Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu’r Gymuned, Cyllid ac Arweinyddiaeth Strategol - Dydd Iau, 18fed Gorffennaf, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Ystyried yr eitemau a ddewiswyd o Flaenraglen Waith y Cabinet

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr eitemau a ddewiswyd o Flaenraglen Waith y Cabinet fel a nodir yn adran 3a, 3b a 3c o'r pecyn agenda.

 

3a

Cynllun Corfforaethol 2024-2027 - Gweithio tuag at CNPT mwy ffyniannus, tecach a gwyrddach pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryder y gallai aelodau'r cyhoedd gael eu drysu o ran pwrpas y Cynllun Corfforaethol. Gall aelodau'r cyhoedd ei ystyried yn faniffesto ar gyfer y Cyngor, yn hytrach na dyheadau'r Cyngor. Awgrymodd yr Aelodau y dylid mewnosod paragraff sy'n amlinellu'r hyn sy'n bosib ar gyfer y Cyngor, yr eitemau y gall y Cyngor eu rheoli, a'r eitemau lle nad oes ganddo reolaeth. Dylid ei amlinellu'n glir lle mae gan y Cyngor gysylltiadau â rhanddeiliaid, ond nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros bolisi a gweithredoedd y rhanddeiliaid.

 

Codwyd pryderon ynghylch tai o fewn y fwrdeistref a'r gallu i ddarparu tai ar gyfer y cyfleoedd gwaith sy'n codi o fewn y Fwrdeistref.

 

Pwysleisiodd yr aelodau fod cyfathrebu'n allweddol ar gyfer y Cynllun Corfforaethol. Mae'n bwysig ei fod yn adlewyrchu'n gywir yr hyn a gynhwysir yn awdurdodaeth y Cyngor a'r hyn na chaiff ei gynnwys.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd fod y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen fyw ac y bydd ffactorau allanol yn effeithio ar yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn y cynllun. Mae angen dogfen sy'n addas ar gyfer y cyhoedd hefyd sy'n nodi dyheadau'r Cyngor ac yn adlewyrchu'r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni gan yr Awdurdod.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen statudol ac mae angen iddo gynnwys nifer o feysydd i gydymffurfio â deddfwriaeth. O ran rheoli disgwyliadau'r cyhoedd, cydnabyddir bod y Cynllun Corfforaethol wedi'i ddrafftio gan gydnabod yr heriau ariannol sylweddol a wynebir gan y Cyngor. Mae'r ddogfen hefyd yn nodi'r strategaethau trawsnewid y cytunwyd arnynt gan y Cyngor.

 

Mae'r Cynllun Corfforaethol yn cyfeirio at y Strategaeth Digwyddiadau. Mynegodd yr aelodau eu bod am i'r broses o drefnu digwyddiadau gael ei symleiddio. Dywedodd swyddogion y bydd polisi'n cael ei ddwyn gerbron yr aelodau'n fuan ar yr eitem hon. Y gobaith yw y bydd hyn yn symleiddio'r broses ac yn annog pobl i gynnal digwyddiadau yn y fwrdeistref.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at yr amcan 'dechrau gorau mewn bywyd' mewn perthynas â lleihau gwaharddiadau. Dywedodd yr Aelodau y byddai'n anodd iawn cwblhau'r camau gweithredu hyn, yn enwedig gan ystyried nifer yr ysgolion sydd mewn cyllidebau diffyg neu sy'n symud tuag at gyllidebau diffyg.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.

 

3b

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024/2028 pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Amlinellodd swyddogion fod hwn yn gynllun sy'n cael ei lywodraethu gan statud. Nid yw'r amcanion cydraddoldeb a amlinellir yn y cynllun wedi newid ers y cynllun diwethaf gan y teimlir eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i'r cymunedau yng Nghastell-nedd Port Talbot. O ganlyniad i hyn, nid oedd yn ofynnol i'r awdurdod ymgynghori ar y cynllun. Nodir bod yr adran camau gweithredu wedi'i diweddaru i'w gwneud yn fwy SMART. Mae bellach yn cynnwys nid yn unig y camau gweithredu, ond hefyd y canlyniadau a'r mesurau yn erbyn pob cam. Bydd hyn yn helpu i fesur cynnydd yn erbyn pob cam gweithredu a bydd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo wrth gyflwyno gwybodaeth am Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol wrth symud ymlaen. Nodir bod ymdrech gorfforaethol eang wrth adolygu'r cynllun gyda mewnbwn gan bob rhan o'r Cyngor cyfan.

 

Holodd yr Aelodau a yw ceisiadau am gyflogaeth ar draws yr awdurdod yn cael eu newid i fod yn ddienw neu a oes rhai eithriadau? Cadarnhaodd swyddogion fod gan yr awdurdod y gallu i wneud unrhyw ffurflenni cais yn ddienw ac ar hyn o bryd mae hyn yn opsiwn y gall rheolwyr recriwtio ei ddewis. Nid yw'n orfodol eto. Er mwyn ei gwneud yn orfodol bydd angen newid y Polisi Recriwtio a Dethol. Cyn gwneud hyn, bydd swyddogion yn gwneud llawer o waith i gynyddu ymwybyddiaeth gyda rheolwyr recriwtio a chaiff hyn ei wneud mewn amrywiaeth o ffyrdd.

 

Mae un penodiad penodol lle nad oedd y ffurflen gais yn ddienw. Roedd hyn yn ymwneud â swydd y Prif Weithredwr. Cydnabuwyd, er mwyn gwneud y ffurflen gais yn ddienw, y byddai angen tynnu llawer o wybodaeth o'r ffurflen a fyddai hynny wedi golygu bod y broses o greu rhestr fer yn anodd iawn.

 

Dywedodd swyddogion y byddai'r polisi diwygiedig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Personél cyn y Nadolig.

 

Mynegodd yr aelodau eu pryderon am ddarparu addysg deg a chynhwysol i bob disgybl, yn enwedig y rheini o deuluoedd incwm isel. Nodwyd Ysgol Gynradd Sandfields gan yr aelod lleol fel allanolyn o ran yr holl fynegeion amddifadedd cymdeithasol. Mynegodd yr aelodau eu pryder o ran y cyllid ar gyfer yr ysgol a'r gefnogaeth y mae ei hangen yn yr ysgol. Rhoddwyd gwybod i'r aelod y byddai gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i rhannu â'r aelod lleol yn dilyn y cyfarfod.

 

Ystyriodd yr Aelodau gynhwysiant digidol a amlinellwyd yn y cynllun. Mynegwyd pryder am brinder y manylion a gynhwysir yn y cynllun o ran gwahaniaethu ar sail oedran a galluedd meddyliol ar gyfer dysgu a chyrchu'r rhyngrwyd. Cyfeiriwyd at ymarfer mapio ar dudalen 136 o'r adroddiad ac roedd yr adroddiad yn nodi bod adroddiad wedi cael ei gwblhau sy'n ymwneud â hyn. Roedd yr Aelodau'n awyddus i ddeall beth oedd cynnwys yr adroddiad ymarfer mapio a sut mae'r awdurdod yn bwriadu cynnwys y rheini sy'n cael eu heithrio'n ddigidol ar hyn o bryd.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod cyllid ar gael o dan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3b

3c

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 23/24 pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y Datganiad Blynyddol wedi'i gyflwyno i gefnogi datganiad cyfrifon drafft y Cyngor ar gyfer 23/24. Mae prif gorff yr adroddiad yn cynnwys prosesau, polisïau a strategaethau sydd gan y Cyngor ar waith i sicrhau llywodraethu cadarn.

 

Mae'r adroddiadau'n nodi'r cynnydd a wnaed ar feysydd gwella a nodwyd yn natganiad 22/23. Mae'r meysydd gwella a fydd yn cael eu trosglwyddo i'r flwyddyn ariannol hon hefyd wedi cael eu nodi.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.

 

4.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

·        Nid oedd unrhyw eitemau i'w hystyried o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau i'w hystyried o flaenraglen waith y pwyllgor craffu.

 

5.

Monitro Perfformiad

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau eitemau monitro perfformiad fel a nodir yn 5a, 5b a 5c o'r pecyn agenda.

 

5a

Monitro Alldro'r Gyllideb Refeniw 2023-2024 pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Holodd yr aelodau ynghylch y tanwariant maethu o £253k fel a nodir ar dudalen 279 o'r pecyn agenda. Cadarnhawyd gan swyddogion, pan fydd y gyllideb yn cael ei phenderfynu, caiff y ffigur ei benderfynu yn unol â lleoliadau maeth disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn. Mae'r ffigur a nodir yn yr adroddiad yn cyfeirio at leoliadau maeth mewnol. Mae nifer y lleoliadau yn ystod y flwyddyn wedi lleihau, felly mae'r ffigwr sy'n gysylltiedig â'r eitem hon hefyd wedi lleihau. Mae'r gost yn ymwneud â nifer y lleoliadau, nid nifer y gofalwyr.

 

Holodd yr aelodau ynghylch y tanwariant o £238k ar brydau ysgol am ddim. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd yr arian grant a dderbyniwyd tuag at y gost hon yn cael ei gynnwys pan gafodd y gyllideb ei phenderfynu. Nid oedd swm yr arian grant yn hysbys ar adeg penderfynu ar y gyllideb, felly ni ellid ei gynnwys nes iddo gael ei gadarnhau.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y rheolaeth dros dro a'r gorwariant ar y gyllideb weinyddu mewn perthynas â Pharc Gwledig Margam. Roedd yr aelodau'n deall y byddai ystyriaeth i geisio cynyddu incwm mewn perthynas â'r parc. Holodd yr Aelodau pa waith a wnaed ar hyn. O ran Hamdden Celtic, holodd yr aelodau beth oedd wedi achosi'r gorwariant gweinyddol? Cadarnhaodd swyddogion nad oedd ganddynt yr wybodaeth mewn perthynas â'r eitem hon a chadarnhawyd y byddent yn dod o hyd i'r wybodaeth a'i dosbarthu yn ôl yr angen.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y gorwariant mewn perthynas â'r arbedion rheoli swyddi gwag nas cyflawnwyd yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yr Aelod yn bryderus bod hyn yn cael ei ddefnyddio fel mecanwaith yn y gyllideb, fodd bynnag mae'n ymddangos nad yw'n cael ei gyflawni. Cadarnhaodd swyddogion fod pob cyfarwyddiaeth wedi derbyn targed rheoli swyddi gwag o 5%. Cyflawnwyd hyn ar draws y Cyngor, er efallai na fydd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cyfarwyddiaethau unigol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y gorwariant o £209,000 yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn perthynas â'r system a roddwyd ar waith a oedd yn mynd i gael ei hariannu o gronfeydd wrth gefn. Cadarnhaodd swyddogion fod gan yr awdurdod ddigon o arian wrth gefn i dalu am y system newydd a bod y gorwariant a nodir yn broblem gyda'r cyflwyniad o fewn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at gyfradd casglu treth y Cyngor a chydnabuwyd bod y Cyngor wedi casglu mwy na'r hyn yr oedd wedi'i gyllidebu ar ei gyfer. Roedd yr Aelodau'n bryderus nad oedd hyn wedi cael ei ragweld yn gywir a holwyd a fyddai unrhyw gamau gweithredu'n cael eu cymryd i sicrhau bod rhagolwg incwm treth y Cyngor yn gywir wrth symud ymlaen. Dywedodd swyddogion y byddai hyn yn cael ei ystyried pan fydd y gyfradd wedi'i phenderfynu ym mis Tachwedd, fodd bynnag, roedd cwpl o eitemau i'w nodi mewn perthynas â hyn. Yn gyntaf, mae ansicrwydd o ran cyflogaeth ar hyn o bryd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod o fewn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5a

5b

Monitro Alldro'r Gyllideb Cyfalaf 2023-24 pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Mewn perthynas â'r Gronfa Ffyniant Bro, nododd yr aelodau nad oedd cyfeiriad at brosiect Port Talbot a thrafnidiaeth. Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw gyllid wedi'i wario mewn perthynas â'r prosiect.

 

Cadarnhaodd swyddogion mai gwariant cyfyngedig sydd wedi bod ar brosiectau, yn enwedig prosiect Port Talbot. O ran prosiect y bont, cadarnhawyd bod yr awdurdod yn parhau i aros am y llythyr cynnig. Mae'n debygol bod yr etholiad cyffredinol diweddar wedi achosi oedi o ran rhai eitemau gan y llywodraeth ganolog.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y gyllideb cyfalaf gyffredinol, a mynegwyd eu dryswch ynghylch sut y mae rhai eitemau a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael eu cynnwys yn y gyllideb cyfalaf. Mae gwefan y Cyngor yn darparu rhywfaint o naratif o ran yr hyn sy'n cael ei gynnwys yn y gyllideb cyfalaf ond mae'r adroddiad yn amlinellu rhai eitemau a gynhwysir ynddo nad yw aelodau'n credu eu bod yn dod o dan ddiffiniad cyllideb cyfalaf. Ystyriwyd yr enghraifft o brydau ysgol am ddim. Awgrymodd yr Aelod y dylid nodi sylw esboniadol sy'n amlinellu beth yw buddsoddiadau.

 

O ran grantiau Prydau Ysgol am Ddim sy'n cael eu derbyn a'u nodi yn y gyllideb cyfalaf, cadarnhaodd swyddogion fod y rhain yn tueddu i ymwneud â'r prosiectau isadeiledd e.e. ceginau ysgol newydd, sy'n cael eu hariannu gan y grantiau.

 

Nododd yr Aelodau eu pryder lle cyfeiriodd yr adroddiad at 'fuddsoddiad arall'. Nid yw hyn yn nodi'n glir yr hyn y mae'r cyllid yn ymwneud ag ef. Cydnabu'r swyddogion y pryder hwn a chytunwyd i ddarparu rhagor o fanylion mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Holodd yr Aelodau, o ystyried tanwariant sylweddol gwerth £6.156m y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24, pa wersi a ddysgwyd ynghylch cynllunio prosiectau cyfalaf a'u rhoi ar waith ac a fydd y gwersi hyn yn cael eu defnyddio i lywio prosiectau yn y dyfodol ac amserlenni prosiectau cyfalaf i sicrhau cynnydd mewn cywirdeb wrth ragweld. Nododd swyddogion fod trydydd partïon yn aml yn rhan o brosiectau, ac ni all yr awdurdod reoli gweithredoedd y trydydd partïon. Ystyriwyd bod gan yr awdurdod fethodoleg dda o ran rheoli prosiectau cyfalaf, ond yn aml mae oedi o ran grantiau a grantiau atodol yn cyrraedd yr awdurdod.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

5c

Alldro Rheoli'r Trysorlys 2023-2024 pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at gyfraddau llog Banc Lloegr, a gofynnwyd, pan fyddant yn newid, a yw'r awdurdod yn dilyn fformiwla benodol o ran buddsoddi a benthyca neu a yw ymateb yr awdurdod i'r newid yn cael ei benderfynu gan y Cabinet? Cadarnhaodd swyddogion fod gan yr awdurdod gynghorwyr trysorlys sy'n monitro cyfraddau llog a byddant yn darparu cyngor priodol i'r awdurdod ei ystyried o ran amcanestyniad cyfraddau llog yn y dyfodol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

5d

Penderfynu arfer y pwerau a amlinellwyd yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mai 2015.

Cofnodion:

Penderfynwyd: Arfer y pwerau a amlinellwyd yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mai 2015.

 

6.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot - Adroddiad Blynyddol Cynllun Llesiant 2023-24 pdf eicon PDF 401 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Nododd aelodau'r Adroddiad Blynyddol.

 

7.

Detholiad o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol pdf eicon PDF 722 KB

·        Blaenraglen Waith y Cabinet

·        Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth swyddogion drwy'r diweddaraf o ran y Flaenraglen Waith.

 

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.