Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Stacy Curran
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Datganodd y Swyddog canlynol fudd ar ddechrau'r
cyfarfod:
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 444 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 11 Hydref 2022 fel cofnod cywir. |
|||
Cofnodion: Nodwyd bod dyddiad cyfarfod mis Mawrth 2023 wedi'i
aildrefnu i ddyddiad hwyrach, sef 30 Mawrth 2023, ac y byddai hyn yn cael ei
adlewyrchu yn y Flaenraglen Waith. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|||
Cymeradwyo datganiad o gyfrifon 2021/22 PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd y Datganiad Cyfrifon am y flwyddyn a
ddaeth i ben 2021/22 i'r Pwyllgor. Esboniodd swyddogion fod Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru wedi cytuno i bennu cyllideb sero ar gyfer 2021/22 yn
gynharach yn y flwyddyn, ac ni chodwyd unrhyw ardoll; roedd hyn yn ystod y
cyfnod pan roedd y trefniadau ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael eu
sefydlu. Nodwyd, o ganlyniad i hyn, nad oedd unrhyw drafodion ar gyfer y
flwyddyn 2021/22; fodd bynnag, roedd yn ofyniad i lunio Datganiad o Gyfrifon a
chadarnhau'r sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn. Hysbyswyd yr Aelodau, unwaith y byddai'r Datganiad
o Gyfrifon yn cael ei gymeradwyo, y byddai Archwilio Cymru yn gallu dod â'r
flwyddyn 2021/22 i ben. PENDERFYNWYD: Bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn ac yn cymeradwyo'r
Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2021/22. |
|||
Ystyried opsiynau mewn perthynas â chyllideb 2023/2024 PDF 428 KB Cofnodion: Ailddatganodd O Enoch ei fudd
wrth adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig. Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn nodi nifer o opsiynau cyllideb i'w hystyried ar gyfer y
flwyddyn 2023/24, ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; byddai
angen i'r Aelodau ystyried sut y byddai'r Pwyllgor yn datblygu'r llwyth gwaith
sylweddol o fewn y gwahanol ffrydiau gwaith wrth symud ymlaen. Cyfeiriodd swyddogion at y
cyflwyniad cychwynnol o'r gyllideb, a gafodd ei gynnwys yn Atodiad A o'r
adroddiad a ddosbarthwyd; roedd yn darparu gwerthusiad llawn o gyllideb
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, pe bai'n dechrau datblygu ac
ymgymryd â gwaith mewn perthynas â'r pedair prif ffrwd waith. Nodwyd ei fod yn
golygu cyflogi staff a chomisiynu darnau penodol o waith; roedd y gwerthusiad
hwn yn nodi cost bosib o £1.5 miliwn, a oedd yn sylweddol fwy na'r gwariant yn
y flwyddyn bresennol. Yn dilyn yr uchod, dywedwyd
bod y gost bosib o £1.5 miliwn yn codi pryderon mewn trafodaethau gydag
Awdurdodau Lleol cyfansoddol, gan y byddai hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar eu
cyllidebau; oherwydd y pryderon hyn, roedd swyddogion wedi ymgymryd â darn o
waith a oedd yn llunio opsiynau gwahanol o ran gosod y gyllideb ar gyfer
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer 2023/24. Tynnwyd sylw at
fanylion yr opsiynau fel a ganlyn: ·
Opsiwn 1 – Cytuno i flaenoriaethu gwaith Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru a gosod ardoll yn unol â hynny. ·
Opsiwn 2 – Gwneud yr isafswm yn 2023/24 a lleihau'r
gyllideb, gyda gwaith cyfyngedig yn cael ei wneud ym mhob un o'r ffrydiau
gwaith; fodd bynnag, mae angen parhau i symud ymlaen â'r gwaith lefel is megis
y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), gan y byddai elfen o'r gyllideb yn
cefnogi'r Cynllun wrth symud ymlaen. Soniwyd y byddai cyllid ychwanegol gan
Lywodraeth Cymru yn hanfodol wrth ddatblygu rhai gweithgareddau. Yn ôl yr
adroddiad a ddosbarthwyd, roedd yr opsiwn hwn yn nodi cyllideb o oddeutu £617
mil, a oedd fymryn yn uwch na chyllideb eleni. ·
Opsiwn 3 - Atal holl weithgareddau Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru. Er mwyn gwneud hyn, nodwyd y byddai'n rhaid i
Lywodraeth Cymru ddiwygio'r ddeddfwriaeth; fodd bynnag, roedd yn rhywbeth y
gellid ei ystyried ar gyfer y dyfodol (2024/25 ymlaen), gan fod y pwysau
cyllidebol yn debygol o barhau wrth symud ymlaen. Hysbyswyd yr Aelodau fod gofyn
iddynt bennu cyllideb ddrafft, cyn mynd ati i ystyried eu penderfyniad terfynol
a rhoi cymeradwyaeth ffurfiol ym mis Ionawr 2023; unwaith y byddai'r gyllideb
ddrafft wedi’i chymeradwyo byddai Swyddogion yn hysbysu Awdurdodau Lleol
cyfansoddol o'r gyllideb ddangosol. Cafwyd trafodaeth o ran y
cynigion ar gyfer gweithgareddau mewn perthynas ag Opsiwn 2, y manylwyd arni yn
Atodiad C yr adroddiad a ddosbarthwyd. Amlygwyd y canlynol ar gyfer pob un o'r
pedair ffrwd waith: · Ym mis Mawrth 2022, nodwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi cymeradwyo Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru; Gwasanaethau Ynni Cymru oedd yn mynd i ariannu'r gwaith hwn. Roedd swyddogion yn fodlon, er mai ychydig iawn o ddarpariaeth y gyllideb fyddai'n cael ei chynnig ar gyfer y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||
Cyflwyniad ar y Cynllun Datblygu Strategol PDF 776 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau
gyflwyniad am y Cynllun Datblygu Strategol (CDS). Nodwyd bod y CDS yn ofyniad
statudol a'i fod wedi'i ysgrifennu mewn deddfwriaeth fel y prif allbwn
cynllunio ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig bydd ganddo'r un statws i
Awdurdodau Lleol a'u penderfyniadau, fel sydd gan y Cynlluniau Datblygu Lleol
(CDLl) a Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol. Eglurodd swyddogion y bydd
angen ystyried pob cais cynllunio, ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru, yn erbyn ei
CDLl, Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol a'r CDS ar ôl iddo gael ei
gynhyrchu; rhaid i CDLlau yn y dyfodol gyd-fynd â'r fframwaith CDS a bod yn
gyson ag ef. Ychwanegwyd mai pwrpas y CDS oedd symud yr agenda gynllunio ymlaen
ar sail ranbarthol, a mynd i'r afael â'r materion hynny a oedd yn drawsffiniol
ac yn ehangach nag arwyddocâd lleol. Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd
unrhyw gynnydd sylweddol wedi bod hyd yma ar y CDS, roedd hyn oherwydd y
gyllideb fach a bennwyd ar gyfer blwyddyn bresennol 2022/23; fodd bynnag, roedd
cydweithio trawsffiniol ar brosiectau’n cynyddu'n dda, er mwyn cyfeirio CDLlau
o fewn y rhanbarth. Nodwyd y bydd y gwaith a oedd yn cael ei wneud ar hyn o
bryd yn darparu tystiolaeth ar gyfer y CDS hwnnw; roedd rhai o'r prosiectau
gwaith presennol yn cynnwys diffinio'r hyn a ddisgrifiwyd yng Nghymru'r Dyfodol
fel 'ardal twf cenedlaethol' ar gyfer De-orllewin Cymru, ac edrych ar
amcanestyniadau twf yn y dyfodol. Yn ogystal â'r uchod, amlygwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi llunio llawlyfr arweiniad ar CDSau, a oedd ar hyn o
bryd yn destun ymgynghoriad ar gyfer sylwadau anffurfiol; byddai swyddogion yn
rhoi adborth ar y llawlyfr fel rhanbarth. Soniwyd y bydd ymgynghoriad llawn ar
y llawlyfr yn haf 2023. Nodwyd bod angen cytuno ar y
pwyntiau canlynol o hyd o ran yr CDS: ·
Sut i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y mater hwn wrth
symud ymlaen ·
Amserlenni'r gwaith, gan ystyried ffactorau megis
adnoddau ·
Cyllideb y gwaith ·
Adnoddau staff a rheoli’r holl broses Cafwyd trafodaeth am y
materion a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r CDS: ·
Dim cyllideb wedi'i nodi ar gyfer darparu'r CDS - o
ganlyniad ni fydd unrhyw waith i symud ymlaen ag ef ·
Dim adnoddau presennol o fewn Awdurdodau Cynllunio -
roedd sgyrsiau wedi'u cynnal, ac nid oedd adnoddau sbâr i ddargyfeirio o
ffrydiau gwaith presennol er mwyn darparu'r CDS ·
Materion recriwtio staff – ar hyn o bryd roedd problemau
o ran recriwtio a dod o hyd i gynllunwyr profiadol i Awdurdodau Lleol, bydd
sefyllfa debyg wrth geisio recriwtio ar gyfer y CDS ·
Y risg na fyddai’r cyngor yn g orffen y CDLl mewn pryd -
roedd pob Awdurdod Lleol yn gweithio ar ddarparu ei CDLl newydd, a allai
wrthdaro â gwaith y CDS Tynnodd Swyddogion sylw at dri
phrif bwynt i'w hystyried sef ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, amserlen ar gyfer
CDS De-orllewin Cymru a goblygiadau'r gyllideb, fel y manylir o fewn y
cyflwyniad a ddosbarthwyd. Nodwyd y bydd angen deialog parhaus gyda Llywodraeth Cymru dros y 12 mis nesaf ynghylch amserlen y dyfodol, a'r potensial ar gyfer darparu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|||
Cynllun Corfforaethol Drafft 2023-2028 PDF 191 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copïau o'r Cynllun
Corfforaethol Drafft 2023-2028, ynghyd ag Asesiad Effaith Integredig, wedi'u
darparu cyn y cyfarfod. Dywedwyd, yn ogystal â'r
ddyletswydd i baratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), a Chynllun
Datblygu Strategol (CDS), fod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru hefyd
yn destun nifer o ddyletswyddau sector cyhoeddus; roedd hyn yn cynnwys y
gofyniad i osod Amcanion Lles ac i roi sylw i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Hysbyswyd yr Aelodau mai'r bwriad oedd esblygu'r Cynllun Corfforaethol wrth i
Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ddatblygu. Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r datganiad gweledigaeth arfaethedig ar gyfer 'De-orllewin Cymru
2035'; yr oedd y cynnwys wedi’i lywio gan y Cynllun Datblygu Economaidd
Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol, ynghyd â chydnabyddiaeth i’r
gofynion statudol hynny mewn perthynas â Chynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol a
Chynllunio Datblygu Strategol. Yn ogystal â'r uchod,
briffiwyd yr Aelodau ar y tri amcan lles a gynigiwyd. Nodwyd bod yr amcan
cyntaf yn cyfeirio at y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth
Ynni Rhanbarthol, yr ail amcan yn cyfeirio at gynhyrchu'r CTRh, a'r trydydd amcan
yn cyfeirio at lunio'r CDS. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd o
Amcan Cydraddoldeb arfaethedig y nodwyd ei fod yn ofyniad statudol. Nodwyd bod
yr amcan hwn yn cyfeirio at gyflawni 'De-orllewin Cymru sy'n fwy cyfartal erbyn
2035'. Roedd adroddiad pellach, a oedd
ar ffurf atodiad arfaethedig i'r Cynllun Corfforaethol Drafft, hefyd wedi'i
ddarparu cyn y cyfarfod; roedd yr atodiad hwn yn cwmpasu'r camau
gweithredu/camau/mesurau y bwriedid iddynt gefnogi'r gwaith o gyflawni'r tri
amcan lles. Nodwyd y gallai'r atodiad hwn gael ei ddiweddaru'n ailadroddol gan
Swyddogion o ganlyniad i benderfyniadau'r Aelodau yn y cyfarfod hwn mewn
perthynas ag opsiynau cyllideb; yn hyn o beth, caiff yr atodiad hwn ei gyflwyno
eto yng nghyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ym mis
Ionawr 2023. Wrth aros am gymeradwyaeth yr Aelodau, soniwyd y bydd fersiwn
derfynol o'r atodiad yn cael ei chynnwys yn y Cynllun Corfforaethol Drafft cyn
ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. PENDERFYNWYD: (a) Y bydd Aelodau yn
derbyn ac yn nodi cynnwys y Cynllun Corfforaethol Drafft (ynghyd ag atodiadau
cysylltiedig) ac yn cymeradwyo ei gyhoeddi ar gyfer ymarfer ymgynghori
cyhoeddus chwe wythnos ym mis Ionawr/Chwefror 2023; (b) Y bydd unrhyw
ymatebion, mewn perthynas ag (a) uchod, uchod a gaiff eu derbyn o'r
ymgynghoriad yn cael eu hadrodd yn ôl i Aelodau gyda'r bwriad o lywio fersiwn
derfynol o'r Cynllun cyn ei fabwysiadu'n ffurfiol (a drefnwyd ar gyfer Mawrth
2023); (c) Y bydd awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi
i'r Prif Weithredwr i wneud unrhyw ddiwygiadau teipograffyddol, ffeithiol a /
neu olygyddol i'r Cynllun Corfforaethol Drafft cyn ei gyhoeddi. |
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd copi o'r Adroddiad Dyletswydd cyn y
cyfarfod. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn
ddarostyngedig i ofynion Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn yr un
modd â'i gynghorau cyfansoddol. Nodwyd bod yr Adroddiad Dyletswydd yn ceisio
adlewyrchu pwysigrwydd ymgorffori'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid
Ecosystemau o fewn llywodraethu corfforaethol y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Hysbyswyd yr Aelodau fod gofyniad i gyhoeddi'r
adroddiad erbyn 31 Rhagfyr 2022. PENDERFYNWYD: Y bydd yr Aelodau'n nodi cynnwys yr Adroddiad Adran
6 atodedig ac yn cymeradwyo’i gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2022. Argymhellir
ymhellach y dylid anfon copi o'r Adroddiad atodedig i Lywodraeth Cymru. |
|||
Cofnodion: Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn rhoi manylion y cynnig i gytuno ar statws cyfethol gydag
Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Eglurwyd bod rôl yr Awdurdodau
Parciau Cenedlaethol yn gyfyngedig o fewn y Cyd-bwyllgor Corfforedig o ran y
gwaith cynllunio strategol; roedd Swyddogion wedi bod yn edrych ar ffyrdd amgen
o gynnwys cynrychiolwyr y Parciau Cenedlaethol yn y materion eraill y bydd y Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn delio â nhw yn y dyfodol. Roedd y cynnig a geir o fewn
yr adroddiad a ddosbarthwyd yn ceisio ehangu statws cyfetholedig, heb hawliau
pleidleisio i Arweinwyr Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, er mwyn iddynt gael
presenoldeb yn y cyfarfodydd amrywiol eraill sy'n gysylltiedig â Chyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru, gan gynnwys yr Is-bwyllgorau; bydd hyn yn
caniatáu iddynt siarad a mynegi barn ar wahanol faterion, fodd bynnag ni
fyddant yn gallu pleidleisio o hyd ar unrhyw faterion y tu allan i gynllunio
strategol. Rhoddwyd eglurhad mewn
perthynas â pharagraff saith o'r adroddiad a ddosbarthwyd; ni fyddai angen i
Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gael statws cyfetholedig ar yr Is-bwyllgor
Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol gan fod ganddynt hawliau pleidleisio yn y
cyfarfod hwn. Cynhaliwyd trafodaeth
ynglŷn ag Is-bwyllgor Trosolwg
Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a sefydlwyd yn
ddiweddar; cynigiwyd ehangu’r statws cyfetholedig, heb hawliau pleidleisio i un
cynrychiolydd o bob un o Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, er mwyn iddynt
fynychu'r cyfarfodydd hyn wrth iddynt fynd ymlaen. Yn amodol ar gymeradwyaeth
heddiw, bydd Swyddog Monitro Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn
cysylltu ag Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol er mwyn cytuno ar y cynrychiolwyr
a thrafod y cytundebau cyfethol. PENDERFYNWYD: Mae'r Aelodau'n cytuno y dylid
rhoi statws cyfethol (heb hawliau pleidleisio) i Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir
Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, i Gyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru (ar gyfer ardaloedd eraill heblaw cynllunio
datblygu strategol) yn unol â pharagraffau 6, 7 ac 8 o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. |
|||
Eitemau brys Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |