Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cynghorydd P Rogers Eitem 6(b) – Personol, Aelod
o Neath Athletic RFC |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ·
20 Chwefror 2025 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
20 Chwefror 2025 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet ·
Nid
oes unrhyw eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet i’w hystyried. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau i'w hystyried o Flaenraglen
Waith y Cabinet. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu ·
Nid oes unrhyw eitemau o Flaenraglen
Waith y Pwyllgor Craffu i’w hystyried Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau i'w hystyried o Flaenraglen
Waith y Pwyllgor Craffu. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau'r eitemau monitro perfformiad
fel a amlinellwyd yn yr agenda. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Ceisiodd yr aelodau esboniad o'r sefyllfa o ran
cronfeydd wrth gefn a gorwario o'i gymharu â'r gyllideb wreiddiol. Dywedodd
swyddogion eu bod yn gallu paratoi a dosbarthu dogfen a fyddai'n amlinellu'r
balans agoriadol, sefyllfa'r gwariant presennol mewn perthynas â'r gyllideb y
penderfynwyd arni a'r balans disgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Gofynnodd yr aelodau am yr arbedion mewn perthynas
ag ENV11 a'r arbedion a briodolir i'r blychau ailgylchu a thoriadau. Nodir yr
eitem yn oren yn yr adroddiad. Mae'n nodi y bydd gorwariant, ond caiff hyn ei
adennill mewn ardaloedd eraill. Ceisiodd yr Aelodau rywfaint o eglurder ar yr
eitem hon. Dywedodd swyddogion fod casgliadau gwastraff yn gweithredu o fewn y
gyllideb, ond mae'r gwariant ar gyfarpar yn parhau i fod yn uwch na'r gyllideb.
Bydd nifer y blychau'n lleihau wrth i nifer y blychau papur leihau gan fod
papur yn cael ei gyfuno â cherdyn yn y sachau. Er bod aelodau'n cydnabod yr wybodaeth a ddarperir,
cydnabuwyd, o ran cynigion penodol, nid yw'n ymddangos bod yr arbedion wedi
cael eu cyflawni. Dywedodd aelodau y byddai angen ystyried hyn ymhellach gyda'r
swyddogion perthnasol. Gofynnodd yr aelodau i'r swyddog am y diweddaraf o
ran cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r
eitem hon. Dywedodd swyddogion y byddent yn gofyn i Andrew Thomas, Cyfarwyddwr
Addysg a Nicola Pearce, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd gyflwyno'r diweddaraf o ran
yr eitem hon. Dywedodd Aelod y Cabinet, y Cynghorydd Simon Knoyle, fod
diweddariad wedi cael ei gyflwyno ar gyfer yr eitem hon ac roedd modd dosbarthu
gwybodaeth amdani. Gofynnodd yr aelodau am y diweddaraf o ran sefyllfa
gyllideb ysgolion ac unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am ysgolion a allai fod yn
ceisio diswyddiadau. Cadarnhaodd swyddogion y dylid ystyried yr eitem hon o
fewn cwmpas y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles. Nododd aelodau fod gorwariant rhagamcanol o £3m ar
gyfer y tair cyllideb ysgol ganol. Cadarnhawyd mai ysgolion canol oedd y tair
ysgol ar gyfer plant 3-16 oed yn y Fwrdeistref. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
|
|
Monitro Cyllideb Gyfalaf 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Gofynnodd aelodau a fyddai'r cyllid mewn perthynas
â thrac rasio Cwrt Herbert yn cael ei drosglwyddo i'r flwyddyn ariannol newydd.
Cadarnhaodd swyddogion y byddai hyn yn digwydd. Nododd yr aelodau fod arian
hefyd ar gael ar gyfer adnewyddu cyfleusterau'r bar. Cadarnhaodd swyddogion fod
y bar yn cael ei gynnal gan Hamdden Celtic ac ar hyn o bryd mae'r bar yn
adennill ei gostau, fodd bynnag yn dilyn y gwaith adnewyddu maent yn gobeithio
y bydd y bar yn gwneud elw yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnodd aelodau a oedd modd newid grantiau
Llywodraeth Cymru i gynorthwyo wrth gyflwyno eitemau nad oedd wedi'u cynnwys yn
y grant. Cadarnhaodd swyddogion fod grantiau penodol ar waith i gyflawni
blaenoriaethau gweinidogol penodol. Pan fydd grantiau'n cael eu cymeradwyo gan
Lywodraeth Cymru, fydd yn anodd defnyddio'r grant ar gyfer unrhyw beth heblaw'r
eitemau penodol sy'n rhan o'r cais. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Alldro Rheoli Trysorlys 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |