Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Arian Cyhoeddus y Porthladd Rhydd Celtaidd - Dydd Iau, 26ain Medi, 2024 10.30 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman  E-bost: c.plowman@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a chyflwyniadau

Cofnodion:

Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan y Swyddog Monitro ar gyfer Pwyllgor Cronfeydd Cyhoeddus y Porthladd Rhydd Celtaidd.

 

2.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Jon Harvey (Cyngor Sir Penfro) yn cael ei benodi'n Gadeirydd Pwyllgor Cronfeydd Cyhoeddus y Porthladd Rhydd Celtaidd.

 

3.

Penodi Is-gadeirydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyng. Steve Hunt (Cyngor Castell-nedd Port Talbot) yn cael ei benodi'n Is-gadeirydd Pwyllgor Cronfeydd Cyhoeddus y Porthladd Rhydd Celtaidd.

 

 

4.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

5.

Cylch Gorchwyl pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Cylch Gorchwyl i'r aelodau ar gyfer Pwyllgor Cronfeydd Cyhoeddus y Porthladd Rhydd Celtaidd.

Eglurwyd mai un o brif egwyddorion y rhaglen Porthladd Rhydd oedd y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud drwy broses a strwythur sy'n cadw'r ymagwedd 'allwedd ddeuol' gyhoeddus-breifat, gan sicrhau atebolrwydd democrataidd am wariant arian cyhoeddus; er mwyn galluogi'r broses ddemocrataidd honno i ddigwydd, penderfynwyd y byddai Pwyllgor Cronfeydd Cyhoeddus yn cael ei greu.

Cadarnhaodd swyddogion mai rôl y Cydbwyllgor fydd sicrhau atebolrwydd democrataidd priodol ar gyfer dyrannu arian cyhoeddus, gan gynnwys sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion deddfwriaethol a gwerth am arian; bydd y Cydbwyllgor naill ai'n gallu cymeradwyo neu wrthod cynigion gan y Cwmni Porthladd Rhydd Celtaidd.

Cyfeiriwyd at y swyddogaethau a fydd gan y Cyd-bwyllgor, sy'n cynnwys ystyried ac adolygu achosion busnes prosiectau sy'n ceisio cymorth ariannol o gyllid cyhoeddus fel yr argymhellwyd i'r Cyd-bwyllgor gan Fwrdd y Porthladd Rhydd Celtaidd. Swyddogaeth allweddol arall a amlygwyd oedd y gallu i gymeradwyo achosion busnes prosiectau sy'n gymwys i dderbyn cyllid o gyllid cyhoeddus; bydd gan y Cyd-bwyllgor ddisgresiwn llwyr ynghylch a ddylid cymeradwyo neu wrthod unrhyw achosion busnes prosiectau a argymhellwyd gan Fwrdd y Porthladd Rhydd Celtaidd am gymorth ariannol o gyllid cyhoeddus. Yn ogystal, bydd y Cyd-bwyllgor yn goruchwylio'r gwaith cyffredinol o reoli'r cronfeydd cyhoeddus hynny’n feunyddiol, gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu fel y corff atebol i Lywodraeth y DU mewn perthynas â hwy.

Dywedwyd y bydd y Cyd-bwyllgor yn cynnwys cyfanswm o chwe Aelod, tri o bob Awdurdod Lleol; gyda'r gallu i benodi dirprwy Aelod y Cabinet i gymryd lle aelod arall os na all fod yn bresennol. Roedd yn bwysig nodi mai'r cworwm ar gyfer y cyfarfod oedd tri Aelod o bob Awdurdod Lleol.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd gan bob Aelod o'r Cydbwyllgor un bleidlais. Eglurwyd, pe bai nifer cyfartal o bleidleisiau (anghytundeb llwyr) ar unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y Cyd-bwyllgor, y bydd y mater perthnasol sy'n arwain at yr anghytundeb llwyr yn cael ei aildrefnu fel eitem agenda i'w hailystyried gan y Cyd-bwyllgor yn y cyfarfod nesaf sydd ar gael; nid oes gan y Cadeirydd bleidlais fwrw.

Gofynnwyd a oedd proses ar waith os nad oedd yr Aelodau'n dod i gytundeb ar ôl i’r mater gael ei ailystyried yn y cyfarfod nesaf. Amlygodd swyddogion fod cymalau datrys anghydfod o fewn y cytundeb lle bydd cyfle i gael rhywfaint o gyflafareddu annibynnol.

PENDERFYNWYD:

 

Bod cylch gorchwyl Pwyllgor Cronfeydd Cyhoeddus y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cael ei nodi.

 

 

6.

Y Porthladd Rhydd Celtaidd - Cynigion Cyfalaf Sbarduno pdf eicon PDF 245 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd swyddogion adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer cynnwys y rhestr o gynigion cyfalaf sbarduno yn yr Achos Busnes Llawn ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd.

Rhoddodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro drosolwg o'r cefndir o ran ymdrech y Porthladd Rhydd hyd yn hyn, a'r camau nesaf wrth symud ymlaen â'r Achos Busnes Amlinellol a'r Achos Busnes Llawn.

Esboniwyd bod yr Achos Busnes Amlinellol wedi cael ei gymeradwyo gan y ddau Awdurdod Lleol yn flaenorol a'i gyflwyno i Lywodraeth y DU; roedd swyddogion wedi disgwyl derbyn adborth a phenderfyniad i gymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol erbyn hyn, fodd bynnag roedd yr Etholiad Cyffredinol sydyn a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2024 wedi amharu ar yr amserlen. Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd y broses hon wedi'i chwblhau eto.

O ran yr Achos Busnes Llawn, roedd Llywodraeth y DU wedi gofyn am gyflwyno'r achos yn gynt, yn gynnar ym mis Hydref 2024; roedd hyn er mwyn ceisio sicrhau bod y broses hon wedi'i chwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2024. Nodwyd y bydd Aelodau'r ddau Awdurdod Lleol yn derbyn yr Achos Busnes Llawn drafft dros yr wythnosau nesaf i'w adolygu a phenderfynu arno cyn ei gyflwyno'n derfynol i Lywodraeth y DU.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod gofyniad o fewn yr Achos Busnes Llawn i gyflwyno cynigion ar gyfer buddsoddi'r cyllid cyfalaf sbarduno gan Lywodraeth y DU. Roedd yr adroddiad a gylchredwyd yn nodi'r defnydd arfaethedig o gyfalaf sbarduno i'w ystyried gan y Cyd-bwyllgor, ac roedd y Swyddogion yn ceisio  penderfyniad ar y rhestr o brosiectau i'w cynnwys yn yr Achos Busnes Llawn.

Soniwyd bod y cynigion wedi bod yn destun proses eithaf trylwyr, fodd bynnag, roedd yr amserlen gyflymach wedi effeithio ar lefel y craffu ar gyfer rhai prosiectau penodol.

Hysbyswyd yr aelodau fod yr elfen cyfalaf sbarduno o hyd at £25 miliwn fesul Porthladd Rhydd, yn rhan hirsefydlog o'r pecyn; gyda'r syniad i helpu i sbarduno prif fuddsoddiadau ar gam cynnar er mwyn helpu'r Porthladd Rhydd i gyflawni ei amcanion. 

Amlygwyd bod yr Achos Busnes Llawn yn un cam yn y broses o ddyrannu cyfalaf sbarduno; pe bai'r Achos Busnes Llawn yn cael ei gymeradwyo, yna roedd angen i achosion busnes unigol lenwi manylion pob un o'r cynigion. Dywedodd swyddogion fod porthladdoedd rhydd eraill wedi profi'r angen i ailedrych ar eu dyraniad gan nad oedd yr achosion busnes manwl mewn perthynas â rhai o'r cynigion, yn cyflawni'r hyn y dylent; roedd llawer o resymau am hyn, fel cynlluniau busnes wedi newid, a/neu nid oedd arian cyfatebol preifat wedi cyrraedd.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r set o brosesau yr oedd y Porthladd Rhydd wedi'i sefydlu i symud ymlaen gyda dyraniadau; roedd hyn yn cynnwys argymhellion gan banel annibynnol a oedd yn mynd gerbron Bwrdd y Porthladd Rhydd, cyn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor. Nodwyd bod yn rhaid rhagfyrhau'r broses hon, yn benodol y gwaith o graffu ar gynigion unigol gan y panel annibynnol; fodd bynnag, rhoddwyd argymhellion i Fwrdd y Porthladd Rhydd, a oedd wedyn wedi llunio'r argymhellion a gynhwysir yn yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.