Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Ystyried yr eitemau a ddewiswyd o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr eitemau a ddewiswyd o
Flaenraglen Waith y Cabinet fel a nodir yn adran 3a, 3b a 3c o'r pecyn agenda. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Mynegodd yr Aelodau eu pryder y gallai aelodau'r
cyhoedd gael eu drysu o ran pwrpas y Cynllun Corfforaethol. Gall aelodau'r
cyhoedd ei ystyried yn faniffesto ar gyfer y Cyngor, yn hytrach na dyheadau'r
Cyngor. Awgrymodd yr Aelodau y dylid mewnosod paragraff sy'n amlinellu'r hyn
sy'n bosib ar gyfer y Cyngor, yr eitemau y gall y Cyngor eu rheoli, a'r eitemau
lle nad oes ganddo reolaeth. Dylid ei amlinellu'n glir lle mae gan y Cyngor
gysylltiadau â rhanddeiliaid, ond nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros bolisi
a gweithredoedd y rhanddeiliaid. Codwyd pryderon ynghylch tai o fewn y fwrdeistref
a'r gallu i ddarparu tai ar gyfer y cyfleoedd gwaith sy'n codi o fewn y
Fwrdeistref. Pwysleisiodd yr aelodau fod cyfathrebu'n allweddol
ar gyfer y Cynllun Corfforaethol. Mae'n bwysig ei fod yn adlewyrchu'n gywir yr
hyn a gynhwysir yn awdurdodaeth y Cyngor a'r hyn na chaiff ei gynnwys. Pwysleisiodd yr Arweinydd fod y Cynllun
Corfforaethol yn ddogfen fyw ac y bydd ffactorau allanol yn effeithio ar yr hyn
y gellir ei gyflawni o fewn y cynllun. Mae angen dogfen sy'n addas ar gyfer y
cyhoedd hefyd sy'n nodi dyheadau'r Cyngor ac yn adlewyrchu'r hyn sydd eisoes
wedi'i gyflawni gan yr Awdurdod. Cadarnhaodd swyddogion fod y Cynllun Corfforaethol
yn ddogfen statudol ac mae angen iddo gynnwys nifer o feysydd i gydymffurfio â
deddfwriaeth. O ran rheoli disgwyliadau'r cyhoedd, cydnabyddir bod y Cynllun
Corfforaethol wedi'i ddrafftio gan gydnabod yr heriau ariannol sylweddol a
wynebir gan y Cyngor. Mae'r ddogfen hefyd yn nodi'r strategaethau trawsnewid y
cytunwyd arnynt gan y Cyngor. Mae'r Cynllun Corfforaethol yn cyfeirio at y
Strategaeth Digwyddiadau. Mynegodd yr aelodau eu bod am i'r broses o drefnu
digwyddiadau gael ei symleiddio. Dywedodd swyddogion y bydd polisi'n cael ei
ddwyn gerbron yr aelodau'n fuan ar yr eitem hon. Y gobaith yw y bydd hyn yn
symleiddio'r broses ac yn annog pobl i gynnal digwyddiadau yn y fwrdeistref. Cyfeiriodd yr aelodau at yr amcan 'dechrau gorau
mewn bywyd' mewn perthynas â lleihau gwaharddiadau. Dywedodd yr Aelodau y
byddai'n anodd iawn cwblhau'r camau gweithredu hyn, yn enwedig gan ystyried
nifer yr ysgolion sydd mewn cyllidebau diffyg neu sy'n symud tuag at gyllidebau
diffyg. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr
argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024/2028 PDF 304 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Amlinellodd swyddogion fod hwn yn gynllun sy'n cael
ei lywodraethu gan statud. Nid yw'r amcanion cydraddoldeb a amlinellir yn y
cynllun wedi newid ers y cynllun diwethaf gan y teimlir eu bod yn parhau i fod
yn berthnasol i'r cymunedau yng Nghastell-nedd Port Talbot. O ganlyniad i hyn,
nid oedd yn ofynnol i'r awdurdod ymgynghori ar y cynllun. Nodir bod yr adran
camau gweithredu wedi'i diweddaru i'w gwneud yn fwy SMART. Mae bellach yn
cynnwys nid yn unig y camau gweithredu, ond hefyd y canlyniadau a'r mesurau yn
erbyn pob cam. Bydd hyn yn helpu i fesur cynnydd yn erbyn pob cam gweithredu a
bydd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo wrth gyflwyno gwybodaeth am Adroddiad
Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol wrth symud ymlaen. Nodir bod ymdrech
gorfforaethol eang wrth adolygu'r cynllun gyda mewnbwn gan bob rhan o'r Cyngor
cyfan. Holodd yr Aelodau a yw ceisiadau am gyflogaeth ar
draws yr awdurdod yn cael eu newid i fod yn ddienw neu a oes rhai eithriadau?
Cadarnhaodd swyddogion fod gan yr awdurdod y gallu i wneud unrhyw ffurflenni
cais yn ddienw ac ar hyn o bryd mae hyn yn opsiwn y gall rheolwyr recriwtio ei
ddewis. Nid yw'n orfodol eto. Er mwyn ei gwneud yn orfodol bydd angen newid y
Polisi Recriwtio a Dethol. Cyn gwneud hyn, bydd swyddogion yn gwneud llawer o
waith i gynyddu ymwybyddiaeth gyda rheolwyr recriwtio a chaiff hyn ei wneud mewn
amrywiaeth o ffyrdd. Mae un penodiad penodol lle nad oedd y ffurflen
gais yn ddienw. Roedd hyn yn ymwneud â swydd y Prif Weithredwr. Cydnabuwyd, er
mwyn gwneud y ffurflen gais yn ddienw, y byddai angen tynnu llawer o wybodaeth
o'r ffurflen a fyddai hynny wedi golygu bod y broses o greu rhestr fer yn anodd
iawn. Dywedodd swyddogion y byddai'r polisi diwygiedig yn
cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Personél cyn y Nadolig. Cadarnhaodd swyddogion fod cyllid ar gael o dan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3b |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 23/24 PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Cadarnhaodd swyddogion fod y Datganiad Blynyddol
wedi'i gyflwyno i gefnogi datganiad cyfrifon drafft y Cyngor ar gyfer 23/24.
Mae prif gorff yr adroddiad yn cynnwys prosesau, polisïau a strategaethau sydd
gan y Cyngor ar waith i sicrhau llywodraethu cadarn. Mae'r adroddiadau'n nodi'r cynnydd a wnaed ar
feysydd gwella a nodwyd yn natganiad 22/23. Mae'r meysydd gwella a fydd yn cael
eu trosglwyddo i'r flwyddyn ariannol hon hefyd wedi cael eu nodi. Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr
argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu ·
Nid oedd unrhyw eitemau i'w
hystyried o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau i'w hystyried o flaenraglen
waith y pwyllgor craffu. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau eitemau monitro perfformiad
fel a nodir yn 5a, 5b a 5c o'r pecyn agenda. |
|
Monitro Alldro'r Gyllideb Refeniw 2023-2024 PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda. Holodd yr aelodau ynghylch y tanwariant maethu o
£253k fel a nodir ar dudalen 279 o'r pecyn agenda. Cadarnhawyd gan swyddogion,
pan fydd y gyllideb yn cael ei phenderfynu, caiff y ffigur ei benderfynu yn
unol â lleoliadau maeth disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn. Mae'r ffigur a nodir
yn yr adroddiad yn cyfeirio at leoliadau maeth mewnol. Mae nifer y lleoliadau
yn ystod y flwyddyn wedi lleihau, felly mae'r ffigwr sy'n gysylltiedig â'r
eitem hon hefyd wedi lleihau. Mae'r gost yn ymwneud â nifer y lleoliadau, nid
nifer y gofalwyr. Holodd yr aelodau ynghylch y tanwariant o £238k ar
brydau ysgol am ddim. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd yr arian grant a
dderbyniwyd tuag at y gost hon yn cael ei gynnwys pan gafodd y gyllideb ei
phenderfynu. Nid oedd swm yr arian grant yn hysbys ar adeg penderfynu ar y
gyllideb, felly ni ellid ei gynnwys nes iddo gael ei gadarnhau. Cyfeiriodd yr Aelodau at y gorwariant mewn
perthynas â'r arbedion rheoli swyddi gwag nas cyflawnwyd yng nghyllideb y
Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yr Aelod yn bryderus bod hyn yn cael ei
ddefnyddio fel mecanwaith yn y gyllideb, fodd bynnag mae'n ymddangos nad yw'n
cael ei gyflawni. Cadarnhaodd swyddogion fod pob cyfarwyddiaeth wedi derbyn
targed rheoli swyddi gwag o 5%. Cyflawnwyd hyn ar draws y Cyngor, er efallai na
fydd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cyfarwyddiaethau unigol. Cyfeiriodd yr Aelodau at y gorwariant o £209,000
yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn perthynas â'r system a roddwyd
ar waith a oedd yn mynd i gael ei hariannu o gronfeydd wrth gefn. Cadarnhaodd
swyddogion fod gan yr awdurdod ddigon o arian wrth gefn i dalu am y system
newydd a bod y gorwariant a nodir yn broblem gyda'r cyflwyniad o fewn yr
adroddiad. Cyfeiriodd yr Aelodau at gyfradd casglu treth y Cyngor a chydnabuwyd bod y Cyngor wedi casglu mwy na'r hyn yr oedd wedi'i gyllidebu ar ei gyfer. Roedd yr Aelodau'n bryderus nad oedd hyn wedi cael ei ragweld yn gywir a holwyd a fyddai unrhyw gamau gweithredu'n cael eu cymryd i sicrhau bod rhagolwg incwm treth y Cyngor yn gywir wrth symud ymlaen. Dywedodd swyddogion y byddai hyn yn cael ei ystyried pan fydd y gyfradd wedi'i phenderfynu ym mis Tachwedd, fodd bynnag, roedd cwpl o eitemau i'w nodi mewn perthynas â hyn. Yn gyntaf, mae ansicrwydd o ran cyflogaeth ar hyn o bryd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod o fewn y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5a |
|
Monitro Alldro'r Gyllideb Cyfalaf 2023-24 PDF 301 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda. Mewn perthynas â'r Gronfa Ffyniant Bro, nododd yr
aelodau nad oedd cyfeiriad at brosiect Port Talbot a thrafnidiaeth. Holodd yr
Aelodau a oedd unrhyw gyllid wedi'i wario mewn perthynas â'r prosiect. Cadarnhaodd swyddogion mai gwariant cyfyngedig sydd
wedi bod ar brosiectau, yn enwedig prosiect Port Talbot. O ran prosiect y bont,
cadarnhawyd bod yr awdurdod yn parhau i aros am y llythyr cynnig. Mae'n debygol
bod yr etholiad cyffredinol diweddar wedi achosi oedi o ran rhai eitemau gan y
llywodraeth ganolog. Cyfeiriodd yr Aelodau at y gyllideb cyfalaf
gyffredinol, a mynegwyd eu dryswch ynghylch sut y mae rhai eitemau a
amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael eu cynnwys yn y gyllideb cyfalaf. Mae
gwefan y Cyngor yn darparu rhywfaint o naratif o ran yr hyn sy'n cael ei
gynnwys yn y gyllideb cyfalaf ond mae'r adroddiad yn amlinellu rhai eitemau a
gynhwysir ynddo nad yw aelodau'n credu eu bod yn dod o dan ddiffiniad cyllideb
cyfalaf. Ystyriwyd yr enghraifft o brydau ysgol am ddim. Awgrymodd yr Aelod y
dylid nodi sylw esboniadol sy'n amlinellu beth yw buddsoddiadau. O ran grantiau Prydau Ysgol am Ddim sy'n cael eu
derbyn a'u nodi yn y gyllideb cyfalaf, cadarnhaodd swyddogion fod y rhain yn
tueddu i ymwneud â'r prosiectau isadeiledd e.e. ceginau ysgol newydd, sy'n cael
eu hariannu gan y grantiau. Nododd yr Aelodau eu pryder lle cyfeiriodd yr
adroddiad at 'fuddsoddiad arall'. Nid yw hyn yn nodi'n glir yr hyn y mae'r
cyllid yn ymwneud ag ef. Cydnabu'r swyddogion y pryder hwn a chytunwyd i
ddarparu rhagor o fanylion mewn adroddiadau yn y dyfodol. Holodd yr Aelodau, o ystyried tanwariant sylweddol
gwerth £6.156m y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24, pa wersi a ddysgwyd ynghylch
cynllunio prosiectau cyfalaf a'u rhoi ar waith ac a fydd y gwersi hyn yn cael
eu defnyddio i lywio prosiectau yn y dyfodol ac amserlenni prosiectau cyfalaf i
sicrhau cynnydd mewn cywirdeb wrth ragweld. Nododd swyddogion fod trydydd
partïon yn aml yn rhan o brosiectau, ac ni all yr awdurdod reoli gweithredoedd
y trydydd partïon. Ystyriwyd bod gan yr awdurdod fethodoleg dda o ran rheoli
prosiectau cyfalaf, ond yn aml mae oedi o ran grantiau a grantiau atodol yn
cyrraedd yr awdurdod. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Alldro Rheoli'r Trysorlys 2023-2024 PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda. Cyfeiriodd yr Aelodau at gyfraddau llog Banc
Lloegr, a gofynnwyd, pan fyddant yn newid, a yw'r awdurdod yn dilyn fformiwla
benodol o ran buddsoddi a benthyca neu a yw ymateb yr awdurdod i'r newid yn
cael ei benderfynu gan y Cabinet? Cadarnhaodd swyddogion fod gan yr awdurdod
gynghorwyr trysorlys sy'n monitro cyfraddau llog a byddant yn darparu cyngor
priodol i'r awdurdod ei ystyried o ran amcanestyniad cyfraddau llog yn y
dyfodol. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Penderfynu arfer y pwerau a amlinellwyd yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mai 2015. Cofnodion: Penderfynwyd: Arfer y pwerau a amlinellwyd yn
Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ym
mis Mai 2015. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda. Nododd aelodau'r Adroddiad Blynyddol. |
|
Detholiad o eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol PDF 722 KB ·
Blaenraglen
Waith y Cabinet ·
Blaenraglen
Waith y Pwyllgor Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Aeth swyddogion drwy'r diweddaraf o ran y
Flaenraglen Waith. Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |