Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naidine Jones E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cyng.
Paul Davies a Clive Phillips am beidio â bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth y Swyddog canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: James Davies - Cofnod rhif 4 - Penodi Clerc i'r Pwyllgor - Gadawodd James y
cyfarfod ar gyfer yr eitem hon. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd
2024 fel cofnod cywir. |
|
Penodi Clerc i'r Pwyllgor Cofnodion: Ailgadarnhaodd James Davies ei ddatganiad a
gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig. Penderfynwyd: penodi James Davies, Rheolwr Gwasanaeth
Cymdogaethau, yn glerc parhaol ar gyfer Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam. |
|
Adroddiad Blynyddol am y Gyllideb ar gyfer 2025/26 Adroddiad y Trysorydd – Huw Jones Cofnodion: Penderfyniad: Bod
y Pwyllgor yn cytuno ar y gyllideb ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 (gan gynnwys
ad-daliad o £100,000 i'r awdurdodau cyfansoddol). · Cytunir ar gyllideb
2025/26 gan y Pwyllgor. · Bydd y Pwyllgor yn
cadarnhau’r praesept i’w godi ar gyfer 2025/26: · Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot - £553 · Cyngor Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr - £447 · Mae'r ffïoedd a’r
taliadau a nodir yn Atodiad 2 ar gyfer 2025/26 yn rhai cytunedig ar sail
cynnydd o 3%. · Nodi'r sefyllfa ragamcanol
mewn perthynas â'r cronfeydd wrth gefn, gan gynnwys y cyfraniad wedi'i
ddiweddaru i gronfa wrth gefn yr amlosgfa yn unol â chwyddiant o 2025/26. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100BA (6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol/eitemau
canlynol yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r
paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol/eitemau canlynol yn unol ag Adran 100A
(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol
o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Strwythur Swyddogion yn Amlosgfa Margam (wedi'i eithrio dan baragraffau 12, 13 a 14) Adroddiad Preifat y clerc i Gyd-bwyllgor Amlosgfa
Margam Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr aelodau yn cymeradwyo'r argymhellion yn yr
adroddiad preifat. |