Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
11 Chwefror 2025 fel cofnod cywir. |
|
Adolygu Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru Cofnodion: Rhoddwyd adroddiad cynnydd i'r aelodau am yr adolygiad
canol tymor o'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol. Eglurwyd bod SQW yn cynnal adolygiad canol tymor o
Gynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru, strategaeth
allweddol ar gyfer lles economaidd i'r rhanbarth, a luniwyd yn 2021. Amlygodd swyddogion fod y cynllun yn manylu ar dri
uchelgais i'r rhanbarth o ran ffyniant economaidd, a oedd i ddod yn fwy gwydn a
chynaliadwy, yn fwy mentrus ac uchelgeisiol, ac yn fwy cytbwys a chynhwysol; er
bod yr uchelgeisiau hyn yn eithaf eang, roedd tair cenhadaeth fwy penodol o
lawer yn sail iddynt bryd hynny. Nodwyd bod y genhadaeth gyntaf yn canolbwyntio
ar hyrwyddo'r ardal o ran ynni adnewyddadwy newydd a datblygu economi Sero Net;
roedd yr ail genhadaeth yn ymwneud â chreu sylfaen fusnes gryfach, fwy gwydn a
mwy ymgorfforedig a thyfu'r stoc fusnes yn y rhanbarth. Ychwanegodd swyddogion
fod y drydedd genhadaeth yn gysylltiedig â thyfu a chynnal y cynnig profiad yn
y rhanbarth. Hysbyswyd y Pwyllgor, yn ogystal ag adolygu'r Cynllun,
fod SQW hefyd yn edrych ar sut mae'r economi wedi newid ers i'r ddogfen gael ei
llunio; roedd hyn yn cynnwys y newidiadau i'r cyd-destun polisi, gan
lywodraethau Cymru a'r DU. Eglurwyd bod SWQ hefyd yn adolygu'r ystod o
brosiectau a sefydlwyd dan bob un o'r tair cenhadaeth er mwyn deall y cynnydd a
wnaed wrth gyflawni'r prosiectau, yn ogystal â chyfleoedd newydd sydd wedi dwyn
ffrwyth, fel y Porthladd Rhydd Celtaidd a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Soniodd
swyddogion fod SQW yn ceisio deall yr holl wybodaeth hon er mwyn darparu
ymagwedd strategol newydd i'r rhanbarth; bydd hyn yn cynorthwyo mewn
trafodaethau â llywodraethau Cymru a'r DU a buddsoddwyr mewnol, yn enwedig wrth
leisio'r hyn y gellir ei gyflawni yn ystod y blynyddoedd nesaf. Nodwyd bod SQW wedi darparu cyflwyniad i Fwrdd Cynghori'r
Sector Preifat yr wythnos diwethaf; bydd Aelodau'r Bwrdd yn darparu sylwadau
ysgrifenedig i'w cynnwys wrth adolygu'r Cynllun. O ran y camau nesaf, eglurodd
swyddogion y bydd SQW yn cael eu gwahodd i gyfarfod o'r Is-bwyllgor hwn yn y
dyfodol i rannu'r gwaith a gwblhawyd a'r argymhellion ar gyfer symud ymlaen. Gofynnodd yr aelodau a oedd amserlenni penodol ar gyfer
cwblhau'r darn hwn o waith. Nodwyd mai'r nod oedd cwblhau'r gwaith hwn ym mis
Medi 2025. Cynhaliwyd trafodaeth mewn perthynas â chyfleoedd posib
ar gyfer dysgu a rennir rhwng Bwrdd Cynghori'r Sector Preifat a'r Is-bwyllgor
hwn mewn perthynas â'r darn hwn o waith. Croesawodd swyddogion yr awgrym a
byddent yn edrych ar gyfleoedd ar gyfer trafodaethau cydweithredol. Gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw gyllid cychwynnol i
gyd-fynd â'r strategaeth hon. Dywedwyd bod y strategaeth gyntaf wedi'i hariannu
gan Lywodraeth Cymru, ond ers hynny nid oedd swyddogion wedi defnyddio cyllid
ar gyfer y gwaith hwn; y farn oedd y dylid llunio strategaeth gydlynol sy'n
seiliedig ar dystiolaeth er mwyn ei defnyddio fel sylfaen mewn trafodaethau â
chyllidwyr yn y dyfodol. |
|
Gwefan Mewnfuddsoddi Rhanbarthol Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ddatblygiad y wefan
Mewnfuddsoddi Rhanbarthol. Nodwyd, ochr yn ochr â'r strategaeth ranbarthol, fod
Swyddogion yn datblygu gwefan sy'n adlewyrchu'r cyfleoedd ar draws y rhanbarth;
roedd hyn yn ymdrech gydweithredol rhwng cydweithwyr ym mhob un o'r pedwar
awdurdod lleol i awgrymu nifer o gyfleoedd y gellir eu cyflwyno i fuddsoddwyr. Rhannodd swyddogion ddelweddau presennol y wefan; roedd y
nodweddion yn cynnwys cefndir y rhanbarth a dangosyddion allweddol, gwybodaeth
am dalent a sgiliau, y cysylltedd o ran y rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd a
map cyfleoedd. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod swyddogion yn targedu
sawl sector, y mae pob un ohonynt yn cyd-fynd â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar
y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol; roedd swyddogion wedi gweithio mewn
partneriaeth â'r pedwar awdurdod lleol a SQW i lunio rhestr o flaenoriaethau.
Darparwyd enghreifftiau a oedd yn cynnwys gwyddor bywyd a lles, ynni,
gweithgynhyrchu clyfar, diwydiannau digidol a chreadigol a hamdden a
lletygarwch. Roedd cyflwyniad y wefan yn cynnwys trosolwg o'r ystod o
gyfleoedd buddsoddi a oedd wedi'u cynnwys i arddangos y gwahanol brosiectau a
oedd naill ai'n mynd rhagddynt, ar gael neu'n cael eu datblygu; roedd
swyddogion wedi lanlwytho cyfanswm o 29 o wahanol gyfleoedd ar draws y
rhanbarth. Nodwyd y bydd y sawl sy'n ymweld â'r wefan yn gallu cael manylion
pellach am y prosiect, gan gynnwys trosolwg, yr hyn yr oedd yn ceisio'i
gyflawni a sut y bydd y prosiect yn gwella'r ardal. Dangosodd swyddogion hefyd
sut i ddefnyddio'r map cyfleoedd, a oedd yn ffordd ddaearyddol o weld y
gwahanol safleoedd buddsoddi ar draws y rhanbarth. Eglurwyd bod y wefan wedi'i sefydlu mewn ffordd pe bai
datblygwr neu barti â diddordeb am gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas ag un
o'r prosiectau, y byddai'r cais yn cael ei anfon at yr awdurdod lleol
perthnasol a byddai'r rheini â gwybodaeth am y prosiect a dealltwriaeth ohono'n
ymdrin â'r cais hwnnw; yna byddai'n ofynnol i'r awdurdod lleol ymdrin â'r
diddordeb a grëir gan y wefan. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y wefan yn dal i gael ei
datblygu, ac roedd Swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid i ddiweddaru'r
wefan ymhellach; roedd y gwaith wedi'i reoli gan y grŵp arweinwyr
rhanbarthol ar draws y rhanbarth, a oedd yn cynnwys Penaethiaid Gwasanaethau
mewn datblygu economaidd. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod y wefan
wedi’i datblygu i arddangos y gwaith da sy'n cael ei wneud, neu sydd ar fin
cael ei wneud, yn y rhanbarth. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch y gwahanol wefannau a oedd
yn weithredol yn y rhanbarth, a'r angen i sicrhau, pa lwybr bynnag a
ddefnyddir, y byddai'r defnyddiwr yn cael ei dywys i'r we-dudalen gywir ac yn
cael yr wybodaeth y byddai ei hangen arno. Holodd yr aelodau pam
nad oedd rhai prosiectau wedi'u rhestru ar y wefan. Nodwyd bod y wefan yn cael
ei datblygu o hyd; os oedd sectorau ar goll neu ardaloedd yr oedd angen eu
datblygu, gallai swyddogion eu hychwanegu at y wefan yn ôl yr angen. O ran amserlenni, amlygwyd y byddai'r wefan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |