Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid in Council Chamber
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 171 KB ·
6 Hydref 2022 ·
28 Hydref 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar
6 Hydref 2022 a 28 Hydref 2022 fel cofnodion cywir. |
|||||||||
Cofnodion: Nodi'r Flaenraglen Waith. |
|||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||
Cynllun Ysgol Godre'r Graig PDF 329 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd yr aelodau yr Asesiad Effaith Integredig
diwygiedig. Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig: Y bydd Opsiwn 3 yn cael ei rhoi ar waith i reoli'r
risg a gwella'r amgylchedd lleol, gyda’r gost yn cael ei hariannu gan Gronfa
Wrth Gefn Gorfforaethol y cyngor, neu drwy unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru
sydd ar gael yn y dyfodol. Rheswm dros y Penderfyniad: I reoli'r risgiau a'r rhwymedigaethau sy'n
gysylltiedig â llif malurion o domenni gwastraff ar y safle, gan mai dyma'r
unig ateb fforddiadwy sydd ar gael i'r cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022. |
|||||||||
Rhaglen Gwaith Ychwanegol PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Y bydd y rhaglen o wariant, fel
y nodir yn Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei chymeradwyo i'w
chwblhau dros y 18 mis nesaf ·
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r aelod perthnasol
o'r cabinet, i ymgymryd â chaffael a/neu lunio rhaglenni sy'n seiliedig ar
anghenion cysylltiedig sy'n cael eu blaenoriaethu a'u rhoi ar waith. Rheswm dros y Penderfyniad: Darparu offer ar gyfer darparu gwasanaethau a
chynnal asedau y mae'r cyngor yn gyfrifol amdanynt, er mwyn helpu i fynd i'r
afael â phryderon y gymuned mewn perthynas â'r amgylchfyd trefol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022. |
|||||||||
Siarter Teithio'n Iach PDF 560 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, cymeradwyo bod y cyngor yn dod yn un o lofnodwyr Siarter Teithio
Iach Bae Abertawe. Rheswm dros y Penderfyniad: Mae'r siarter yn ceisio lleihau'r effaith ar yr
amgylchedd lleol drwy leihau'r defnydd a'r ddibyniaeth ar beiriannau tanio
mewnol; i geisio gwneud staff yn fwy heini (yn unol â Deddf Teithio Llesol
Cynulliad Cymru) i leihau anweithgarwch, gordewdra a rhoi hwb i'w lles. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022. |
|||||||||
Parcio ar gyfer Nadolig 2022 PDF 307 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig: Bydd hawl i barcio am ddim ym meysydd parcio talu
ac arddangos Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe rhwng dydd Sadwrn 10
Rhagfyr 2022 a dydd Sul 1 Ionawr 2023 (ac eithrio meysydd parcio'r Gnoll, Parc
Gwledig Coedwig Afan a Glan Môr Aberafan). Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn cefnogi economi canol y dref, cydnabyddir
y byddai darparu parcio am ddim i geir dros y Nadolig yn cefnogi ei hadferiad
ymhellach. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw
i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022. |
|||||||||
Dileu rhan o lwybr troed Rhif 21, Cilybebyll PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Sgrinio
Effaith Integredig, cyflwyno Gorchymyn Diddymu Llwybr Cyhoeddus yn unol ag
adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980 ar gyfer y llwybr a ddangosir fel A-B ar y
cynllun sy’n atodedig i’r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na wneir unrhyw
wrthwynebiadau, cadarnhau'r gorchymyn fel y gwnaed. Rheswm dros y Penderfyniad: ·
Nid oes angen llwybr o’r hyd hwn at ddefnydd y cyhoedd o
ystyried bod llwybr addas arall drwy'r llwybr A-C sy'n ymuno â'r droedffordd
ochr yn ochr â Heol y Graig sy'n cysylltu â phwynt C. ·
Nid yw hyd gwreiddiol llwybr A-B ar gael mwyach ac mewn
unrhyw achos mae graddiant y clawdd o'r tai y tu cefn i'r ffordd bengaead hyd at
bwynt B yn fwy serth na thrwy'r droedffordd hyd at bwynt C. ·
Nid oes llwybr addas arall ar gyfer hyd A-B. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022. |
|||||||||
Gorchmynion Dileu ar gyfer rhan o lwybr troed Rhif 38 Cilybebyll PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig, cyflwyno Gorchymyn Diddymu yn unol ag Adran 118 o Ddeddf
Priffyrdd 1980 mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir fel C-C1-D ar y cynllun
sy’n atodedig i’r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau i'r gorchymyn, yna cadarnhau'r gorchymyn fel y gwnaed. Rheswm dros y Penderfyniad: ·
Mae angen datrys y mater o'r
hyd yma o lwybr sy'n croesi dros ddwy ardd. ·
O ganlyniad i'r datblygiad tai,
collwyd y llwybr gwreiddiol trwy’r cae, ond gellir cael mynediad ar draws y
safle o Heol Castell-nedd i lwybr cyhoeddus rhif 39 o hyd ar hyd ffyrdd yr
ystâd yn bennaf. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw
i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022. |
|||||||||
Dargyfeirio llwybr troed rhif 14 - Cwmafan PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig, cyflwyno Gorchymyn Dargyfeirio llwybr cyhoeddus yn unol ag
Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir fel
A-B-C-D i A-E-D ar gynllun rhif 1 yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, yna cadarnhau'r gorchymyn fel y gwnaed. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn bodloni'r rhesymau dros wneud y gorchymyn
dan brofion hwylustod gan y bydd yn gwella preifatrwydd i’r preswylwyr sy'n byw
yn agos at y llwybr ac ni fydd y dargyfeiriad yn cael unrhyw effaith sylweddol
ar fwynhad o’r llwybr yn ei gyfanrwydd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022. |
|||||||||
Grant Eiddo Masnachol - 5 The Ropewalk, Castell-nedd PDF 716 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig a disgrifiad o'r argymhelliad, y bydd y grant yn cael ei gymeradwyo.
Rheswm dros y Penderfyniad: Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol
ar waith yn unol â'r meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu
at adfywio canol tref Castell-nedd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022. |
|||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Caiff y gwrthwynebiadau eu
cadarnhau ar gyfer Siding Terrace, Lôn Las, Sgiwen - (Dirymu) a (Gwahardd Aros
ar Unrhyw Adeg, Gwahardd Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw Adeg, a
Deiliaid Hawlen Barcio i Breswylwyr yn Unig) (fel y manylir yn Atodiad A i'r
adroddiad a ddosbarthwyd) a bod y cynllun diwygiedig (fel y manylir yn Atodiad
B i'r adroddiad a ddosbarthwyd) yn cael ei roi ar waith ar y safle. ·
Caiff y gwrthwynebwyr eu
hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Gwella'r cynllun parcio presennol i breswylwyr. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022. |
|||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 404 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: Bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei diwygio fel a ganlyn:- Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ac
wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:
Rheswm dros y Penderfyniad: ·
Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.
·
Caiff yr argymhellion hyn eu
mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad
i dendro yn y categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022. |
|||||||||
Perfformiad Chwarter 2 PDF 310 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|||||||||
Eitemau brys Any
urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Chairperson
pursuant to Statutory Instrument 2001 No. 2290 (as amended). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 242 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o
gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth
ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd
y Cyhoedd (lle bo'n briodol. |
|||||||||
Prydlesu Uned 1 Datblygiad Canol Tref Castell-nedd
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig cam cyntaf, cymeradwyo rhoi'r brydles yn ôl y telerau a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd rhoi'r brydles yn caniatáu i'r safle gwag hwn
sydd mewn lleoliad amlwg i gael ei osod a'i weithredu gan gwmni sector hamdden
mawr a darparu incwm blynyddol i'r cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022. |