Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datgeliadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Trafododd yr aelodau yr eitemau a ddewiswyd o
Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Rheolau Gweithdrefnau Contractau Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Mae'r dogfennau'n llywodraethu'r trefniadau ar
gyfer sut y bydd y Cyngor yn ymrwymo i gontractau. Bydd Deddf Caffael 2023 yn
dod i rym ar ddiwedd mis Chwefror, gan nodi'r broses ddeddfwriaethol, yn dilyn
ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd (UE).
Pwrpas y rheolau yw darparu tryloywder o ran sut mae'r Cyngor yn
ymgymryd â'i fusnes a'i gontractau. Y ddogfen a ddarperir yw'r ddogfen
sylfaenol a fydd yn rhan o Gyfansoddiad y Cyngor. Bydd swyddogion yn cael hyfforddiant i sicrhau eu
bod yn deall newidiadau allweddol y gofynion newydd. Bydd dogfennau hawdd eu
deall hefyd yn cael eu llunio i alluogi aelodau'r cyhoedd i ddeall y gofynion
newydd. Holodd yr aelodau a oedd y ddeddfwriaeth newydd yn
caniatáu i amodau gael eu pennu a all sicrhau bod yn rhaid i'r awdurdod
ystyried defnyddio busnesau lleol wrth ymrwymo i gontractau, yn hytrach na
chontractau a arweinir yn genedlaethol. Atgyfnerthodd swyddogion fod rheolau caffael yn
cael eu pennu gan ddeddfwriaeth a bod egwyddorion cyffredinol wedi'u gwreiddio,
gan gynnwys peidio â gwahaniaethu a
thryloywder. Rhaid rhoi cyfle cyfartal i unrhyw un yn y wlad wneud cais am
gontract. Fodd bynnag, bydd yr awdurdod yn ceisio sicrhau nad
oes dim byd yn rhwystro unrhyw un rhag gallu cymryd rhan yn y cais am gontract.
Mae'r Strategaeth Caffael yn nodi CNPT yn gyntaf, ac mae hyn yn ei gwneud yn
ofynnol i swyddogion sicrhau bod sefydliadau lleol yn cael yr un cyfleoedd i
wneud cais â sefydliadau eraill pan gaiff tendrau eu llunio. Mae'r Strategaeth Caffael yn gwreiddio'r
gwerth cymdeithasol mewn caffael. Mae hyn yn cynnwys hyd allweddol mewn tendrau
a chontractau sy'n annog cyflenwyr i ddarparu buddion cymunedol, ymgysylltu â
busnesau lleol a chreu swyddi lleol. Rhaid i swyddogion ystyried manteision
cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach contract. Amlinellodd swyddogion fod contractau mwy yn cael
eu rhannu'n gontractau llai i sicrhau bod busnesau lleol sy'n gallu cyflawni un
agwedd benodol yn cael cyfle i wneud hynny, yn hytrach na chaniatáu i un
sefydliad gael yr un holl waith. Mae gwaith ymgysylltu hefyd yn cael ei wneud â
chyflenwyr lleol, gan gynnwys digwyddiadau cwrdd â'r prynwyr. Mae tendrau hefyd
yn cael eu hysbysebu'n lleol. Pwysleisiodd swyddogion fod yr elfennau cyfoeth
cymunedol yn rhan annatod o weithgarwch caffael. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i
gyflwyno'r eitem gerbron y Cabinet. |
|
Adroddiad Blynyddol Cwynion a Chanmoliaeth 2023/2024 Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Amlinellodd swyddogion gynnwys yr adroddiad. Nododd yr aelodau ei bod yn anodd cyflwyno
canmoliaeth drwy'r wefan. Mae'n rhaid i chi chwilio am ffordd o gyflwyno
canmoliaeth, ond mae'n haws cyflwyno cwyn. Gofynnodd yr aelodau am welliant i'r
wefan i wneud gwybodaeth am gyflwyno canmoliaeth mor weladwy â sut i wneud
cwyn. Nododd swyddogion fod cryn dipyn o waith yn cael ei
wneud ar y wefan gorfforaethol. Mae cyfrif ar-lein i breswylwyr hefyd yn cael ei sefydlu a fydd
yn galluogi preswylwyr i ryngweithio â'r awdurdod. Bydd y tudalennau diwygiedig
hefyd yn caniatáu mynediad rhwydd i gyflwyno ymholiadau cyffredinol,
canmoliaeth a chwynion. Cadarnhaodd swyddogion fod y gwaith hwnnw'n cael ei
wneud i sicrhau bod cysondeb ar draws y cyfarwyddiaethau o ran sut yr ymdrinnir
â chwynion cam 1 a cham 2 a sut y caiff data ei gasglu. Dylai adroddiad fod ar
gael ar ddechrau mis Chwefror ynglŷn â hyn ac argymhelliad posib i'w
gryfhau a'i wella. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Hunanasesiad 2023/2024 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Rhoddodd swyddogion grynodeb byr o'r adroddiad, gan
amlinellu ei bod yn ddogfen statudol y mae'n rhaid i'r awdurdod ei chyhoeddi. Nododd yr aelodau fod rhai o'r awgrymiadau a'r
sylwadau a wnaed ar y ddogfen hon o'r blaen wedi cael eu hystyried a'u
hymgorffori yn y ddogfen. Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i
gyflwyno'r eitem gerbron y Cabinet. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu ·
Nid oedd unrhyw eitemau o
Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i'w hystyried. Cofnodion: Nid oedd angen ystyried unrhyw eitemau o
Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau yr eitemau monitro
perfformiad. |
|
Monitro Cyllideb Gyfalaf 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Holodd yr aelodau am rywfaint o wybodaeth a oedd yn
ymwneud â'r tanwariant a amlinellir yn y cyllidebau addysg. Cyfeiriodd yr
aelodau yn benodol at y gyllideb cynnal a chadw cyfalaf a phrydau ysgol am ddim
cyffredinol. O ran cynnal a chadw cyfalaf, dywedodd swyddogion y
bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r haf gan ei fod
yn ymwneud ag adnewyddu, adeiladu a gwaith trydanol. Gan gyfeirio at y cymorth
i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, cynigiwyd y grant hwn yn hwyr a bydd
y gwaith yn dechrau yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Rhagfyr. O ran yr
ysgolion bro, mae pedwar prosiect yn yr arfaeth a fydd yn dechrau’n gynnar yn
yr hydref. Pan fydd grantiau cyfalaf yn cael eu derbyn,
cadarnhaodd swyddogion fod yn rhaid
iddynt fynd drwy broses dendro a bod yn rhaid llunio dyluniadau. Fel arfer, mae
hyn yn amodol ar ganiatâd cynllunio hefyd. Mae'n cymryd amser i sicrhau bod y
broses hon yn cael ei dilyn yn ôl yr angen. Gwnaeth yr aelodau drafod y Gronfa Ffyniant
Gyffredin a holi a fyddai'r amserlenni i wario'r cyllid yn cael eu bodloni.
Cadarnhaodd swyddogion fod y mwyafrif helaeth o'r cyllid ar y trywydd iawn i'w
wario yn unol â'r amserlenni. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y rhaglen ariannu
ar fin cyrraedd blwyddyn bontio. Mae hyn yn golygu bod yr hen raglen ariannu'n
dod i ben, felly os na chaiff ei wario cyn hynny, bydd angen dychwelyd cyllid a
oedd ar gael i sefydliadau hyd at fis Mawrth 2025 i Lywodraeth y DU. Fodd
bynnag, cadarnhaodd swyddogion fod CNPT ar y trywydd iawn i wario'r arian a
ddyrannwyd iddynt. Holodd yr aelodau am y gronfa 'cymorth bwyd
uniongyrchol'. Cadarnhaodd swyddogion mai dyma olynydd yr hyn a arferai fod yn
'grant tlodi bwyd'. Mae'r grant ar gael i ddarpariaethau fel y banc bwyd, er
mwyn gwneud cais am offer cyfalaf. Cadarnhaodd swyddogion mai'r trac rasio yng Nghwrt
Herbert yw'r trac athletau. Holodd yr aelodau pam nad yw'n ymddangos bod cyllid
wedi'i ddyrannu i glirio'r hyn a gafodd ei ddymchwel ar Heol Dyfed. Cadarnhaodd
swyddogion fod cyllideb wedi'i dyrannu yn 2023/24, pan wnaed y prif waith
dymchwel. Roedd rhywfaint o wariant gweddilliol yn 2024/25 nad oedd cyllideb ar
ei gyfer. O ran maes parcio Heol Milland, dywedodd swyddogion
fod yr awdurdod yn prydlesu'r maes parcio a dan delerau ac amodau'r brydles
mae'r awdurdod yn gyfrifol am waith atgyweirio a chynnal a chadw ar y safle,
gan gynnwys y waliau cynnal. Holodd yr aelodau am y gyllideb a amlinellwyd ar gyfer gwaith adnewyddu ar 6 Ffordd yr Orsaf. Er nad yw'r gyllideb wedi'i gwario eto, dynodwyd bod y prosiect wedi'i gwblhau. Cadarnhaodd swyddogion fod yr adeilad yn parhau i fod yn wag ar hyn o bryd. Mae'r gwaith y mae ei angen ar yr adeilad yn helaeth ac ar hyn o bryd mae'n fwy na swm y cyllid sydd ar gael. Fodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5a |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024-25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Holodd yr aelodau sut roedd swyddogion yn monitro'r
arbedion amcanestynedig nas cyflawnwyd yn ystod y flwyddyn yn yr adrannau
amrywiol. Cadarnhaodd swyddogion fod cyfarfodydd misol â'r rheolwyr gwasanaeth
amrywiol i ystyried eu cyllidebau a phenderfynu ar yr hyn y maent yn ei wneud
mewn perthynas ag incwm ac arbedion a ddarparwyd hyd yn hyn a beth fydd
sefyllfa debygol eu cyllidebau ar ddiwedd y flwyddyn. Er y cydnabyddir y gall
hyn fod yn oddrychol, derbynnir mai'r asesiadau coch, oren a gwyrdd yw'r ffordd
orau o benderfynu a oes modd cyflawni'r arbedion yn y dyfodol. Wrth ystyried
cynllunio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, rhoddir ystyriaeth wedyn i'r
pwysau cylchol ynghylch a oes angen eu hystyried fel pwysau cyllidebol
sylfaenol neu a yw'n ymwneud ag amseru'n unig. Holodd yr aelodau pam nad oedd chwyddiant wedi'i
ddyfarnu yng nghyllideb 2024/25.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd chwyddiant wedi'i ddyfarnu ar gyfer y gyllideb
cyflenwadau a gwasanaethau. Felly, cynghorwyd yr holl adrannau adran a oedd yn
meddu ar gyllideb cyflenwadau a gwasanaethau bod yn rhaid iddynt gyflawni yn
unol â'u cyllidebau perthnasol. Fodd bynnag, yr hyn na chafodd ei ragdybio oedd
y byddai meysydd penodol yn cynyddu mwy na 3%, er enghraifft cynnal a chadw
priffyrdd. Roedd hyn yn golygu bod y gyllideb yn cael ei rhoi dan fwy o bwysau,
gan arwain at orwariant yn ystod y flwyddyn. Yn y dyfodol, mae swyddogion yn
ystyried dull sy'n benodol i'r gwasanaeth i sicrhau bod chwyddiant yn cael ei
ddyrannu'n briodol ar draws y gwasanaethau amrywiol. Holodd yr Aelodau am y gorwariant ar y gyllideb cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ac a oedd modd unioni'r gorwariant hwn yn ystod y flwyddyn. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai'r bwriad oedd cyflawni'r arbedion targed o £250,000 yn ystod y flwyddyn drwy aildendro llwyth o lwybrau cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ym mis Medi. Fodd bynnag, yn dilyn y broses aildendro, ni chronnwyd yr arbedion ac roedd y llwybrau yn ddrytach yn y pen draw. Cafodd rhywfaint o'r cynnydd mewn costau ei wrthbwyso drwy symleiddio llwybrau, ond roedd y sefyllfa gyffredinol yn dangos gorwariant o £659,000. Cynhaliwyd cyfarfod â'r ymgynghorwyr sydd wedi mynegi hyder os bydd y broses aildendro’n cael ei chynnal eto y flwyddyn nesaf y dylent allu cyflawni'r gorwariant o £350,000, ynghyd â'r £500,000 yn y cynllun ariannol tymor canolig. Mae rhagor o waith yn cael ei wneud hefyd yn y maes gwasanaeth i geisio lleihau costau cludiant. Amlinellodd yr aelodau eu pryder o ran y contract a'r ffaith nad yw arbedion wedi'u gwireddu eto. Cadarnhaodd swyddogion fod y gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion CNPT yn cyd-fynd â gwaith yr ymgynghorwyr allanol. Cadarnhaodd swyddogion fod mewnbwn gan sawl gwasanaeth i reoli'r prosiect hwn. Awgrymodd swyddogion y gallai seminar ar yr eitem hon fod yn ddefnyddiol i alluogi aelodau i ddeall y contract a'r meysydd gwasanaeth sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn. Awgrymodd yr aelodau fod angen galw cyfarfod craffu ar y cyd i ystyried ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5b |
|
Monitro Rheolaeth y Trysorlys 2024-25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Ni chafwyd unrhyw gwestiynau. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheolaeth y Trysorlys Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Ni chafwyd unrhyw gwestiynau. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Penderfynu arfer y pwerau a amlinellwyd yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mai 2015 Cofnodion: Penderfynwyd: Arfer y pwerau a amlinellwyd yn Adran 35 o Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
dynodedig at y diben hwn fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mai 2015 |
|
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - diweddariad Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Cyhoeddwyd Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn 2023 ac mae ar waith am gyfnod o bum mlynedd. Mae'r adroddiad a
gyflwynwyd yn adroddiad chwe mis am y prif bwyntiau, a fydd yn cael ei
ddefnyddio i lywio'r adroddiad blynyddol. Gofynnodd aelod a yw'r adroddiad yn ystyried nifer
y bobl ifanc sy'n cael eu gwahardd o ysgolion. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod
nifer y disgyblion sy'n cael eu gwahardd am dymor penodol ac yn barhaol yn cael
eu monitro. Ni waharddwyd unrhyw
ddisgyblion cynradd yn barhaol yn y flwyddyn academaidd bresennol. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Detholiad o Eitemau ar gyfer Craffu yn y Dyfodol ·
Blaenraglen Waith y Cabinet (i
ddilyn) ·
Blaenraglen Waith y Pwyllgor
Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Strategaeth
Cyfranogiad y Cyhoedd wedi cael ei thynnu yn ôl fel adroddiad unigol o
Flaenraglen Waith y Cabinet, ac y byddai'n cael ei hymgorffori fel rhan o'r
Cynllun Hunanasesu a Chorfforaethol. Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod wedi gwneud y
penderfyniad i ymgorffori'r strategaeth yn y dogfennau eraill. Mae Strategaeth
Cyfranogiad y Cyhoedd yn nodi nifer o ofynion i hyrwyddo democratiaeth leol ac
annog a galluogi pobl leol i gyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau. Nid
oes angen adroddiad penodol arno o ran nodi'r strategaeth cyfranogiad, ond
gellir cynnwys adroddiadau yn yr adroddiad hunanasesu blynyddol. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |