Agenda a Chofnodion

General Licensing Committee - Dydd Llun, 9fed Mehefin, 2025 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Rooms A/B Neath Civic Centre & Microsoft Teams

Cyswllt: Naidine Jones  E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

2.

Datganiad o Fudd

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelodau canlynol ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod:

Y Cynghorydd A Lodwig -   Eitem Frys – Cais i Adnewyddu Trwydded Perchennog Cerbyd Hacni – oherwydd ei fod yn ymwybodol o'r ymgeisydd. Nid oedd yn teimlo bod y buddiant hwn yn rhagfarnllyd, felly roedd yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth a'r bleidlais.

Y Cynghorydd C Jordan -   Eitem Frys – Cais i Adnewyddu Trwydded Perchennog Cerbyd Hacni – oherwydd ei fod yn ymwybodol o'r ymgeisydd. Nid oedd yn teimlo bod y buddiant hwn yn rhagfarnllyd, felly roedd yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth a'r bleidlais.

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Bod cofnodion y cyfarfod blaenorol (Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu gynt), a gynhaliwyd ar 12 Mai 2025, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

4.

Eitemau brys

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i fynd i’r afael â'r wybodaeth yn Eitem Breifat 6, cytunodd y Cadeirydd y gellid ei chodi fel Eitem Frys yn y cyfarfod heddiw.

Rheswm:

Oherwydd yr elfen amser.

5.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Yn unol ag Adran 100A (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, wahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

6.

Application to renew a hackney carriage proprietor licence

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais i adnewyddu/ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni.

Nid oedd y gyrrwr yn gallu dod i'r cyfarfod.

Penderfynwyd:

1.              Ar ôl adolygu'r adroddiad a gylchredwyd yn breifat, clywed pob sylw, a rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y Cyngor, cytunodd yr Aelodau nad oedd yn briodol adnewyddu'r drwydded, gan eu bod yn teimlo nad oedd unrhyw amgylchiadau eithriadol i weithredu'n groes i'r polisi.

2.              CYMERADWYWYD y cais i ganiatáu trwydded newydd, ar yr amod bod y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

7.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

Penderfynwyd:

Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, clywed holl sylwadau'r partïon a rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y Cyngor, penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'R cais.

8.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

Penderfynwyd:

Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, clywed holl sylwadau'r partïon a rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y Cyngor, penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'R cais.

9.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 3