Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 14eg Tachwedd, 2022 10.01 am, DROS DRO

Lleoliad: Hybrid Council Chamber/Microsoft Teams

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

4.

Cais am Gymeradwyo Trwydded Mangre - Murphys Main Stage pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003

Enw'r fangre

Murphy's Main Stage

Cyfeiriad y fangre

18 Heol yr Orsaf, Port Talbot SA13 1JB

Enw'r Ymgeisydd

Phillip Murphy

Cyfeiriad yr ymgeisydd

18 Heol yr Orsaf, Port Talbot SA13 1JB

Enw'r GMD

Phillip Murphy

 

Penderfynwyd:

Cytunodd yr aelodau i GYMERADWYO'R cais, gyda'r cytundeb i roi'r amodau ychwanegol a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ar waith.  

5.

cais am adolygu trwydded safle- Other Place (Live Lounge) pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried cais gan Iechyd yr Amgylchedd i adolygu'r drwydded mangre ar gyfer Other Place (Live Lounge)

Enw'r fangre

Other Place (Live Lounge)

Cyfeiriad y fangre

9 Ynysderw Road, Pontardawe,

Abertawe SA8 4EG

Enw'r ymgeisydd

Rachel Matthews - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeiriad yr ymgeisydd

Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Castell-nedd SA11 2GG

Enw deiliad y drwydded mangre

HD Pub Investments Ltd

Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Mr Hans Andrei Dionisio Erive

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod nifer sylweddol o ddogfennau wedi'u cyflwyno'n briodol i'r Awdurdod Trwyddedu ddydd Iau 10 Tachwedd 2022. I sicrhau bod gan yr holl bartïon hawl i wrandawiad teg ac i'r holl bartïon ystyried yr holl ddogfennaeth ysgrifenedig yn ofalus, cytunodd yr Is-bwyllgor y dylid GOHIRIO'R cais ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol er budd y cyhoedd.