Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd penodi'r Cynghorydd A
Wingrave yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Croeso a galw’r enwau Cofnodion: Croesawodd y
Cynghorydd A. Wingrave bawb i'r cyfarfod a galwyd yr enwau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
dderbyniwyd Unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 214 KB Cofnodion: Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2021. |
|
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 410 KB Cofnodion: Nodi'r
Flaenraglen Waith. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Mabwysiadu Safleoedd Tacsi PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dechrau ar y
broses o fabwysiadu safleoedd cerbydau hacni yn unol ag Adran 63(1) o Ddeddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Rheswm dros
y Penderfyniad: I alluogi
Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio Cyfreithiol y cyngor i gynnal yr ymgynghoriad
a'r hysbysebu angenrheidiol cyn cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i
ben am 9am ddydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2021. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' ar gyfer
yr eitem hon. Ymgynghoriad: Cynhelir
ymgynghoriad yn unol â gofynion statudol. |
|
Cofnodion: Penderfyniadau: 1. Bod y pwerau canlynol yn Rheoliadau Lles
Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) yn
cael eu dirprwyo i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a'r
Rheolwr Rheoleiddio Cyfreithiol. Pŵer i roi trwydded Pŵer i wrthod trwydded Pŵer i adnewyddu trwydded Pŵer i amrywio trwydded Pŵer i amrywio trwydded ar
unwaith Pŵer i osod amodau Pŵer i atal trwydded dros dro Pŵer i atal trwydded dros dro ar
unwaith Pŵer i adfer trwydded sydd wedi'i
hatal Pŵer i ddiddymu trwydded. 2. Bod y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd yn diweddaru Cyfansoddiad Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn unol
â hynny. Rheswm dros
y Penderfyniadau: Galluogi'r
cyngor i ddelio'n effeithlon â cheisiadau a materion lles anifeiliaid o dan
Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag
Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Rhoi
Penderfyniadau ar Waith: Mae'r
penderfyniad i'w roi ar waith ar unwaith.
Nid oes cyfnod tri diwrnod galw i mewn ar yr eitem hon. |
|
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Adolygiad o Deithio Llesol CNPT PDF 1013 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlygwyd yn
y cyfarfod fod gwybodaeth wedi'i hepgor o Atodiad 3 yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Dosbarthwyd fersiwn wedi'i
diweddaru yn y cyfarfod a'i hatodi i'r cofnodion er gwybodaeth. Penderfyniadau: O ystyried
yr adroddiad a cham cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig fel y nodir yn Atodiad
1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd: 1. Bod
yr ymatebion i'r sylwadau a dderbyniwyd ar y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol
diwygiedig, fel y'u crynhoir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac a gyflwynir yn
Atodiad 2, yn cael eu cymeradwyo. 2. Bod
y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol diwygiedig fel y'u cyflwynwyd yn electronig
i Aelodau cyn y cyfarfod yn cael eu cymeradwyo. 3. Bod
dosbarthiad a blaenoriaethu drafft y llwybrau Teithio Llesol fel y nodir yn
Atodiad 3, a'r gweithdrefnau cyhoeddi/ymgynghori fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael eu cymeradwyo. 4. Rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, mewn
ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, i benderfynu
ar ddosbarthiad a blaenoriaethu'r llwybrau Teithio Llesol, yn dilyn
ymgynghoriad. Rheswm dros y Penderfyniadau: Sicrhau bod
y cyngor yn cydymffurfio â gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith: Bydd y
penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n
dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2021. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn'
am yr eitem hon. Ymgynghoriad: Cynhaliwyd
dau ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol diwygiedig. Mae'r adroddiad a ddosbarthwyd yn amlinellu
canlyniadau'r ail ymgynghoriad cyhoeddus ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol
(Cam 2 Gorffennaf 2021 i Hydref 2021) ac yn cynnig ymgynghoriad ychwanegol ar
ddosbarthiad a blaenoriaethu diwygiedig y llwybrau Teithio Llesol. |
|
Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2021/2022 - Chwarter 2 PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriwyd
yr Aelodau at wybodaeth atodol a hepgorwyd o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Dosbarthwyd hyn i'r Aelodau cyn y cyfarfod. Penderfyniad
I'W NODI: Nodi'r
Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer 2021-2022 – Chwarter 2. |
|
Cynllun Datblygu Lleol newydd Castell-nedd Port Talbot 2021-2036 PDF 9 MB Cofnodion: Penderfyniadau: Gan roi sylw
dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid cyflwyno'r canlynol i'r cyngor
i'w cymeradwyo: 1. Cytundeb
Cyflawni newydd y Cynllun Datblygu Lleol, fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad
a ddosbarthwyd ac a gyflwynwyd yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. 2. Adroddiad
Cwmpasu'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig fel y nodir yn Atodiad 4 yr
adroddiad a ddosbarthwyd. 3. Sefydlu
a phennu Penawdau Telerau Gweithgor Aelodau, fel y nodir yn Atodiad 5 yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Rhesymau
dros y Penderfyniadau: Galluogi'r
cyngor i gydymffurfio ag Adran 63 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygiad)
2015; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015); Deddf Cydraddoldeb
(2010); Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015; Polisi Cynllunio Cymru 11
(2021) a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu, Argraffiad 3 (2020). Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith: Bydd y
penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2021. Nid oedd unrhyw 'alwadau i
mewn' am yr eitem hon. Ymgynghoriad: Roedd y DA
a’r ACI drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos, ynghyd ag
ymgynghoriadau wedi'u targedu gydag ystod o gyrff rhanddeiliaid penodol a
chyffredinol ac ymgyngoreion statudol. Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol
ar 16 Awst tan 27 Medi 2021. |
|
Grant Creu Lleoedd - Trawsnewid Trefi PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad
I'W NODI Nodi'r
gweithgareddau cymwys a'r ardaloedd anheddiad arfaethedig ar gyfer darparu'r
grant. |
|
Estyniad Contract yn unol â Rheol 7.2 o'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau PDF 852 KB Cofnodion: Penderfyniad
I'W NODI Bod yr
adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Eitem Frys Cofnodion: Oherwydd yr
angen i ddelio yn awr â'r materion a gynhwysir yng Nghofnodion Rhif 14 isod,
cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r rhain yng nghyfarfod heddiw fel eitemau
brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Rheswm: Oherwydd yr elfen amser. |
|
Pwerau Dirprwyedig ar gyfer Cymorth Grant Busnes PDF 114 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod pwerau
dirprwyedig y Pennaeth Eiddo ac Adfywio ar gyfer cymeradwyo Grantiau Busnes yn
cael eu cynyddu o £25,000 i £50,000 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: I alluogi'r
Tîm Datblygu Economaidd i ddefnyddio pwerau dirprwyedig cynyddol y Pennaeth
Eiddo ac Adfywio wrth weinyddu'r cyllid hwn. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Bydd y
penderfyniad yn cael ei weithredu ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod
i ben am 9am ddydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2021. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290, eithrio'r cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a
oedd yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Twnnel y Rhondda (eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Roedd yr
Aelodau'n cefnogi'r diwygiad i argymhelliad B a gynhwyswyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, a gynigiwyd gan y Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy a
gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Rhoddir
cymeradwyaeth, am y tro, i'r cyngor gadw ei sefyllfa bresennol, lle byddwn yn
cefnogi'r prosiect mewn egwyddor gan roi cyngor lle bo angen i unrhyw drydydd
parti sy'n ymwneud â'r prosiect, ond ni fyddwn yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb
ffurfiol am godi arian yn y dyfodol mewn perthynas ag ymrwymiadau arian
cyfatebol posib. Ni fyddwn ychwaith yn
cymryd unrhyw berchnogaeth o'r twnnel, fel rhanberchnogaeth neu fel arall, nac
yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am reoli'r twnnel yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw
ofynion cymhorthdal. Bydd y sefyllfa hon
yn cael ei hadolygu'n gyson, a gellir ei diwygio yn y dyfodol os yw'r prosiect
yn symud ymlaen tuag at gael ei gyflawni er boddhad y cyngor, ac yn dod â budd
i Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, gydag adroddiadau yn y dyfodol yn
cael eu cyflwyno i'r Aelodau fel y bo'n briodol. Rheswm dros
y Penderfyniad: Er mwyn i'r
cyngor gadarnhau ei sefyllfa mewn perthynas â'i gysylltiad â Phrosiect Twnnel y
Rhondda wrth symud ymlaen. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Bydd y
penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n
dod i ben am 9am ddydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am
yr eitem hon. |
|
Cynnig Arfaethedig i Gael Gwared ar Eiddo (eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Gan roi sylw
dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig: Rhoddir
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio fwrw ymlaen â gwerthu’r
eiddo i'r cais tendr priodol a thalu'r swm y cytunwyd arno o’r gwerthiant i Tai
Tarian, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Galluogi
cael gwared ar eiddo dros ben a chael derbynneb cyfalaf. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Bydd y
penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n
dod i ben am 9am ddydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn'
am yr eitem hon. |