Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cyng. S Reynolds – Eitem 4(d) – personol.
Derbynnydd cyllid craidd. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ·
5 Medi 2024 ·
17 Hydref 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 5 Medi 2024 ac 17 Hydref 2024 fel cofnodion gwir a chywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Trafododd y pwyllgor yr eitemau a ddewiswyd o
Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023-2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Yr adroddiad yw'r adroddiad terfynol am gynllun
2020-2024 sy'n nodi'r ffordd y mae'r awdurdod yn cyflawni dyletswydd
cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae'r adroddiad eglurhaol yn nodi nifer
allweddol o amcanion a gyflawnwyd yn 2023-2024. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i
fynd gerbron y Cabinet. |
|
Y Gofrestr Risgiau Strategol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Strategaeth a
Gwasanaethau Corfforaethol y newidiadau a wnaed i'r gofrestr risgiau strategol.
Y bwriad yw cyflwyno cofrestr risgiau wedi'i diweddaru bob chwe mis yn hytrach
na phob blwyddyn. Erbyn hyn, mae sgôr risg gynhenid a sgôr risg weddilliol.
Mae'r matrics a ddefnyddir yn gosod uchafswm risg o 25 a'r raddfa risg leiaf
fyddai 2. Yn ystod yr haf, rhoddwyd datganiad am barodrwydd i
dderbyn risg ar waith. Mae hyn yn nodi ymagwedd yr awdurdod at y risgiau a geir
yn y gofrestr risgiau strategol. Mae'r datganiad yn seiliedig ar yr egwyddorion
sydd wedi'u cynnwys yn The Orange Book: Management of Risk - Principles and
Concepts a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU. Bydd angen i'r gofrestr risgiau
strategol gyd-fynd â'r datganiad am barodrwydd i dderbyn risg. Nodir nad yw'r sgôr risg darged wedi'i chwblhau
eto. Y rhesymeg dros hyn yw bod sgôr risg gynhenid, sy'n seiliedig ar
arbenigedd y swyddogion sy'n gyfrifol am y risgiau hynny; rhoddir camau
gweithredu lliniarol a rheolaethau ar waith a'r risg sy'n weddill yw'r risg
weddilliol. Yna bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benderfynu a ellir rheoli lefel
y risg weddilliol neu a oes angen ei lleihau. Beth yw'r risg darged ar gyfer yr
eitem benodol? Cyfeiriodd yr aelodau at SR06 a'i gyfeiriad at
adnoddau cyfalaf a refeniw annigonol, a allai achosi problemau. Awgrymwyd y
dylid rhestru hyn hefyd o dan eitemau eraill a chyfarwyddiaethau eraill.
Cadarnhaodd swyddogion fod yr eitem hon yn cynnwys trefniadau cynllunio
ariannol cyfan y cyngor ac nad yw'n benodol i gyfarwyddiaeth. O ran SR25, holodd yr aelodau a oedd ddefnyddio'r
gair “dyheadau” yn briodol gan fod seminar flaenorol yn nodi y byddai dirwyon
yn cael eu gosod pe na bai targedau'n cael eu cyflawni. Roedd yr aelodau hefyd
yn pryderu na fyddai'r targedau'n cael eu cyflawni. Cadarnhaodd swyddogion fod
y Cyngor wedi gosod targed o 2030 ar gyfer newid yn yr hinsawdd a
datgarboneiddio. Nododd swyddogion y pwysau ar y gyllideb a'r effaith y mae hyn
yn ei chael ar y gallu i gwblhau prosiectau sy'n cyfrannu at y targed o ran datgarboneiddio. Nodwyd bod gan bob cyfarwyddiaeth ei chofrestr
risgiau ei hun dan y gofrestr risgiau strategol gyffredinol. Cytunodd
swyddogion y byddent yn ystyried cyfeirio at y risgiau mwy penodol i
gyfarwyddiaeth fel rhan o'r gofrestr risgiau strategol. Cyfeiriodd yr aelodau at SR23 sydd wedi'i dynnu a'i gynnwys yn SR01 bellach. Cydnabyddir bod y risg wedi symud o fod yn gyfrifoldeb i’r Cyfarwyddwr Addysg i fod yn gyfrifoldeb i Gyfarwyddwr Adran yr Amgylchedd. Mae'r risg yn cyfeirio at adeiladau ar gyfer dysgu a'r effeithiau ar hynny. Holodd yr aelodau a oedd y risg hon wedi trosglwyddo i Adran yr Amgylchedd yn hytrach nag Addysg. Cadarnhaodd swyddogion, er bod penaethiaid yn meddu ar ymreolaeth dros ysgolion, fod yr holl waith ar yr isadeiledd yn cael ei wneud gan y tîm yn Adran yr Amgylchedd, sy'n gyfrifol am y risg strategol gyffredinol. Felly, roedd yn gwneud synnwyr cyfuno'r risg. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4b |
|
Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2023/2024 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a amlinellwyd ym
mhecyn yr agenda. Mynegodd yr aelodau eu pryder fod rhai o'r
eitemau'n awgrymu eu bod wedi cynyddu neu eu bod yn wyrdd, er nad oedd unrhyw
fesur newydd wedi cael ei nodi. Dywedodd swyddogion fod yr wybodaeth yn deillio o'r
cyfarwyddiaethau unigol ac y byddent yn cysylltu eto i gadarnhau hynny. O ran
eitemau a nodwyd yn wyrdd lle na nodwyd mesur newydd, cadarnhaodd swyddogion
fod hyn yn dangos cynnydd yn unig. Fodd bynnag, gwnaethant dderbyn barn yr
aelodau ynglŷn â hyn a byddent yn ei hystyried ar gyfer adroddiadau yn y
dyfodol. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r
adroddiad. |
|
Grantiau Trydydd Sector a Threfniadau Comisiynu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a amlinellwyd ym
mhecyn yr agenda. Holodd yr aelodau a oedd yr un swm ar gael â'r hyn
a gafwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol neu a oedd yn llai? Cadarnhaodd
swyddogion fod yr un swm ar gael â'r hyn a gafwyd yn ystod y flwyddyn
flaenorol. Mae'r awdurdod wedi ymrwymo
i gynyddu cyllid yn unol â'r cynnydd arfaethedig mewn grant refeniw ar gyfer y
flwyddyn ganlynol. Rhagwelwyd mai 0% fyddai cynnydd y Grant Cynnal Refeniw,
felly roedd yr un swm o gyllid ar gael. Y llynedd ni chafodd y cyllid ei ddyrannu'n
llwyr, ond cadarnhaodd y swyddog fod y swm llawn wedi ei adfer eleni. Cyfeiriodd yr aelod at y ffurflenni cais, a'r newid
canfyddedig mewn meini prawf sy'n awgrymu gwaharddiad rhag cyflwyno cais ar
gyfer 'cyllid craidd'. Dywedodd yr aelodau fod trafodaeth ym Mhwyllgor Cyswllt
y Sector Gwirfoddol yn awgrymu mai nod y grant oedd ariannu gweithgareddau
craidd nad oedd modd eu hariannu drwy feysydd eraill. Ar hyn o bryd, mae chwe sefydliad sydd wedi ymrwymo
i gyllid craidd, sef cyfanswm o £350,000 ar gyfer y flwyddyn nesaf fel rhan o'r
cytundeb tair blynedd. Cadarnhaodd swyddogion fod cynnig yn y trefniadau grant
i bennu uchafswm gwerth £25,000 er mwyn dosbarthu'r cyllid i fwy o sefydliadau.
Mae'r meini prawf wedi'u teilwra i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cefnogi
sy'n ategu meysydd blaenoriaeth a nodwyd. Dywedodd yr aelodau y dylid nodi sylwadau'r
pwyllgor ynghylch sicrhau bod y cyllid hefyd ar gael ar gyfer costau craidd, yn
ogystal â chostau prosiectau a bod hyn yn cael ei gyfleu i'r Cabinet cyn i
unrhyw benderfyniad gael ei wneud. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i
fynd gerbron y Cabinet. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Nid oedd unrhyw eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i'w
hystyried. Cofnodion: Ni chraffwyd ar unrhyw eitemau. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau eitemau monitro perfformiad. |
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Strategaeth -Cynllun Cyflawni a Monitro Hanner Blwyddyn Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Amlinellodd y Cyfarwyddwr bwysigrwydd y tri maes
gwasanaeth wrth ategu'r Cynllun Corfforaethol. Mae'n bwysig bod y cynlluniau
cyflawni ar waith ac i aelodau ddeall a gweld sut mae timau'n llwyddo i
gyflawni yn erbyn y cynlluniau hynny. Croesawodd yr aelodau fanylion y blaenoriaethau a'r
naratif ynghylch y rhain a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn eu herbyn, a
nodir yn yr adroddiad. O ran cyflwyno'r adroddiad, lle nodir mesurau
perfformiad penodol, crybwyllir eu bod ar y trywydd iawn. Fodd bynnag, nid yw'r
targed wedi'i nodi yn yr adroddiad. Mae peth o'r naratif yn nodi'r targedau, ac
mae hyn yn ei gwneud hi'n haws gweld lle mae rhywbeth ar y trywydd iawn. Mae
rhai o'r eitemau'n cael eu cyflwyno fel data, heb darged, ond crybwyllir eu bod
ar y trywydd iawn. Mynegodd yr aelodau eu dryswch ynghylch eitemau sy'n cael eu
nodi'n wyrdd er bod y data'n cael ei gyflwyno at ddibenion monitro'n unig. Nododd swyddogion y sylwadau, gan dderbyn bod
gwaith i'w wneud o ran cyflwyno data mesuradwy ac ansoddol yn yr adroddiadau
monitro. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r
adroddiad. |
|
Cynllun Corfforaethol 2024/2027 – Diweddariad Hanner Blwyddyn 2024/2025 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Nododd yr aelodau yr un pwyntiau am y cyflwyniad
â'r rhai hynny a fynegwyd yn yr eitem flaenorol. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r
adroddiad. |
|
Detholiad o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddiweddariadau i'r flaenraglen
waith. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |