Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu’r Gymuned, Cyllid ac Arweinyddiaeth Strategol - Dydd Iau, 17eg Hydref, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas  E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet

Cofnodion:

Trafododd y pwyllgor yr eitemau a ddewiswyd o Flaenraglen Waith y Cabinet.

 

3a

Cyllideb 2025/2026 pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym mhecyn yr agenda.

 

Amlinellodd swyddogion y gwahanol gynigion arbedion a chynhyrchu incwm yn eu cylch gwaith. Atgoffwyd yr Aelodau nad yw'r eitem hon yn rhan o'r broses ymgynghori ffurfiol ond mae'n gyfle i swyddogion roi syniad cynnar ar feddyliau cychwynnol mewn perthynas â'r gyllideb.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Strategaeth a'r Gwasanaethau Corfforaethol fod y gyfarwyddiaeth yn ystyried sut i liniaru ei phrosesau ond mae'n parhau i ychwanegu gwerth at yr holl wasanaethau a chyfarwyddiaethau eraill. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod gan y gyfarwyddiaeth y gyllideb gyffredinol leiaf, ac mae 90% o'r gyllideb hon yn cael ei dyrannu i dalu costau staff. Amlinellodd y Cyfarwyddwr nifer yr aelodau staff yn y gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd a nododd fod gostyngiad o 21 swydd yn y gyfarwyddiaeth yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw fanylion penodol am y gostyngiad mewn swyddi.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Digidol yr eitemau cyllidebol a neilltuwyd iddo, sy'n cynnwys y timau digidol a'r teledu cylch cyfyng ar draws yr awdurdod. Yn ystod 23/24 mae'r gwasanaeth wedi cyflawni arbediad o £429,000.

 

Mae'r arbedion ffôn symudol a nodwyd yn targedu rhannau o'r contract lle gellir cyflawni arbedion pellach. Nodir mai dyma'r arbedion olaf a fydd yn bosib o'r contractau ffôn symudol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i gefnogi cyfarwyddiaethau eraill, er enghraifft, newid modelau gweithredu yng nghyfarwyddiaeth yr amgylchedd. Aseswyd y trefniadau diogelwch yn Tregelles Court a gwnaed newidiadau gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a'r darpariaethau teledu cylch cyfyng sydd ar waith. Mae hyn wedi caniatáu i arbedion sylweddol i Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd gael eu gwneud trwy leihau diogelwch ffisegol ar y safle ac mae hefyd wedi dod â rhywfaint o arian ychwanegol i'r ddarpariaeth teledu cylch cyfyng. Bydd y dechnoleg hon hefyd yn cael ei defnyddio yn Y Ceiau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.  

 

Mae'r gwaith ailfodelu'r gwasanaeth a nodwyd yn ymwneud â'r strwythur staffio ar gyfer yr adran. Ysgrifennwyd at bob aelod o staff yn y maes gwasanaeth, gan ofyn a fyddent yn ystyried ymddeoliad cynnar, diswyddo'n wirfoddol, llai o oriau gwaith neu ymddeoliad hyblyg. Ar ôl eu derbyn, bydd yr holl ddatganiadau o ddiddordeb yn cael eu hadolygu ar ddull asesu sy'n seiliedig ar risg, er mwyn nodi a ellid rhyddhau unrhyw un o'r swyddi a'u tynnu o'r strwythur. Nodwyd bod rhan fawr o'r arbediad eisoes wedi'i wireddu drwy un swydd wag a dau ddiswyddiad gwirfoddol.

 

Holodd yr aelodau pa mor fawr yw'r tîm ar hyn o bryd a beth yw isafswm y nifer y gall y tîm weithredu ag ef. Ar hyn o bryd mae tua 90 o swyddi yn y Gwasanaethau Digidol. Fodd bynnag, byddai asesu isafswm y nifer i weithredu ag ef yn anodd gan ei fod yn dibynnu ar ba swyddogaeth o fewn y gwasanaeth sy'n cael ei hystyried a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r maes gwasanaeth hwnnw.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryder am aelodau staff a allai fod yn gweithio ar eu pen eu hunain oherwydd y ddarpariaeth deallusrwydd artiffisial a theledu cylch cyfyng a roddwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3a

4.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

Nid oedd unrhyw eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu i'w hystyried.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau i'w hystyried o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu.

 

5.

Monitro Perfformiad

Nid oes unrhyw eitemau monitro perfformiad i’w hystyried.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau monitro perfformiad i'w hystyried.

 

6.

Detholiad o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol pdf eicon PDF 773 KB

· Blaenraglen Waith y Cabinet

· Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i ychwanegu'r eitem ganlynol at y Blaenraglen Waith:

 

·       Grantiau a Threfniadau Comisiynu'r Trydydd Sector – 28 Tachwedd 2024

 

Cadarnhawyd y byddai cyfarfod pwyllgor craffu'r gyllideb yn cael ei gynnal ddydd Llun 13 Ionawr 2025.

 

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.  

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.