Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu’r Gymuned, Cyllid ac Arweinyddiaeth Strategol - Dydd Llun, 13eg Ionawr, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas  E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cyllideb 2025/2026 pdf eicon PDF 611 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau y byddai'r sylwadau o’r cyfarfod yn llunio rhan o’r ymateb ffurfiol ar gyfer ymgynghoriad ar y gyllideb. Anogir aelodau i gyflwyno unrhyw gynigion amgen y gellir eu hystyried ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol amlinelliad o'r cynigion a gynhwysir yn yr adroddiad. Mae'r gyfarwyddiaeth yn darparu gwasanaethau sy'n hanfodol wrth gefnogi pob cyfarwyddwr i gyflawni blaenoriaethau'r cynllun corfforaethol a fydd yn gwella bywydau preswylwyr Cyngor Castell-nedd Talbot. Mae'r gwasanaethau pobl, datblygu sefydliadol, cyfreithiol a digidol i gyd yn wasanaethau galluogi allweddol ac mae'n hanfodol bod y gwasanaethau hyn mor effeithlon ac mor syml â phosib.

 

Mae'r gyfarwyddiaeth yn sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith yn gorfforaethol, bod dogfennau strategol allweddol i'w arwain a'i bod yn cyflwyno Cynllun Dyfodol y Gweithlu Strategol, y Strategaeth Data a Thechnoleg Ddigidol a'r Strategaeth Gaffael. Mae'r rhain i gyd yn cael effaith enfawr ar sut mae'r Cyngor yn gweithredu.

 

Mae'r gyfarwyddiaeth hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi gwaith y Porthladd Rhydd a'r Fargen Ddinesig a'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol.

 

Mae'r cynigion a gyflwynwyd yn gymysgedd o newid trawsnewidiol yn y ffordd y mae'r gyfarwyddiaeth yn darparu ei gwasanaethau. Mae'r gyfarwyddiaeth bob amser yn ystyried sut y gellir ychwanegu gwerth at y gwasanaethau a ddarperir gan y gyfarwyddiaeth.

 

Mae gan y gyfarwyddiaeth y gyllideb gyffredinol leiaf, ac mae dros 90% o hyn yn ymwneud â chostau staff. Cadarnhaodd swyddogion mai dyma'r unig gyfarwyddiaeth i gyflawni'r targed arbedion cyllideb o 5% ar gyfer 2025-2026 sydd ar ben y toriadau a wnaed yn flaenorol. Mae'r toriadau'n cyfateb i dros £650,000. Ar hyn o bryd mae gan y gyfarwyddiaeth 351 aelod staff cyfwerth ag amser llawn, y mae 45 ohonynt yn cael eu hariannu naill ai o gronfeydd wrth gefn, grantiau neu ad-daliadau adrannol.

 

Mae'r cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad yn dangos bod y gyfarwyddiaeth yn colli 7.6 swydd, ynghyd â rhywfaint o ostyngiad mewn oriau mewn swyddi eraill. Mynegwyd effeithiau colli'r swyddi hyn yn yr adroddiad, a bydd yn cael effaith ar y gallu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac amserol wrth gefnogi cyfarwyddiaethau eraill.

 

Ystyriodd yr aelodau bortffolio Chris Owen, y Prif Swyddog Digidol.

 

Nododd yr aelodau fod llawer iawn o arbedion yn seiliedig ar ddiswyddiadau gwirfoddol. Holodd yr aelodau a yw'r diswyddiadau gwirfoddol yn cael eu cadarnhau ac os na, pa mor hyderus yw swyddogion bod digon o wirfoddolwyr. 

 

Cadarnhaodd swyddogion o ran y tair swydd uwch beiriannydd gweithrediadau isadeiledd bod y rheini i gyd wedi'u cadarnhau. Cadarnhawyd arbediad o £156,906 ar gyfer 2025-26. Mae'r gostyngiad yn yr oriau gwaith o £9,895 hefyd yn cael ei gadarnhau fel arbediad ar gyfer 2025-26. Gan gyfeirio at y ddau ddiswyddiad gwirfoddol Gradd 9 ac un diswyddiad Gradd 5, mae'r broses yn dal i fynd rhagddi ac nid yw wedi'i chadarnhau.

 

Ar hyn o bryd mae pobl yn ystyried y swyddi diswyddiad gwirfoddol eraill; mae yna bobl sydd wedi gwirfoddoli ac sy'n cael eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.