Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod ar y Cyd o’r Pwyllgorau Craffu Cymunedau, Cyllid ac Arweinyddiaeth Strategol/yr Amgylchedd, Adfywio a Strydlun - Dydd Mawrth, 1af Hydref, 2024 11.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

Cofnodion:

Cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd Sean Pursey yn Gadeirydd.

 

Cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd Carl Jordan yn Is-gadeirydd.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Y Cynghorydd T Bowen - Personol, Cadeirydd Pwyllgor Porthladd Rhydd Celtaidd.

 

Y Cynghorydd S Pursey, Aelod o Bwyllgor Craffu'r Gronfa Gyhoeddus ar gyfer  Porthladd Rhydd Celtaidd.

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

5.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd: bod aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

 

6.

Porthladd Rhydd Celtaidd - Achos Busnes Llawn

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau'r adroddiad fel y'i dosbarthwyd.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.