Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol - Dydd Llun, 22ain Gorffennaf, 2024 1.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2024 fel cofnod cywir. 

 

4.

Diweddariad ar Gyflawni - Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol pdf eicon PDF 505 KB

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad am y broses o roi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith yn ne-orllewin Cymru, sy'n un o bileri allweddol y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol.

Esboniodd y swyddogion fod diweddariadau blaenorol wedi rhoi gwybod i'r pwyllgor am yr amserlenni gan Lywodraeth y DU ac am greu'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol, y manylwyd arno yn adran gyntaf yr adroddiad a ddosbarthwyd, ynghyd â'r camau a gymerwyd i roi'r broses ar waith, y gellid dod o hyd iddynt yn ail adran yr adroddiad a ddosbarthwyd.

Nodwyd mai'r gwahaniaeth allweddol rhwng y rhaglen yn ne-orllewin Cymru a rhai o'r rhanbarthau eraill oedd bod cyfres o brosiectau angori wedi cael eu creu yn unol â'r prosiect cyffredinol. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod rhai o'r prosiectau angori wedi cael eu rhoi ar waith ar draws pob un o'r pedwar awdurdod lleol, megis y thema datblygu busnes, er mwyn sicrhau cysondeb rhanbarthol, gan hefyd ganiatáu i'r holl ardaloedd awdurdodau lleol addasu'r rhaglen hon i'w gofynion penodol eu hunain. Crybwyllwyd bod hyn hefyd yn berthnasol i themâu eraill megis gweithgarwch gwledig, creu lleoedd a chefnogi cymunedau.

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor fod llai na 4% o'r rhaglen yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddu, a oedd yn llawer rhatach na rhaglenni blaenorol; cadarnhaodd y swyddogion mai dyma un o elfennau cadarnhaol y rhaglen hon.

Dywedodd y swyddogion eu bod o'r farn yn ystod camau cynnar y rhaglen hon fod angen dirprwyo a bod yn hyblyg cymaint ag y bo modd, gan lynu wrth ymagwedd gyson; mewn rhai achosion, pan oedd gan awdurdodau lleol alwad agored am brosiectau annibynnol, bu'n rhaid iddynt hefyd drafod yr hyn roeddent yn ei gynnig ag arweinwyr angori, yn enwedig o ran themâu busnes a chyflogadwyedd. Nodwyd bod hyn wedi arwain at rwydweithiau lleol cryf iawn yn gweithredu ar lefel leol, a oedd yr un mor bwysig â'r partneriaethau ar lefel genedlaethol.

Crybwyllwyd bod cryn wybodaeth am fonitro bellach ar gael, y bydd aelodau etholedig yn ei derbyn ar lefel leol drwy adroddiadau monitro chwarterol helaeth; bydd yr adroddiadau hyn yn crynhoi'r wybodaeth sy'n deillio o bob prosiect, gan gynnwys data gwariant a straeon newyddion da sy'n tynnu sylw at fusnesau a chymunedau a oedd wedi cael cymorth.

Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith eu bod wedi cwrdd â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru i sicrhau bod swyddogion yn cael yr holl wybodaeth am gynigion er mwyn gwirio nad oeddent yn gwrthdaro â'r hyn roedd Llywodraeth Cymru'n ei gynnig. Er enghraifft, rhaid i geisiadau am grantiau busnes gael eu cyflwyno drwy Fusnes Cymru i sicrhau bod busnesau'n derbyn yr holl gymorth sydd ar gael a bod hynny’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod prosiectau'n dechrau cyflawni canlyniadau; roedd cyfanswm o fwy nag £1m wedi’i neilltuo i ychydig yn llai na 500 o fusnesau ledled y rhanbarth. Yn ogystal, roedd y swyddogion yn gweld datblygiadau o ran creu swyddi, gan gynnwys cwmnïau newydd, y mae rhai ohonynt yn dechrau defnyddio lle ar y strydoedd mawr,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 452 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.