Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Personél - Dydd Llun, 28ain Tachwedd, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah Mccluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o fudd gan y Cyng T Bowen mewn perthynas ag eitem 4 ar yr agenda.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 15 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Adroddiad Cydraddoldeb mewn Cyflogaeth Blynyddol pdf eicon PDF 592 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Holodd aelodau ynghylch rhannau penodol o'r adroddiad, a gwnaed cais i swyddogion gynnwys rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol nesaf at ddiben eglurder.

 

Trafodwyd cyfleoedd hyfforddiant i swyddogion, ac roedd swyddogion wedi gallu darparu gwybodaeth i'r aelodau ynghylch y darparwyr hyfforddiant presennol a chymdeithasau partner.

 

Penderfynwyd:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i atodiad 1, 2 a 3 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, fod Aelodau'n cymeradwyo cyhoeddi'r gwybodaeth am Gyflogaeth a Chydraddoldeb ar gyfer y flwyddyn 2021-2022.

 

 

5.

Proses Newid Sefydliad pdf eicon PDF 375 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, ac atodiad 1 a 2 yr adroddiad a gylchredwyd, fod Aelodau'n cymeradwyo'r diwygiad arfaethedig (rhan dau) o'r Broses Newid Sefydliad, yn amodol ar unrhyw swyddogion awdurdodi'n cwblhau hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod.

 

6.

Adroddiad Pasbort Addasiadau Rhesymol os oes gennych Anabledd pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Penderfynwyd:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, ac atodiad 1 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, fod Aelodau'n cymeradwyo'r adroddiad Addasiadau Rhesymol - Pasbort Anabledd i gefnogi gweithwyr.

 

7.

Adroddiad Plismona a Gefnogir gan Gyflogwyr pdf eicon PDF 445 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, ac atodiad 1 a 2 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, fod Aelodau'n cymeradwyo'r adroddiad Cynllun Plismona a Gefnogir gan Gyflogwyr a'r ddogfen bolisi gysylltiedig.

 

8.

Lwfans Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl (GPIM) pdf eicon PDF 590 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, (atodiad 1) ac atodiad 2 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, fod Aelodau'n cymeradwyo cynnydd i'r gyfradd tâl gyfredol ar gyfer Lwfansau Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl, wedi'i hôl-ddyddio o 1 Ebrill 2022. 

 

9.

Adroddiad Gwybodaeth y Gweithlu pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

10.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym Mharagraff 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o’r Ddeddf. uchod Act.

 

Cofnodion:

Mynediad i gyfarfodydd

 

Yn unol ag Adran 100B (2) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a Pharagraff Eithriedig 15 yn Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd ar gyfer yr eitem ganlynol. Yn unol hefyd â Pharagraff 21 yr AtodlenM

.

 

 

 

11.

Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol

Cofnodion:

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad preifat.

 

Penderfynwyd:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi, ac y darperir adroddiadau diweddaru pellach os bydd rhagor o wybodaeth yn dod ar gael.

 

12.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.