Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Cynllunio Strategol - Dydd Llun, 19eg Mai, 2025 12.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2025 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Diweddariad ar y Cynllun Datblygu Strategol pdf eicon PDF 286 KB

Cofnodion:

Diweddarwyd y Pwyllgor ar y sefyllfa bresennol ynghylch datblygiad y Cynllun Datblygu Strategol.

Cyfeiriwyd at y llythyr a anfonwyd i Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi pryderon swyddogion ynghylch y gofynion i gyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol (CDS) heb adnoddau ariannol priodol; yn y llythyr, gofynnwyd am gyllid i alluogi swyddogion i wneud cynnydd o ran cyflawni'r CDS.

Hysbyswyd yr Aelodau fod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru’n cyfeirio at y cyllid a ddarparwyd ganddynt i helpu i gyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, a bod cyfle i ddefnyddio unrhyw adnoddau dros ben o'r gwaith hwnnw er mwyn datblygu'r CDS; roedd y Gweinidog wedi cadarnhau, ar y pwynt hwnnw, nad fyddai unrhyw gyllid pellach ar gyfer datblygu'r CDS. Esboniodd swyddogion fod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac nid oedd unrhyw adnoddau ar gael o'r gyllideb honno i helpu i ddatblygu'r CDS.

Esboniodd swyddogion eu bwriad i anfon llythyr arall i Lywodraeth Cymru er mwyn ail-bwysleisio eu pryderon a mynegi pwysigrwydd cael cyllid er mwyn cyflawni'r CDS yn briodol. Nodwyd bod swyddogion o ranbarth De-orllewin Cymru wedi bod yn trafod â Chyd-bwyllgorau Corfforedig eraill yng Nghymru i benderfynu a ddylid anfon y llythyr ar ran yr holl ranbarthau yng Nghymru. Dywedwyd bod arwyddion cynnar yn dangos bod Canolbarth Cymru a Gogledd Cymru yn fodlon ac yn barod i lofnodi'r llythyr; fodd bynnag, roedd De-ddwyrain Cymru eisoes wedi paratoi cytundeb cyflawni ac felly nid oeddent mewn sefyllfa i lofnodi'r llythyr. Cafwyd trafodaethau pellach ers hynny, a sylweddolwyd bod Gogledd Cymru hefyd wedi gwneud cynnydd gyda'u cytundeb cyflawni; felly daethpwyd i'r casgliad bod rhanbarthau Canolbarth Cymru a De-orllewin Cymru mewn sefyllfa wahanol i Ogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru.

Soniwyd bod swyddogion wedi cyfrifo'r gost amcangyfrifedig o baratoi'r CDS, a oedd rhwng tua £3.5 miliwn a £4.5 miliwn; byddai'r cynllun yn cael ei ddatblygu dros bump i chwe blynedd a byddai angen tua chwe swyddog ymroddedig.

Roedd swyddogion wedi sefydlu nad oedd unrhyw adnoddau o fewn strwythurau presennol i'w hail-ddefnyddio i ddatblygu'r CDS; roedd staff mewn timau presennol yn y pedwar awdurdod lleol yn y broses o ddatblygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol Newydd neu ymgymryd â gwaith monitro a gwerthuso. Nodwyd bod Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol mewn sefyllfa debyg o ran adnoddau staff.

Ers i'r trafodaethau hyn ddigwydd, roedd swyddogion wedi dod o hyd i arian yng nghronfeydd wrth gefn Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; roeddent hefyd wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn nodi eu bod yn darparu cyllid o hyd at £200k eleni, i gyfrannu at gapasiti a llywodraethu. Eglurwyd, gyda'r cronfeydd wrth gefn a'r cyllid gan Lywodraeth Cymru, fod cyfle bellach i symud ymlaen gyda pharatoi'r cytundeb cyflawni; fodd bynnag, nid oedd hyn yn golygu y byddai'r rhanbarth yn gallu symud ymlaen gyda'r gwaith o ddatblygu'r CDS ei hun.

Fel a grybwyllwyd yn flaenorol, roedd swyddogion yn mynd i anfon llythyr arall i Lywodraeth Cymru; fodd bynnag, penderfynwyd ers hynny y dylid cyflwyno dau opsiwn i'w hystyried gan Aelodau o ran y camau nesaf. Nodwyd mai opsiwn un oedd defnyddio'r cronfeydd wrth gefn i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.