliwyd trafodaeth o ran y crynodeb o'r ymatebion a gafwyd o'r cyfnod ymgynghori, a'r amserlen o newidiadau a argymhellir i'r Cynllun Corfforaethol Drafft.

PENDERFYNWYD:

·        Bydd aelodau'n derbyn ac yn ystyried y sylwadau ymgynghori a dderbyniwyd ynghyd ag ymatebion swyddogion a'r argymhellion a ddarparwyd;

·        Bydd aelodau'n rhoi'r awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr wneud unrhyw fân ddiwygiadau golygyddol a/neu ddiwygiadau teipograffyddol i'r Cynllun a'r Asesiad Effaith Integredig (AEI) cyn ei gyhoeddi;

·        Bydd aelodau'n cymeradwyo'r Cynllun i'w gyhoeddi'n ffurfiol fel y'i cwblhawyd.

 

 

7.

Canllawiau'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol pdf eicon PDF 601 KB

Cofnodion:

Cafwyd trafodaeth o ran ymateb y Pwyllgor i arweiniad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Eglurwyd bod y gwaith hwn yn deillio o'r dyletswyddau a osodwyd ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig i ddatblygu a chynhyrchu CTRh. Dywedwyd wrth aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r fersiwn ddiweddaraf o'r Arweiniad Drafft ar Drafnidiaeth Ranbarthol, lle'r oedd gofyn i swyddogion adolygu ac yna rhoi adborth i Lywodraeth Cymru. Cadarnhawyd bod Swyddogion Trafnidiaeth wedi cwblhau eu hadolygiad o'r arweiniad, er mwyn cynghori'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac wedi crynhoi'r canfyddiadau allweddol o fewn yr adroddiad cylchredeg.

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor bod gan swyddogion nifer o bryderon o ran amserlenni, dyletswyddau ac adnoddau; tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·        O ran adnoddau, byddai datblygu'r ffrwd waith hon yn ddarn o waith sylweddol. Bydd llawer o'r gwaith yn cael ei roi i'r adnoddau sydd eisoes dan bwysau ym mhob un o'r Awdurdodau Lleol;

·        Cydnabuwyd bod angen penodi rheolwr rhaglen. Datblygwyd y disgrifiad swydd, a'r cam nesaf fyddai hysbysebu'r swydd;

·        Roedd yr amserlenni ar gyfer datblygu'r CTRh yn uchelgeisiol iawn. Byddai angen gwneud llawer o waith astudio, a byddai'n heriol iawn o ran y manyldeb yr oedd ei angen;

·        O ran y fframwaith polisi, roedd pryderon ynghylch yr ymagwedd o'r pen i'r gwaelod, a'r rhyddid i ddatblygu cynllun trafnidiaeth a oedd yn addas at y diben ar gyfer y rhanbarth. Roedd gan lawer o'r fframwaith polisi ffocws cryf ar gynaliadwyedd, ond roedd angen canolbwyntio ar yr economi hefyd, gyda thrafnidiaeth yn ysgogwr allweddol ar gyfer sut i ddatblygu a gwella'r economi.

·        Bu rhai awgrymiadau y byddai trefniant sy'n debyg i Gomisiwn Burn yn rhan o ddatblygu'r CTRh. Roedd hyn yn bryder gan fod y ddyletswydd ar gyfer cynhyrchu'r CTRh ar y Cyd-bwyllgor Corfforedig; ni fyddai cael haen ychwanegol o fiwrocratiaeth yn cael ei chefnogi, a byddai'n effeithio ar gyfrifoldebau democrataidd yr Awdurdodau Lleol sy'n ffurfio'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig;

·        Roedd pryderon ynghylch faint o waith dadansoddi data sy'n gysylltiedig â datblygu'r CTRh. Er bod sôn bod Trafnidiaeth Cymru'n cefnogi'r gwaith hwn, nid oedd eglurder o ran faint o gefnogaeth fyddan nhw'n gallu ei ddarparu, ac a fyddai cyllid ar gael i ddatblygu hynny. Yn ogystal â'r pryderon hyn, roedd gan Trafnidiaeth Cymru adnoddau cyfyngedig, ac roedd gofyn i ddatblygu'r CTRh ar draws y pedwar rhanbarth, a allai achosi problemau wrth geisio cael cefnogaeth gan Drafnidiaeth Cymru;

·        Roedd pryderon hefyd o ran lefel yr adnoddau a fyddai'n cael ei ddyrannu i ddatblygu prosiectau a rhaglenni a fyddai'n dod o'r CTRh.  Pan ddatblygwyd y cynlluniau i ddechrau yn 2010, roedd neges glir iawn i fod yn uchelgeisiol o ran ymyriadau trafnidiaeth; Ond pan ddatblygwyd y rhaglen gwelwyd lleihad sylweddol yn swm yr arian a oedd ar gael. Roedd hyn yn golygu bod gan swyddogion raglen o brosiectau hynod uchelgeisiol ond nid oedd llawer o gyllid er mwyn ei chyflawni.

 

Ailadroddodd yr aelodau'r pryderon a godwyd gan swyddogion, gan dynnu sylw at bwysigrwydd codi'r rhain gyda Llywodraeth Cymru; yn enwedig o ran y cyllid, amserlenni, diffyg adnoddau a'r materion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Eitemau brys

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.