Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Dydd Iau, 23ain Mai, 2024 10.00 am

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cyng. Rob Stewart (Cyngor Sir Abertawe) yn Gadeirydd a phenodi'r Cyng. Darren Price (Cyngor Sir Gâr) yn Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

2.

Croeso a chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. 

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 381 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024 fel cofnod cywir.

 

5.

Ail-gyfansoddiad Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 185 KB

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd â'r nod o ailgyfansoddi Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a oedd yn cynnwys nodi'r trefniadau gweinyddol a llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd ar ddod.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru at y cynigion yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a fyddai'n ffurfio rhan o'r ailgyfansoddiad.

 

Nodwyd bod tymor Cadeirydd presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe'n dod i ben, a bod Cadeirydd newydd wedi'i benodi. Byddai angen adlewyrchu'r newid hwn yn y ddogfennaeth sy'n ymwneud ag Aelodau Cyfetholedig Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad aelodau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a nodwyd ym mharagraff 5 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cymeradwyo cyfetholiad aelodau'r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer pob mater (ac eithrio cynllunio strategol o ystyried eu statws pleidleisio) heb bleidlais ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2024/2025.

 

Cymeradwyo creu'r is-bwyllgorau a nodwyd ym mharagraff 9 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, a'r cynrychiolwyr arfaethedig a benodwyd i'r is-bwyllgorau a nodir ym mharagraff 9 a 10 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cymeradwyo cyfetholiad aelodau o Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol i Is-bwyllgorau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer pob mater

(ac eithrio ar gyfer cynllunio strategol o ystyried eu statws pleidleisio) heb bleidlais ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2024/2025.

 

Cymeradwyo sefydlu'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraffau 14-19 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cymeradwyo’r penderfyniad i ddynodi Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Pwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

Cymeradwyo sefydlu Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraffau 23-29 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cymeradwyo'r amserlen ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol ar gyfer

Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru a'i bwyllgorau cysylltiedig fel y nodir ym mharagraff 30 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cymeradwyo adnewyddu penodiad aelodau cyfetholedig, a nodwyd ym

mharagraff 32 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2024/2025.

 

Cymeradwyo adnewyddu penodiad yr ymgynghorwyr, a nodwyd ym

mharagraff 34 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2024/2025. 

 

6.

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-Orllewin Cymru - Y Diweddaraf am y Rhaglen pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith mewn perthynas â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh).

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Cynllun Gweithredu a'r Achos dros Newid wedi cael eu cynhyrchu a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru; y cam nesaf oedd cynhyrchu drafft cychwynnol y CTRh.

 

Esboniwyd bod Swyddogion, yn ystod camau cynnar y gwaith, wedi mynegi pryderon am yr amserlenni a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch datblygu'r CTRh; diben yr adroddiad hwn oedd amlygu'r newid yn yr amserlenni o gynhyrchu drafft cychwynnol y CTRh.

 

Nododd swyddogion fod yr amserlen gychwynnol yn nodi bod angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gyflwyno'u drafftiau cyntaf i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Mai 2024; gyda'r drafft terfynol yn cael ei gyflwyno erbyn 31 Hydref 2024. Hysbyswyd Aelodau y byddai'r amserlen ddiwygiedig yn cynnwys cyfnod ymgynghori ym mis Mai/Mehefin 2024, a diweddariad i'r polisi a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru erbyn mis Gorffennaf 2024. Ychwanegwyd bod swyddogion yn gweithio tuag at yr amserlen wreiddiol ar gyfer cyflwyno'r drafft terfynol i Lywodraeth Cymru (31 Hydref 2024) ar hyn o bryd.

 

Soniwyd y gallai rhai o'r amserlenni sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gael eu newid ychydig eto, oherwydd cyhoeddiad yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

 

Diolchwyd i swyddogion am eu gwaith parhaus wrth ddatblygu a llunio'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo diwygiad i'r rhaglen waith ar gyfer cam drafft cychwynnol Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

7.

Y Diweddaraf am Safonau'r Gymraeg pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â Hysbysiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.

 

Amlygwyd bod Swyddogion wedi derbyn yr Hysbysiad Cydymffurfio oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ar 24 Ebrill 2024, gydag eithriadau o ddau safon a nodwyd fel a ganlyn:

 

·        WLS 145 Hyrwyddo – Llunio, a chyhoeddi ar wefan y sefydliad, strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut mae Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru'n bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach yn yr ardal

·        WLS 146 Hyrwyddo – Bum mlynedd ar ôl cyhoeddi strategaeth yn unol â safon 145, rhaid asesu a chyhoeddi canfyddiadau'r asesiad ar y wefan.

 

Gofynnwyd a allai'r Cyd-bwyllgor Corfforedig dderbyn diweddariadau ynghylch datblygiad hyrwyddo'r Gymraeg. Byddai Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gofyn am gyngor ynghylch ai'r cyfarfod hwn fyddai'r fforwm priodol, gan fod agweddau ehangach ar hyrwyddo'r Gymraeg o fewn y Rhanbarth yn cael eu dirprwyo i sefydliadau eraill o ran cyfrifoldebau. Fodd bynnag, nodwyd y byddai adroddiadau diweddaru yn y dyfodol yn cael eu darparu i'r Pwyllgor mewn perthynas â gweithredu Safonau'r Gymraeg y Cydbwyllgor Corfforedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Hysbysiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.

 

Dirprwyo'r Prif Weithredwr i adolygu a

gweithredu'r Hysbysiad Cydymffurfio i ddangos derbyn Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.