Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 30ain Tachwedd, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr wybodaeth a’r cyngor canlynol i’r Pwyllgor ynghylch buddiannau a rhagderfyniad, a oedd yn ymwneud yn benodol ag adroddiad Cynllun Gwella Strategol yr Ysgol a oedd wedi’i gynnwys ar agenda’r Cabinet:

·     Roedd y cynnig yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn benderfyniad newydd y bydd angen i'r Aelodau ei wneud; ni fydd y ffaith y gall yr Aelodau fod wedi pleidleisio mewn ffordd benodol mewn cyfarfod blaenorol fod gyfystyr â rhagderfyniad, ar yr amod bod Aelodau'n cadw meddwl agored mewn perthynas â'r cyfarfod newydd hwn.

·     Wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud ag unrhyw fusnes y cyngor, rhaid i Aelodau wneud hynny gyda meddwl agored ac ystyried yr holl wybodaeth o'u blaenau yn wrthrychol, gan roi sylw dyladwy i gyngor y Swyddogion. Yn ystod y broses o wneud penderfyniadau, mae'n rhaid i'r Aelodau ymddwyn yn deg ac er budd y cyhoedd. Roedd yn ofynnol i'r Aelodau wneud eu penderfyniadau ar sail y ffeithiau o'u blaenau, ac ni ddylent fod wedi gwneud penderfyniad cyn y cyfarfod.

·     Os yw'r Aelodau'n ystyried eu bod wedi dod i farn neu benderfyniad sefydlog mewn perthynas â’r mater hwn, ac nad oeddent yn gallu neu neu nad oeddent yn fodlon ystyried unrhyw sylwadau neu gyngor arall, neu gall aelod o’r cyhoedd deimlo wrth ystyried yr holl faterion fod risg yno, mae'n debygol y byddai'r Aelodau wedi penderfynu ar y mater ymlaen llaw. Yn unol â hynny, os yw Aelodau'n teimlo eu bod wedi rhagderfynu eu safbwynt, ni ddylent fod yn cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais. Gallai rhagderfynu annilysu'r penderfyniad a gallai arwain at ddwyn achos yn erbyn y cyngor a gallai hefyd fod yn gyfystyr â thorri Côd Ymddygiad yr Aelodau. Dyma’r cyfle i’r Aelodau ddatgan hynny.

·     Roedd gan yr Aelodau hawl i gael barn ragarweiniol ar fater penodol cyn cyfarfod (a elwir fel arall yn rhagdueddiad) cyn belled â bod yr Aelodau’n cadw meddwl agored a’u bod yn barod i ystyried rhinweddau’r holl ddadleuon a’r pwyntiau a wnaed ynghylch y mater dan sylw cyn dod i benderfyniad.

·     Dylid nodi bod y penderfyniad dan sylw yn un i'r Aelodau benderfynu yn ei gylch.

·     Er mwyn eglurder, roedd ymrwymiadau maniffesto a datganiadau polisi a oedd yn gyson â pharodrwydd i ystyried a phwyso a mesur ffactorau perthnasol wrth wneud y penderfyniad terfynol yn enghreifftiau o rhagdueddiad dilys, nid rhagderfyniad. Yn ogystal â hyn, roedd safbwyntiau a fynegwyd yn flaenorol ar faterion sy'n codi i'w penderfynu mewn digwyddiadau arferol yn cael eu darparu fel mater o drefn. Roedd yr Aelodau'n gallu mynd i’r afael â'r penderfyniad penodol hwn gyda meddwl agored.

 

Gwnaeth yr Aelodau canlynol ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod:

Y Cynghorydd A Llewelyn

Eitem 6 ar Agenda'r Cabinet - Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg gan ei fod yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur ond mae ganddo ollyngiad i siarad a phleidleisio.

Y Cynghorydd J Henton

Eitem 6 ar Agenda'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor graffu ar yr eitem ganlynol ar agenda'r Cabinet:

Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg

Darparodd yr adroddiad a ddosbarthwyd fanylion ynghylch y cynnig ar gyfer ymgynghoriad newydd ynghylch y cynnig i ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe; y cynnig oedd i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed â chanolfan cymorth dysgu arbenigol, mewn adeiladau newydd i ddarparu ar gyfer disgyblion o ddalgylchoedd presennol ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre’r-graig a Llangiwg.

Eglurwyd bod Cabinet y weinyddiaeth flaenorol wedi cymeradwyo'r penderfyniad blaenorol mewn perthynas â'r mater hwn; fodd bynnag, heriwyd y penderfyniad ers hynny a chynhaliwyd adolygiad barnwrol a chafodd y penderfyniad ei wrthdroi. Hysbyswyd yr Aelodau fod y weinyddiaeth newydd wedi ymrwymo i adolygu'r penderfyniad a wnaed mewn perthynas â'r cynnig i ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor ddechrau ymgynghoriad newydd ar gyfer y cynnig.

Pe bai'r Aelodau'n cymeradwyo'r argymhelliad fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, dywedodd Swyddogion y byddent yn annog aelodau'r cymunedau sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn mynegi eu barn.

Cynhaliwyd trafodaeth mewn perthynas â chyfranogaeth y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles yn y broses hon, a swyddogaeth y Cydbwyllgorau Craffu. Dywedodd y Prif Weithredwr mai mater i'r Aelodau Craffu oedd penderfynu sut mae craffu yn cyflawni ei swyddogaethau; trefnwyd cyfarfod gyda Chadeiryddion Craffu i'w hatgoffa o'u darpariaethau o fewn y Cyfansoddiad, sy'n cynnwys galw cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Craffu er mwyn i Aelodau Etholedig eraill fod yn bresennol mewn cyfarfodydd Pwyllgor penodol. Nodwyd y byddai'n ddefnyddiol cael trafodaeth fanylach ag Aelodau'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles mewn perthynas â'r mater hwn, os oeddent yn teimlo ei bod yn bwysig iddynt fod yn bresennol pan fydd adroddiadau yn ymwneud â'r cynnig hwn yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol i Bwyllgor Craffu'r Cabinet.

Holodd yr Aelodau a fyddai cyfarfodydd cyhoeddus yn rhan o'r broses ymgynghori; soniwyd nad oedd y weinyddiaeth flaenorol yn gallu cynnal cyfarfodydd cyhoeddus wyneb yn wyneb yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol ar y cynnig hwn oherwydd pandemig COVID-19. Esboniodd Swyddogion y byddent yn dilyn y gofynion ymgynghori yn ôl yr angen, a chadarnhawyd y byddai elfennau o'r ymgynghoriad yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb â'r cyhoedd.

Gofynnwyd i Swyddogion egluro canlyniadau unrhyw newidiadau posib i'r prif gynnig, pe bai'r cyfnod ymgynghori yn mynd yn ei flaen a bod yr adborth yn rhoi rheswm da dros newid y cynnig hwnnw. Gofynnwyd hefyd, pe bai achos busnes newydd yn cael ei lunio ar gyfer unrhyw ddewisiadau amgen a allai ymddangos yn ymarferol, pa mor hir y byddai’r broses o lunio’r achos busnes yn ei gymryd a phryd y byddai cyfle arall i gyflwyno’r achos busnes hwnnw i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid. Nodwyd pe bai'r Cabinet yn penderfynu peidio â symud ymlaen â'r cynnig a ymgynghorwyd arno, tybir, bryd hynny bod opsiwn a ffefrir ar gael i'w ddilyn o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin â'r mater sydd wedi'i gynnwys yng Nghofnod Rhif 5 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid eu codi fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rheswm dros y mater brys:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

 

 

 

5.

Pwll Nofio Pontardawe - Gwaith brys

Cofnodion:

Rhoddwyd adroddiad i'r Aelodau a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer dyrannu cyllid ar gyfer gwaith brys i'w wneud ym mhwll nofio Pontardawe.

Amlygodd yr adroddiad a ddosbarthwyd fod contractwyr ARUP wedi'u comisiynu i gynnal adolygiad o adeilad pwll nofio Pontardawe. Gofynnwyd i Swyddogion a allent roi manylion ynghylch costau'r arolwg cyflwr a gynhaliwyd gan ARUP. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes nad oedd yr wybodaeth ganddynt wrth law, fodd bynnag, byddai'n gallu darparu'r costau i'r Pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod.

Cynhaliwyd trafodaeth o ran natur y gwaith y bwriedir ei wneud ar y pwll nofio. Nodwyd bod y gwaith a restrwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn waith dros dro i raddau helaeth ac yn opsiwn tymor byr er mwyn cadw'r cyfleuster ar agor; bydd y gwaith adfer a wneir yn ddigonol am gyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf, ac ar ôl y cyfnod hwn dau ddewis yn unig fydd i benderfynu rhyngddynt. Y dewis cyntaf a soniwyd amdano oedd gwaith adnewyddu sylweddol, yr oedd ei gost yn debygol o fod yn fwy na gwerth yr ased; a'r ail ddewis fyddai gosod pwll nofio newydd yn ei le.

Gofynnwyd a oedd Swyddogion yn ceisio cyllid ar gyfer pwll nofio newydd. Eglurwyd nad oedd Swyddogion yn ymwybodol o unrhyw grant a fyddai'n ariannu pwll nofio newydd ar hyn o bryd; Nodwyd bod terfyn cronfa gyfalaf Chwaraeon Cymru tua £50,000, ac ni fyddai hyn yn talu am y costau llawn ariannu pwll nofio newydd. Cytunodd Swyddogion i wneud ymholiadau i'r cwestiwn hwn, a byddent yn hysbysu'r Aelodau os oedd unrhyw ffrydiau cyllido newydd ar gael. 

Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd y byddai'r pwll nofio yn ailagor cyn gynted â phosib at ddefnydd y cyhoedd. Amlygwyd bod angen gwneud y gwaith adfer er mwyn ailagor y pwll nofio a chynnal y cyfleuster. Roedd Swyddogion wedi derbyn sicrwydd gan y contractwr y byddai'n cymryd 3 wythnos i wneud y gwaith adfer; fodd bynnag, nid oedd hyn yn cynnwys yr amser sydd ei angen ar gyfer y gwaith cynllunio a dylunio, a byddai cyfnod y Nadolig hefyd yn dod cyn ailagor y pwll. Soniwyd mai’r dyddiad ailagor arfaethedig oedd diwedd mis Ionawr 2023.

Mynegwyd pryderon ynghylch graddau’r dirywiad yn yr adeiledd, a bod argymhellion o adroddiad 2014 ar bwll nofio Pontardawe nad oeddent wedi'u gweithredu. Eglurodd y Prif Weithredwr fod gan y cyngor isadeiledd mawr a chronfeydd annigonol i allu cynnal yr holl adeileddau hynny i'r safon a ffefrir; dyma'r sefyllfa yn gyffredinol ers nifer o flynyddoedd. Nodwyd pan fyddai'r cyngor yn derbyn arian grant ei fod yn cael ei gyfeirio gan amlaf at isadeiledd newydd; nid oedd digon o gyllid buddsoddi ar gael i fuddsoddi yn yr adeileddau presennol, felly roedd dirywiad mewn llawer o'r adeileddau hynny. O ran manylion pwll nofio Pontardawe, cadarnhaodd Swyddogion y byddent yn ymchwilio i weld pam y mae bwlch rhwng yr archwiliadau. Awgrymwyd y dylai Pwyllgor Craffu Gwasanaethau’r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ychwanegu'r mater hwn at ei Flaenraglen Waith, gan fod hon  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 405 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.